Prynu safle i ganolfan iechyd 拢8m yn Nhregaron
- Cyhoeddwyd
Mae safle gwerth 拢727,000 wedi cael ei brynu i adeiladu canolfan iechyd i bobl sy'n byw mewn cymuned cefn gwlad yng Ngheredigion.
Mae'r cynlluniau terfynol ar gyfer y cynllun gwerth 拢8m, Cylch Caron, wedi cael eu cyflwyno i'r Cynulliad, gyda'r nod o uno iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol ar un safle.
Bydd yn cymryd lle Ysbyty Cymunedol Tregaron, cartref gofal a meddygfa.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y byddai'r cynllun yn dod a gwasanaethau yn "agosach at y bobl sydd eu hangen".
"Trwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egn茂ol ac annibynnol," meddai.
Mae cynlluniau hefyd ar gyfer 34 o fflatiau i bobl sydd angen mwy o ofal a chefnogaeth i aros yn eu tai eu hunan, a chwe safle ar gyfer pobl sydd angen mwy o gefnogaeth cyn iddyn nhw ddychwelyd adref o'r ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2015