Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Calonnau'n clicio?
'Chydig flynyddoedd yn 么l doedd neb yn yn ei wneud o, neu'n gallu ei wneud o. Ond yn yr oes dechnolegol sydd ohoni mae mwy a mwy o bobl yn troi at y we i ddod o hyd i gymar.
Er ei bod, i nifer, yn ffordd gyfleus o gyfarfod pobl newydd mae 'na beryglon ynghlwm a'r broses. Ymhlith y rhai sydd wedi cael profiad annymunol o dd锚tio ar y we ydy'r Ers i un dyn wnaeth hi ei gyfarfod ar-lein ei chyhuddo o fod yn 'rhy dew' mae Michelle wedi troi ei golygon at gynghori menywod eraill sy'n awyddus i fentro.
Mi fydd Michelle Thomas yn trafod ei phrofiadau ar 'Y We Ymlaen', rhaglen arbennig ar 成人快手 Radio Cymru ar 29 Gorffennaf. Buodd Michelle yn rhannu 'chydig o gyngor hefyd efo Cymru Fyw:
Arferion yn newid
Mae nifer fawr ohonon ni y dyddiau yma yn barod i rannu talp enfawr o'n bywydau ar y we. Ddegawd yn 么l symudodd fy nghenhedlaeth i o MySpace i Facebook a mi 'naethon ni dechrau cofnodi ein bywydau yn gyhoeddus - ymddygiad sy'n gwbl wahanol i'r cenhedlaethau cynt. R诺an, ni ydy'r cyntaf i gyrraedd y pwynt lle mae'r modd rydyn ni'n cynrychioli ein hunain ar y we yn cael dylanwad go iawn ar ein bywydau bob dydd.
Pan rydyn ni'n sgwennu ein proffil d锚tio, wrth gwrs 'dyn ni yn postio'r lluniau mwyaf deniadol o'n hunain. Wrth gwrs 'da ni isio ymddangos fel y fersiwn mwyaf c诺l, mwyaf secsi, mwyaf clyfar, mwyaf swynol ohonon ni'n hunain. Dyna 'da ni 'di hyfforddi ein hunan i'w wneud, dyna be' mae ein harwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud.
Un peth fedrwn ni ddim ei ffugio ar y we yw agosrwydd. Mewn byd lle gallwn ni gysylltu bob dydd, trwy'r dydd, a chreu proffil sy'n darllen fel CV ("ma' o'n licio 'Game of Thrones' hefyd? FO 'DI'R UN!") a gyrru nudes gwenieithus pan mae'r hwyl efo ni, 'da ni'n gwanhau ein gallu i ddatblygu cysylltiad emosiynol.
Mae agosrwydd yn ddeialog. Pan 'da i'n cyfarfod yn y byd go iawn, ma' 'na gymaint o ysfa am agosrwydd, rydan ni yn ei weld pan nad ydy o yna mewn gwirionedd.
Gonestrwydd
Yn lle creu bwlch lle gallwn ymddangos fel ni ein hunain, yn onest ac efo hyder, mae gan ferched ofn camliwio eu hunain, o gael eu barnu a'u gwrthod. Mae ambell i ferch wedi anfon eu lluniau ataf i a dweud "dwi 'di ddeud wrtho mod i'n g'neud WeightWatchers, ond be' os 'dio'n gas efo fi? Pam dwi'n teimlo'r angen i ymddiheuro am fy nghorff?".
Wrth gwrs mae angen i ni fod yn onest. Gallwn ni ddim cuddio be' fydd yn amlwg ar gyfarfod. Mae'n rhaid i ni bostio lluniau gonest o'n hunain. Ein hunain yn GYFAN. Os 'dach chi'n cam-ddangos eich hunain, 'dych chi'n sicr o gael siom yn y pen draw. 'Dach chi'n dweud yn syth nad ydych chi yn ddigon da. Mae o'n beth caled iawn i'w gydbwyso.
Mae d锚tio yn gallu bod yn galed. Ac mae'r we yn gallu bod yn lle hyll iawn i fod yn fenyw. Ond trwy dderbyn ein hunain, gallwn fod yn wir hapus, sengl neu beidio.
Tal, tew, tenau, gwallt hir, gwallt melyn, dim gwallt o gwbl. Anifeiliaid ydym yn y diwedd.
Ond peidiwch 芒 mentro colli rhywbeth hyfryd oherwydd eich awydd i greu delfryd. Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, peidiwch 芒 gwneud eich blaenoriaeth chi yn broblem i rywun arall.