Pontio rhwng dwy theatr
- Cyhoeddwyd
Gyda chanolfan gelfyddydau ac arloesi Pontio ym Mangor ar fin agor a'i rhaglen ddigwyddiadau'n cael ei chyhoeddi'r wythnos hon, fe ofynnon ni i'r actores Maureen Rhys fynd ar daith dywys o'r ganolfan newydd i gael sbec ar ein rhan.
Fel yr actores gyntaf i berfformio drama ar lwyfan yr hen Theatr Gwynedd ym Mangor gyda'i g诺r, John Ogwen, ac a wnaeth ei throedio lawer gwaith wedyn dros y blynyddoedd, mae ganddi atgofion cynnes o'r theatr a gaeodd yn 2008; ydy ei theimladau yr un mor gynnes tuag at y ganolfan newydd mae ardal Bangor wedi bod yn aros cyhyd amdani?
Y tro cynta' ddes i yma ychydig fisoedd yn 么l mi ddaethon ni efo het galed a sgidiau arbennig. Doeddwn i ddim yn gwybod sut y buaswn i'n teimlo achos mi roeddwn i wedi bod mor hapus yn Theatr Gwynedd ac wedi perfformio lot yno a dod i adnabod y bobl a'r staff.
Roedd 'na staff arbennig yn Theatr Gwynedd, ond mae'r staff yma yn Pontio hefyd yn arbennig ac wedi rhoi cymaint o groeso - ac maen nhw wedi bod mor urddasol trwy bob dim sydd wedi digwydd.
Ond mae cael dod yma heddiw a'r lle bron yn orffenedig, wel, teimlad braf sy' na wrth ddod i mewn i'r lle.
Mae'n lle smart. Mae'n syml-smart - mae'r ddau air yn mynd efo'i gilydd yn y cyswllt yma.
Dydi o ddim yn lle posh. Dwi'n meddwl y buaswn i'n teimlo reit annifyr yn dod i rywle posh a theimlo fod yn rhaid gwisgo dillad dydd Sul i ddod yma! Ond dydi hi ddim felly yma o gwbl.
Mae 'na le i gael coffi, brechdan neu fwyd poeth yma, a bar hefyd.
Ac wedyn, mynd i mewn i'r theatr; wel, mae'n lle braf, braf, a lliwiau moethus ynddi. Mae si芒p y theatr yn gwneud ichi deimlo'ch bod chi mewn ryw awyrgylch, ond nid awyrgylch ffals, gneud.
Mae'r seddi yn lliw cyfoethog, cynhesol, ac mae 'na deimlad braf yno efo'r pren ar y muriau - sydd yn bren Cymreig fel y cawson ni wybod heddiw.
Rydach chi'n teimlo y gallwch chi eistedd yno yr un mor gyfforddus yn eich twin set a'ch pearls neu yn eich j卯ns - ac ma hwnna'n beth anodd i'w wneud dwi'n meddwl - nid mod i'n gwisgo j卯ns cofiwch!
Dwi ddim yn gwybod a fydda i'n actio eto, ond mi faswn i'n licio cael gwneud yma. Mi fuaswn i'n licio rhoi tro arni achos dwi'n si诺r y basa hi'n braf iawn, iawn. Mi fedrwch chi weld ei bod yn llwyfan braf i berfformio arno.
Mae hi'n fwy nag oedd Theatr Gwynedd ac eto mae 'na naws yma ac maen nhw'n medru gwneud y llwyfan yn llai neu'n fwy yn 么l y gofyn.
Mae 'na Theatr Stiwdio yma hefyd fel lle i gynnal perfformiadau ar gyfer cynulleidfa lai, fel noson gomedi abrofol iawn er enghraifft. Roedd hynny'n gollad yn Theatr Gwynedd. Mae 'na ddwy theatr mewn ffordd, yn ogystal 芒'r pictiwrs.
Ydi mae theatr yn bwysig, ond mae cael pictiwrs yma ar wah芒n yn hollbwysig. Ac mi fyddan nhw'n gwerthu popcorn! Mae'r sinema dwi'n meddwl o bwysigrwydd mawr, mawr.
Ac fel pensiynwraig dwi'n falch o glywed y byddan nhw'n dangos ffilmiau yn y p'nawn a mae'n debyg y bydd rheiny'n cael eu targedu at bobl fy oed i felly mae hynny'n beth braf, yn enwedig yn y gaeaf.
Pan oedd y lle'n rwbal, roedd y ffaith fod yr adeilad ar y stryd yn anfantais ond erbyn hyn mae'r lleoliad o fantais.
Peidied neb 芒 meddwl chwaith mai rhywbeth i'r Coleg yn unig ydi o. Mae'n rhan o'r Coleg, ydi, ond mae'n perthyn i ni i gyd - mi faswn i'n licio dweud o F么n i Fynwy - ond o leia o F么n ymhell tu draw i Borthmadog a Phwllheli. Mae'n le sydd o fewn cyrraedd.
Dwi'n cofio yr oes wrth gwrs lle roedd bysus yn dwad; Merched y Wawr neu ryw gymdeithas eisiau trefnu amserlen am y mis. Wel, mi fedrwch chi lenwi bwlch yn fa'ma a chael bwyd cyn perfformiad yn yr adeilad, heb fod angen mynd i unman arall.
Mae'n lle i gynnal cynadleddau mawr hefyd. Mae'n lle i bawb - mae'n rhaid i bobl sylweddoli hynny dwi'n meddwl. Mae fyny i bawb ddod yma r诺an. Dowch i mewn unwaith o leia!
Ac rydw i'n falch y bydd y bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒 Theatr Gwynedd yn cael eu cydnabod yma; pobl fel John Gwilym Jones, Wilfred Lloyd Roberts a Graham Laker, Sais a ddysgodd Gymraeg a dewis aros yma a chyfarwyddo i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roeddwn i'n un oedd yn teimlo yn ofnadwy pan aeth Theatr Gwynedd. Yn teimlo dros bobl, teimlo'n gyffredinol nad oedd na ddim byd ar 么l ym Mangor, dim lle i weld ffilm na dim, a'i bod hi'n dlawd iawn arnon ni - wel tydan ni ddim yn dlawd dim mwy.