成人快手

Pantycelyn: Staff Aberystwyth yn pryderu

  • Cyhoeddwyd
PantycelynFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neuadd breswyl Pantycelyn yw neuadd Gymraeg dynodedig y brifysgol

Yn dilyn cyhoeddi argymhelliad Pwyllgor Cyllid a Strategaeth Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn, mae nifer helaeth o staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol wedi cyfarfod i drafod y sefyllfa.

Dywedodd y staff mewn datganiad eu bod yn teimlo rheidrwydd i wneud hyn gan fod natur y llety cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn Aberystwyth yn fater sy'n "rhwym o ddylanwadu'n sylweddol ar lefelau boddhad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg cyfredol".

Mae'r staff o'r farn fod hon yn fater a allai fod 芒 goblygiadau sylweddol i waith recriwtio myfyrwyr, gan effeithio, o bosib, ar y ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg, swyddi dysgu a gweinyddol cyfrwng Cymraeg ac ethos Cymraeg a Chymreig y Brifysgol.

Roedd 50 o staff yn bresennol yn y cyfarfod, ac fe benderfynwyd ar gyfres o alwadau y disgwylir i'r Brifysgol i ymrwymo iddynt yn gyhoeddus.

'Amserlen bendant'

Ymysg y galwadau roedd:

  • Bod angen i'r brifysgol ymrwymo a chydnabod bod angen i neuadd 'Gymraeg' gynnwys gofodau cyffredin addas a digonol sy'n caniat谩u i fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ffynnu.

  • Parchu hanes a diwylliant Neuadd Pantycelyn ac harneisio'n llawn i hybu datblygiad pellach addysg uwch gyfrwng Cymraeg, ac i'r brifysgol ddatgan mai ei bwriad yw sicrhau parhad Pantycelyn fel llety Cymraeg yn y tymor hir.

  • Os yw Pantycelyn i gau am gyfnod er mwyn gwneud gwaith adnewyddu angenrheidiol, fod dyletswydd ar y Brifysgol i sicrhau darpariaeth ddynodedig gyfrwng Cymraeg amgen yn ei lle. Dylai'r ddarpariaeth amgen hon fod o natur addas a dylai adlewyrchu dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen er budd rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg y myfyrwyr.

  • Amlinellu mewn manylder y camau y bwriedir eu cymryd er mwyn gwireddu'r amcanion hyn gan gyhoeddi amserlen bendant ar gyfer y gwaith.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi argymell y dylai Neuadd Pantycelyn gau fel llety ar ddiwedd y tymor yr haf am gyfnod amhenodol, a chreu llety cyfrwng Cymraeg ar gampws Penglais.

Mewn datganiad yn ymateb i sylwadau'r staff, dywedodd y Brifysgol ei bod yn "gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg".

Mi fydd y penderfyniad yngl欧n 芒 dyfodol Pantycelyn yn cael ei wneud gan Gyngor y Brifysgol ar 22 Mehefin, meddai.