成人快手

Mesurau atal TB yn dechrau 'dangos gwelliannau'

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Mae mesurau i geisio atal TB mewn gwartheg rhag lledaenu yn dechrau dangos gwelliannau, yn 么l prif swyddog milfeddygol Cymru.

Ond dywedodd yr Athro Christianne Glossop ei fod yn rhy gynnar i ddod i gasgliad am effaith cynlluniau brechu moch daear yn Sir Benfro.

Yn siarad ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd bod achosion o TB, neu'r dici芒u, wedi lleihau o 28%.

Ychwanegodd bod lleihad o 45% yn nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu difa, ac nad oes TB mewn 94% o yrroedd Cymru.

Un flwyddyn sydd ar 么l o'r cynllun brechu pum mlynedd, ond nid oes disgwyl unrhyw ganlyniadau am ddwy flynedd arall.