Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢600m ar gyfer Metro yng Nghaerdydd a'r cymoedd erbyn 2020
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi cyhoeddi y bydd tua 拢600 miliwn yn cael ei wario ar system Metro newydd ar gyfer de ddwyrain Cymru o fewn y pum mlynedd nesaf.
Mae'r system yn debygol o fod yn gymysgedd o reilffyrdd ysgafn a thramiau, ac mae bwriad i wella gwasanaethau trenau a chyflwyno bysiau cyflymach yng Nghaerdydd a'r Cymoedd, hynny i gyd erbyn 2020.
Mae hyn yn ychwanegol i gynlluniau i drydaneiddio rheilffyrdd yn yr ardal.
Fe amlinellodd Ms Hart fanylion y cynlluniau a phenodi tri o gynghorwyr i gyflwyno'r cynllun trafnidiaeth, fel y gall y gwaith ddechrau yn 2017 brynhawn dydd Mawrth.
Brynhawn Mawrth, bu Cymru Fyw yn holi ambell un sut effaith fydd y datblygiad yn ei gael arnyn nhw?
Carreg filltir
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru wedi croesawu'r datblygiad.
Mae llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo 拢77 miliwn i gyfnod cyntaf y gwaith, sy'n cynnwys gorsaf newydd ar gyfer Glyn Ebwy.
Mae'r cyllid ar gyfer yr ail gam yn garreg filltir i Ranbarth Prifddinas Caerdydd, ac mae'r buddsoddiad yn gymysgedd o arian y llywodraeth yng Nghymru a'r DU, yn ogystal 芒 chyllid yr Undeb Ewropeaidd.
Maes o law fe amcangyfrifwyd bydd y gwelliannau ar gyfer y rhanbarth cyfan yn costio 拢2 biliwn.
'Penderfyniadau heriol'
Chris Gibb yw un o'r cynghorwyr sydd wedi eu penodi i arwain y prosiect, a dywedodd fod gan lywodraeth Cymru rai penderfyniadau heriol i'w gwneud.
"Mae llawer o ddewisiadau ar gael ac mae llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol gyda'r cynlluniau hyn," meddai Mr Gibb, sy'n gyn-gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru a chwmni trenau Virgin.
Ychwanegodd Mr Gibb: "Mae pawb eisiau amseroedd teithio cyflymach, gwasanaethau o ansawdd uwch, gwell dibynadwyedd, llai o orlenwi, a does neb eisiau talu mwy, hyd yn oed os ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny - naill ai drwy drethi neu brisiau teithio.
"Mae angen cydbwysedd rhwng yr hyn all fod, a'r hyn y gall technoleg ei gyflawni. "
Dywedodd fod system hybrid tram-tr锚n, gyda'r ddau yn rhedeg ochr yn ochr ar yr un math o draciau, yn un opsiwn - fel y rhwydweithiau trefol yn Lyon, Ffrainc.
'Gwelliannau sylweddol'
Y ddau ymgynghorydd arall yw prif swyddog gweithredu yswiriant Admiral, David Stevens - sydd wedi cefnogi'r syniad o Fetro ers blynyddoedd, wrth i filoedd o'i weithwyr gymudo bob dydd - ac Andrew Haines, prif swyddog gweithredol yr Awdurdod Hedfan Sifil, sydd 芒 chefndir mewn rheilffyrdd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AC, bod cyhoeddiad Ms Hart i'w groesawu wrth ystyried bod dinasoedd yn Lloegr fel Manceinion a Sheffield wedi datblygu systemau tebyg yn ddiweddar.
Ond rhybuddiodd bod hi'n "hanfodol bod busnesau a chymunedau yn ganolog i'r broses gynllunio gan mai nhw fydd yn elwa fwyaf o'r cynllun".
Ategodd cadeirydd polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru, Janet Jones, bod gan y cynllun potensial i greu "gwelliannau sylweddol" i rheini sy'n teithio yn yr ardal ac i fusnesau.
"Rydym yn awyddus i weld y cynllun yn symud ymlaen cyn gynted 芒 phosib," meddai.