Tiwn newydd Y Ficar
- Cyhoeddwyd
Allan o Diwn oedd teitl record hir gyntaf Y Ficar, un o grwpiau Cymraeg mawr dechrau'r wythdegau, ond fe allai hefyd fod yn ddisgrifiad o fywyd basydd y band, Emyr Roberts, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.
Bellach yn fwy adnabyddus fel yr actor a'r dynwaredwr 'Himyrs' mae wedi penderfynu adrodd stori ei "amser anodd" yn y chweched dosbarth pan oedd popeth "allan o diwn" ac yntau'n dyheu yn dawel bach am berfformio a chael llwyfan i fynegi ei hun.
Mae ei sioe un dyn newydd gyda Theatr Bara Caws , ac yn datgelu sut gwnaeth ei brofiadau fel gitarydd b芒s Y Ficar newid ei fywyd.
Yn dilyn llwyddiant y ddrama Chwalfa bu'n esbonio'r cefndir ei sioe nesaf wrth Cymru Fyw.
Ai hanes y gr诺p, dy hanes di, neu hanes y cyfnod yw'r sioe?
"Mae'r sioe yn cychwyn ar ddigwyddiad yn yr ysgol ar ddechrau fy nghyfnod yn y chweched dosbarth, pan ges i fy nyfodol wedi ei ddewis i mi gan y prifathro. Yn y b么n, ces fy ngosod yn y bocs 'gwyddonydd 芒 diddordeb mewn perfformio' yn hytrach na 'perfformiwr gyda diddordeb mewn gwyddoniaeth' fel y dylwn i fod wedi bod.
Sut y des i n么l at yr hyn oeddwn isio, yw byrdwn y sioe. Felly trwy gyfrwng drama, dynwared a ch芒n mi fyddai'n bwrw golwg ddychanol dros y cyfnod, ond yn fwy na hynny, dros y s卯n roc Gymraeg yn gyffredinol ers hynny.
Roeddech chi'n fand hynod lwyddiannus, wnaethoch chi brofi unrhyw 'perks' o'r llwyddiant hwnnw?
Ar wah芒n i'r mansion, y Ferrari a'r llong ti'n feddwl? Pe bae ond yn de!! Yr unig perk fel y cyfryw oedd y mwynh芒d a gafwyd o'r gwmn茂aeth wrth deithio, mynd i gigs a chyfarfod pobol. Roedd cael cyfle i weithio mewn stiwdio a chanfod fy hun yn gwneud mwy o berfformio yn ryw fath o perk faswn i'n deud.
Beth oedd pinacl dy gyfnod gyda'r Ficar?
Fysa'n rhaid deud noson wobrwyo Sgrech Ionawr 1983 ar 么l ennill tlws prif gr诺p 1982. Roedd perfformio i fil a hanner o bobol y noson honno'n wefreiddiol. Roedd cael gwneud yr albwm 'Allan O Diwn' yn haf 1983 yn stiwdio Sain yn brofiad hefyd, yn enwedig i rywun oedd wedi dilyn y S卯n Roc Gymraeg ac wedi clywed am y stiwdio foethus fodern 'ma!
A'r isafbwynt?
Cario g锚r o gwmpas maes mwdlyd Eisteddfod Abergwaun yn 1986 a gofyn i'n hunain faint yn fwy gallwn ni neud hyn? Yr ateb oedd tua pum mis. Ddaethom ni i ben yn Ionawr 1987. A hefyd cael ein hel adra o stiwdio HTV am fod hanner y band yn hwyr yn troi fyny ar 么l gig yn Aberystwyth y noson cynt. Hogia drwg, hollol amhroffesiynol!
Rwyt ti wedi perfformio rhagflas o'r sioe yn Eisteddfod Llanelli yn 2014, beth ddysgaist di o'r perfformiad hwnnw?
Peidio gwneud dim byd yn y Cwt Drama ar faes y Steddfod heb naill ai weiddi neu siarad trwy feicroffon! Roedd 'na lot o s诺n o'r tu allan yn treiddio mewn i'r lle. Be arall dwi wedi dysgu ydi bod pobol yn hoff iawn o nostalgia, tra bod y rhai nad oedd yno yn ffeindio'r pethau oeddan ni'n neud adeg hynny yn ddifyr, neu od!
Mae hon yn sioe gynhwysol ac felly roeddwn i'n hapus iawn i weld pawb yna! A deud y gwir, roeddwn i'n hapus iawn efo'r ymateb a gafwyd yn Llanelli - y lle'n llawn ddwywaith a phobol wedi methu dod mewn. Gobeithio y cawn ni'r un ymateb ar y daith.
Pryd fydd y daith yn cychwyn?
Galeri, Caernarfon, ar 4 Mai wedyn mi fyddwn ni'n teithio trwy fis Mai, yna cyfnod byr ddiwedd Mehefin, ddechrau Gorffennaf (ar 么l rhyw drip bach i Ffrainc am ryw reswm!) ac yna gorffen efo dwy noson yn y 'Steddfod, yn Theatr Y Borough, y Fenni, ddydd Llun a ddydd Mawrth.