Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teyrngedau yn dilyn damwain yn China
Mae Clwb Rygbi Pwllheli ymhlith y rhai sydd wedi cyhoeddi teyrngedau i ddyn ifanc a fu farw mewn damwain yn China.
Roedd Robin Llyr Evans, 21 oed, yn gweithio i'r cwmni technoleg chwaraeon "Hawkeye" yn Wuhan, China, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Deellir ei fod yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth tenis yn y ddinas pan ddigwyddodd y ddamwain.
Roedd Mr Evans yn chwaraewr rygbi talentog ac yn gyn gapten t卯m ieuenctid Pwllheli.
Fe gadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod wedi cysylltu 芒'r awdurdodau lleol a chyflogwyr Mr Evans "sydd yn ceisio cynorthwyo'r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma."
Ar eu cyfrif twitter dywedodd Clwb Rygbi Pwllheli "Mae'r Clwb yn hynod o drist i glywed fod Cyn Gapten ein Tim Ieuenctid - Robin Llyr Evans - wedi ei ladd mewn damwain wrth weithio yn China"
"Mae colli dyn ifanc mor ddisglair, talentog a dymunol yn sioc enfawr i'r gymuned."