成人快手

P锚l-droed Cymru: Sylw teilwng?

  • Cyhoeddwyd
DERFEL

Sut mae denu mwy o gefnogwyr i wylio Uwch Gynghrair P锚l-droed Cymru?

Ar drothwy tymor 2015/16 Uwch Gynghrair Cymru, Ysgrifennydd y gynghrair, Gwyn Derfel, sy'n bwrw golwg ar sefyllfa'r gystadleuaeth, ac yn pwysleisio bod cyfrifoldeb ar wasanaethau fel y 成人快手 i godi ymwybyddiaeth:

Y safon yn codi

Mae'n si诺r y buasai pobl yn disgwyl i Ysgrifennydd ganu clodydd y gynghrair mae'n gweithio iddi - ond dair blynedd a hanner wedi i mi gael y fraint o fy mhenodi i'm swydd, roedd ddydd Mawrth yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod wrth y llyw.

Roeddem wedi derbyn gwahoddiad gan David Melding AC (Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i lansio tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Lleoliad eiconig Cymreig a hynod addas i dynnu sylw pellach at ein cynghrair cenedlaethol ni yma yng Nghymru.

Wrth gwrs bod statws yr adeilad a'r gwahoddedigion yn plesio - ond yr uchafbwynt personol i mi oedd y ffaith bod y chwaraewyr o'r holl glybiau yn siarad ymysg ei gilydd ac yn dweud yn gwbl ddiffuant bod safon y gynghrair yn gwella bob blwyddyn.

Cafodd Y Drenewydd a'r Seintiau Newydd ymgyrchoedd i'w canmol yn Ewrop eleni - ond a gawson nhw'r clod haeddiannol am eu campau yn y wasg Gymreig?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Colli 2-0 oedd hanes Y Drenewydd yn erbyn un o gewri Ewrop, FC Copenhagen, ym mis Gorffennaf

Enillodd Y Drenewydd ddwy ornest yn erbyn Valletta - er mai crafu drwodd wnaeth West Ham yn erbyn Birkirkara, a orffennodd yn is na Valletta yn uwch-gynghrair Malta tymor diwethaf.

Ar 么l ennill dwy g锚m yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, bu'r Seintiau'n hynod o anffodus i golli yn ystod amser ychwanegol yn Videoton - clwb sydd wedi cyrraedd ffeinal Cwpan UEFA yn y gorffennol.

O ganlyniad i system ddethol UEFA - mae clybiau Cymru'n gorfod wynebu timau cryfach na nhw ar bapur - ac felly mae'r perfformiadau diweddar yn cynnig gobaith gwirioneddol bod ein clybiau yn fwy cystadleuol ar y llwyfan Ewropeaidd.

Cystadleuaeth i'r Seintiau Newydd?

Ers i mi gymryd yr awenau - dim ond Y Seintiau sydd wedi eu coroni'n Bencampwyr. Wrth gwrs y byddai hi'n braf tystio gwir ornest am y teitl y tymor hwn ond mae un peth yn sicr - mae'r Seintiau'n gosod y safon i'r clybiau eraill eu hefelychu - ac o'r herwydd mae safon y gynghrair yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Y cam nesaf wrth gwrs yw codi proffil Uwch Gynghrair Cymru ymhellach a chwyddo'r torfeydd.

Er bod pedwar o'r pum tymor mwyaf llewyrchus wedi digwydd o ran cefnogaeth yn hanes ein Cynghrair Cenedlaethol ers cyflwyno'r 'Deuddeg Disglair' (lleihau y gynghrair i 12 clwb) - mae llawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y clybiau a'r gynghrair yn cael y sylw haeddiannol gan garfanau o'r wasg ac o safbwynt niferoedd cefnogwyr.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd 'na gystadleuaeth frwd i'r Seintiau Newydd eleni?

Dylanwad y cyfryngau

Rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar ddarlledwr cyhoeddus fel y 成人快手 i gynnig sylw teilwng a chyson i Gynghrair Cenedlaethol camp fwyaf poblogaidd ein gwlad.

Mae rhaglen 'Ar y Marc' ar Radio Cymru yn enghraifft gadarnhaol o'r hyn sy'n ymarferol bosib - tra bod y diffyg cysondeb rhwng y gwasanaethau Saesneg a Chymraeg yn achos crafu pen cyson.

Serch hynny, rhaid bod yn gadarnhaol a rhaid nodi hefyd y bydd sylwebaeth lawn ar Radio Wales o ornest gyntaf y tymor rhwng Y Rhyl a Bangor nos Wener - a thalwyd sylw i'r lansiad ar Wales Today nos Fawrth hefyd - sydd yn gam pendant ymlaen.

Ar ddechrau tymor newydd fel hyn - oedwch am eiliad - a chofiwch fod Uwch Gynghrair Cymru yn gynghrair cenedlaethol. Mae'n haeddu ein sylw a'n cefnogaeth.

Ond mi faswn i'n dweud hynny wrth gwrs, a finnau'n Ysgrifennydd...

Gallwch ddilyn gemau Uwch Gynghrair Cymru ar Camp Lawn pob p'nawn Sadwrn ar 成人快手 Radio Cymru.

Y g锚m fyw ar Sgorio b'nawn Sadwrn ar S4C am 17:15 fydd Llandudno v Aberystwyth.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd un o gemau Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei darlledu yn fyw ar Sgorio pob p'nawn Sadwrn ar S4C trwy gydol y tymor