Annog plant i wneud mwy o ymarfer corff

Disgrifiad o'r llun, Frankie Jones gyda'i medal aur yn Gemau'r Gymanwlad Caeredin yn 2014

Mae'r gymnast o Gymru, Frankie Jones, yn annog plant a'u teuluoedd i gymryd rhan mewn nifer o gemau dan do ac allan yn yr awyr agored fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i wneud mwy o ymarfer corff ac i fynd i'r afael 芒 gordewdra ymysg plant a phobl ifanc.

Ymgyrch sy'n canolbwyntio ar weithgareddau corfforol yw Gemau am Oes o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cael ei chefnogi gan Chwaraeon Cymru, Gymnasteg Cymru, Diverse Cymru a'r Urdd. Ei nod yw dal dychymyg plant 5-11 oed gyda syniadau am gemau egn茂ol sy'n addas ar gyfer pob tywydd, er mwyn eu hannog i roi cynnig ar ffyrdd newydd a hwyliog o gadw'n heini yr hanner tymor hwn ac wedyn.

Yn 么l y ffigurau diweddaraf mae 26% o blant o oed dosbarth derbyn yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. Ar hyn o bryd, dim ond 35% o blant yng Nghymru sy'n bodloni'r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgareddau corfforol dyddiol ac mae hynny'n fwy cyffredin ymysg bechgyn nag ymysg merched.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn 么l y ffigurau hefyd, mae perthynas gref rhwng lefelau gordewdra ac amddifadedd gyda 28.5% o blant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew o'u cymharu 芒 22% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Amcangyfrifir y bydd angen 拢73 miliwn yn y GIG yng Nghymru i ymdrin 芒 gordewdra a mwy eto, sef swm o 拢86 miliwn, os caiff pobl sydd dros eu pwysau eu cynnwys. Yn 2008/09 gwariwyd rhwng 拢1.4 miliwn a 拢1.65 miliwn bob wythnos yn trin afiechydon yn deillio o ordewdra, swm sy'n cyfateb i rhwng 拢25 a 拢29 y person yng Nghymru.

Ennyn diddordeb

Gobaith Gemau am Oes yw ennyn diddordeb grwpiau o blant sydd, yn 么l yr ystadegau, yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Y nod fydd canolbwyntio ar deuluoedd yn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf a gweithio gyda grwpiau i hyrwyddo chwaraeon ymysg y rheini sydd leiaf tebygol o gymryd rhan.

Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn ymuno 芒 Frankie Jones heddiw ar gyfer sesiwn Gemau am Oes gydag aelodau o'r Urdd a'r clwb gymnasteg yn Ysgol Gynradd Mount Stuart ym Mae Caerdydd i lansio'n swyddogol yr ymgyrch Gemau am Oes.

Mae'r Clwb Gymnasteg yn bartneriaeth rhwng Gymnasteg Cymru a Diverse Cymru. Ei nod yw annog mwy o ferched o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan mewn gymnasteg. Mae'n rhan o brosiect tair blynedd i ddatblygu clwb gymnasteg cynaliadwy a llwyddiannus yn Butetown gyda'r gymuned leol yn ei gynnal ar gyfer y gymuned.

Disgrifiad o'r llun, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates

Yn siarad cyn y lansio dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Rydyn ni'n awyddus i ddal dychymyg plant, yn arbennig y plant hynny sydd rhwng 7 a 9 oed ac sy'n aml yn gwneud llai o weithgareddau corfforol wrth iddyn nhw ddechrau chwarae'n fwy annibynnol. Ry'n ni hefyd yn awyddus i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal ar hyn o bryd rhag bod yn egn茂ol. Mae'r manteision o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau egn茂ol yn niferus ac mae'n anghywir bod nifer o bobl ifanc yn colli'r cyfle.

"Rydyn ni am ysbrydoli plant i roi heibio'r consoles gemau yr hydref hwn a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol. Mae llwyddiant Cymru ym maes chwaraeon ar hyn o bryd, o Gwpan Rygbi'r Byd i fynd drwodd i gemau Euro 2016 oll wedi bod yn allweddol i ennyn diddordeb mewn chwaraeon a gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn adeiladu ymhellach ar y momentwm hwn. Yn ogystal 芒 hybu iechyd, mae'r gemau yn rhywbeth y gall y teulu cyfan ei wneud a'i fwynhau gyda'i gilydd yn ystod gwyliau'r hanner tymor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Frankie Jones: "Fy mhrif nod ers ymddeol yw defnyddio fy llwyddiant i annog a galluogi plant, a merched yn arbennig, i gymryd rhan mewn Gymnasteg a Chwaraeon.

"Rydw i wedi bod yn hyfforddi ac yn mentora gymnastwyr ifanc a phlant ac wedi ymweld 芒 chlybiau ac ysgolion gyda Gymnasteg Cymru er mwyn ceisio ysbrydoli a chymell y genhedlaeth nesaf i gymryd rhan. Credaf y dylai pob plentyn gael y cyfle i fwynhau a chymryd rhan mewn chwaraeon.

"Mae Clwb Gymnasteg Mount Stuart yn fenter arbennig o dda. Rydw i wedi bod yn helpu i hyfforddi'r plant a'u hannog i fod yn greadigol a chael hwyl yn y clwb ar yr un pryd 芒 hybu eu hiechyd a'u ffitrwydd - sef union weledigaeth ymgyrch Gemau am Oes."

Mae Llysgenhadon Gemau am Oes yn cael eu penodi'n rhan o'r ymgyrch a byddant yn helpu i'w hybu yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol.