Rheolau UE: 'Niweidio'r diwydiant pysgota'

Mae pysgotwyr a chadwraethwyr yn pryderu y gallai rheolau'r UE i warchod lefelau stoc draenogod y m么r, niweidio'r diwydiant pysgota yng Nghymru.

Mae gorbysgota mewn moroedd wedi gweld nifer draenogiaid y m么r yn nyfroedd Cymru yn gostwng yn sylweddol.

Mae'r UE wedi cyflwyno gwaharddiad o chwe mis ym mis Ionawr, sy'n golygu bod yn rhaid i bysgotwyr daflu unrhyw bysgod maent yn eu dal yn 么l.

Ond mae cychod masnachol yn parhau i gael pysgota hyd at 1,300kg o ddraenogod am bedwar mis o'r gwaharddiad.

Yn 2014, fe argymhellodd y Cyngor Rhyngwladol sy'n Archwilio'r M么roedd (ICES) y dylid gostwng y nifer o ddraenogod sy'n cael eu dal o 80%.

Dywedodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) eu bod yn "bryderus dros ben" am ddyfodol draenogod y m么r yn y DU.

'Eithrio rhai'

Dywedodd John O'Connor, cadeirydd y Ffederasiwn Pysgotwyr M么r Cymru: "Maen nhw wedi gwneud eithriad ar gyfer y rhai sy'n achosi'r difrod mwyaf.

"Dim ond ychydig iawn o bysgod 'da ni'n ddal, ac maen nhw yn ein hanwybyddu. Rwy'n hollol wallgo'."

Mae sefydliad Mr O'Connor, yn cynrychioli dros 60 o glybiau yn genedlaethol, mae hefyd yn aelod o'r gr诺p cynghori pysgodfeydd morol Cymru.

"Mae'n ddigalon iawn," ychwanegodd.

"Mae sgil-effaith pysgota, i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru werth miliynau."

'Annhebygol o atal dirywiad pellach'

Dywedodd llefarydd ar ran MCS: "Mae'r mesurau newydd yn annhebygol o atal dirywiad pellach, a bydd mewn gwirionedd yn lleihau gostyngiad stoc pysgod dim ond ryw 8%.

"Byddai'r stociau pysgod wedi elwa mwy o waharddiad llwyr o Ionawr i Fehefin, fel y cynigiwyd yn wreiddiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol y sector bysgota m么r yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer draenogod y m么r.

"Serch hynny, mae tystiolaeth wyddonol sy'n bwrw amheuaeth am ddyfodol hirdymor y stoc yng Ngogledd Ewrop," meddai llefarydd.

"Mae penderfyniad Cyngor Pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o becyn cymhleth o benderfyniadau, sy'n ystyried y dystiolaeth honno.

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sectorau hamdden a masnachol yng Nghymru i ddatblygu mesurau ar lefel Cymru i ddiogelu'r stoc ac i ganiat谩u pysgodfeydd i gynnydd eu gweithgarwch yn y misoedd nesaf."

Y prif gyfnod pysgota ar gyfer draenog y m么r mewn dyfroedd arfordirol Prydeinig yw rhwng Mawrth a chanol mis Mehefin.