Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Derek Brockway
A ninnau ar drothwy'r haf pwy well na dyn tywydd 成人快手 Cymru, Derek Brockway i Ateb y Galw! Mi gafodd o'i enwebu gan y cyflwynydd newyddion, Tomos Dafydd
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Rwy'n cofio bod tua pedair oed ac yn anhapus iawn gyda fy nhad gan ei fod o wedi tynnu dymi allan o fy ngheg i a'i daflu ar y llawr.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Roedd 'na ferch yn fy nosbarth o'r enw Michelle Hatcher... ro'n i wedi dwli arni hi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae 'na nifer! Yn enwedig pan yn cyflwyno'r tywydd. Dwi wedi methu fy nghiw cwpl o weithie, ond un tro yn ystod darllediad byw dwi'n cofio gweld Rhodri Lewis, un o ohebwyr Wales Today, yn tywallt d诺r dros ei grys. Mi ofynais i iddo fe 'Have you been dribbling?' Yn anffodus roedd fy meic i'n fyw ac fe glywodd y gwylwyr fy nghwestiwn!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Pan fu farw fy nhad ym mis Chwefror eleni.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Siarad am y tywydd drwy'r amser!
Dy hoff ddinas yn y byd?
Efrog Newydd
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fy mhenblwydd yn 40 yng nghlwb 成人快手 Cymru yng Nghaerdydd. Roedd hi'n fendigedig i gael cymaint o ffrindiau o fy nghwmpas. Roeddwn i hefyd wedi gwisgo fel Bj枚rn o ABBA ar gyfer yr achlysur!
Oes gen ti dat诺?
Na
Beth yw dy hoff lyfr?
Well, fy llyfr i blant 'Sblash gyda Fflap a Seren' wrth gwrs! Mae llyfrau eraill ar gael!
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy nillad glaw! Mae'r tywydd yng Nghymru mor gyfnewidiol fe fuaswn i'n ff么l i gychwyn taith gerdded yn unrhyw le hebddyn nhw.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti ei gweld?
'The Railway Man'
Dy hoff albwm?
Mae 'na ormod ohonyn nhw, ond, dwi'n gwrando lot ar Fleetwood Mac yn ddiweddar.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Ffonio bob tro. Mae'n braf medru siarad gyda bod dynol. Ry'n ni'n teipio gormod y dyddiau yma.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Carwyn Jones. Bydde hi'n wych i weld sut beth yw rhedeg y wlad!
Pwy fydd yn ateb y cwestiynau yma yr wythnos nesaf?
Si芒n Lloyd