Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cadw mam yn heini!
Mae'r dietegydd a'r hyfforddwraig, Catrin Ahmun, yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau yn rhoi cyngor amserol yngl欧n 芒 ffitrwydd y Cymry.
Ond yn ddiweddar mae Catrin wedi bod yn rhoi cyngor arbennig ynlgl欧n 芒 ffitwydd ac ymarfer corff i'w mam.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Catrin a'i mam, Kay Davies, am eu profiadau o ymarfer gyda'i gilydd:
Catrin, beth wnaeth dy ysgogi i ddechrau cynllun ffitrwydd ar gyfer y ddwy ohonoch chi?
Dwi 'di bod yn gweithio yn y maes ffitrwydd ac iechyd ers rhai blynyddoedd bellach ac wedi helpu pobl i greu newidiadau mawr ond un o'm huchelgeisiau i oedd helpu a gwella iechyd a ffitrwydd fy mam.
Bydden i'n trio pasio tips ymlaen ati ond gan fy mod i'n byw yng Nghaerdydd roedd hi'n anodd, gyda hithau yn byw yn y gorllewin.
Ond daeth y cyfle perffaith i ni ym mis Rhagfyr 2014 gan fy mod i'n symud adre i gael babi, cyn symud i ffwrdd i fyw yn Lloegr gyda fy ng诺r.
Beth yw'r cynllun ymarfer?
Tra roeddwn i'n byw gartre gyda hi am tua wyth wythnos roeddwn i'n rhoi sesiynau ymarfer corff iddi o pilates,kettlebells, codi pwysau a bocsio.
Roedd hyn yn rhoi cyfle iddi drio amrywiaeth o bethe, gofalu bod hi'n gwneud yr ymarferion yn gywir cyn iddi ddechrau mynd i ddosbarthiadau a gwneud peth ar ei phen ei hun.
Un o'r pethe pwysicaf yw dewis math o ymarfer corff rydych chi'n hoffi ac yna dal ati i wneud oherwydd cysondeb sy'n creu gwelliant sy'n arwain at newidiadau yn y corff.
Mae cadw heini'n golygu bwyta'n iach hefyd. Ydych chi'n dilyn diet arbennig?
Dydyn ni ddim yn dilyn unrhyw ddiet. Yn fras, rydyn ni'n ychwanegu gymaint o fwydydd da nes bod y corff yn hapus a ddim yn blysio am fwyd gwael.
Rydyn ni'n bwyta lot o lysiau ffres (yn enwedig rhai gwyrdd!), ffrwythau, cnau, reis brown ac yfed lot o dd诺r. Rydyn ni'n cadw draw o fwydydd mae'r corff yn gweld yn anodd ei dreulio, pethe fel bara a pasta.
Oes unrhyw ymarfer corff/gamp sy'n anoddach i rywun h欧n ei wneud?
Does dim gwahaniaeth pa oedran rydych chi, pan rydych chi'n dechrau ar gynllun ymarfer corff dylid gwneud yn raddol bach, cymryd yr amser i ddod i nabod y corff, teimlo rhannau o'r corff, y cyhyrau, yn gweithio.
Un o'r ffyrdd gorau i wneud hyn yw drwy pilates neu i godi pwysau ac i ddysgu o dan arweiniad. Y person hynaf wnes i ei ddysgu oedd g诺r 76 oed ac mae e dal wrthi'n gwneud ac yn cadw'n gryf.
Beth ydych chi'n mwynhau ei fwyta? Ydych chi'n cael tr卯t bob hyn a hyn?
Sdim treat meals yn y ffordd yma o fwyta achos ma' popeth ni'n coginio yn flasus iawn! Am fywyd iach mae rhaid cymryd yr amser i baratoi bwyd ac i fod yn greadigol. Mae modd gwneud popeth yn iach, hyd yn oed pizza - neu .
Ydi dy fam yn ddisgybl da? Ydi hi'n gwrando arna ti?
Ma mam yn 'ddisgybl' da ac yn parhau i ddysgu a newid achos mae'n newid hir-dymor. Yn sicr, mae'n fam wych i fi ond yn bwysicach byth mae'n fam-gu ffantastig i Aron bach, fy mab - a'r gobaith yw bydd hi'n fyw ac yn iach am hirach nawr gyda'i ffordd iachach o fyw.
Fe ddysgodd Kay Davies, mam Catrin, dipyn o bethau newydd o dan arweiniad ei merch:
Pa mor anodd yw hi i gadw at gynllun Catrin?
Pan oedd Catrin yn byw adre tra bod ei g诺r bant yn gweithio, hi oedd yn cynllunio a choginio ein prydiau bwyd. Fe ddysgais i dipyn ganddi a nawr yn ceisio parhau gyda'r 'ffordd newydd'.
Mae bod yn drefnus i baratoi o flaen llaw yn allweddol ond pob hyn a hyn mae pethe'n mynd go chwith.
Ond fel un rhywbeth arall, y mwyaf y'ch chi'n ymarfer, yr hawsa' mae e'n dod. Rwy'n dod i ben i gadw at y cynllun rhan fwya' o'r amser.
Fe wnaeth Catrin glirio'r cypyrddau'r gegin a'r oergell o bob peth sy'n 'wael' i ni a dwi heb eu prynu nhw ers hynny! Gan fy mod i'n siarad 芒 hi yn aml dros y ff么n a Skype a hefyd yn gweld ein gilydd yn rheolaidd, 'dwi ddim yn gallu twyllo!
Oeddech chi yn gwneud unrhyw ymarfer corff cyn dechrau'r cynllun?
Ddim yn rheolaidd. Dwi wedi cerdded milltir bob dydd amser cinio ers rhai blynyddoedd bellach ond yn 么l Catrin 'dyw hynny ddim yn ddigon!
Dwi'n berson actif ac wedi bod mewn dosbarthiadau aerobig ayyb yn y gorffennol ond mae bywyd yn weddol brysur a doedd 'na ddim llawer o amser i fynd i wersi. Mae Catrin yn dweud mai esgus yw prinder amser!
Ydi Catrin yn bosi?
Dyw hi ddim yn bosi ond mae hi'n eitha' llym - ddim yn gwrando ar unrhyw esgusodion!
Ydych chi'n mwynhau' sialens? Ydych chi'n meddwl y bydd o werth yr holl waith caled?
Ydw - wedi mwynhau'n fawr. Mae mwy o egni gen i ac yn teimlo'n well yn fy hunan ac erbyn hyn dwi ddim yn gweld e fel gwaith caled.
Dwi ddim wedi cael unrhyw salwch trwy'r gaeaf er mod i wedi bod yng nghanol aelodau eraill o'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi dioddef anwydau, ffliw ayyb.
Mae'n amlwg fod Catrin wedi cael dylanwad bositif ar Kay, a bod y gwaith caled yn dwyn ffrwyth.