³ÉÈË¿ìÊÖ

Ateb y Galw: Trystan Ellis-Morris

  • Cyhoeddwyd
Trystan

Yr wythnos yma y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris sy'n Ateb y Galw, wedi i Ifan Jones Evans ei enwebu yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'm yn un da am gofio ond ma gen i gof plentyn o fod yn sgrechian yn yr uned ddamweiniau yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar ôl i Jeni fy chwaer drio nghodi o'r gwely a fy ngollwng. Arweiniodd hynny i mi dorri fy mraich!!! 'Chwarae'n troi'n chwerw' medd mam ond 'chwaer yn troi'n chwerw' medda fi!!!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Mi o'n i'n ffan mawr o 'Saved by the Bell' a dwi'n siŵr y buasai unrhyw fachgen arall oedd yn dilyn y gyfres yn cytuno bod Kelly Kapowski wedi gadael argraff sylweddol arnynt yn eu harddegau!!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ymmmmm… wel yn 'Steddfod yr Urdd ddwy flynedd yn ôl pan o'n i'n crwydro'r maes yn cyfweld hwn a'r llall (sydd yn waith eitha' blinedig) mi nes i gyfweld rhywun (dwi ddim am enwi neb) ac yn ystod y cyfweliad mi nes i ddylyfu gên heb yn wybod i mi. Amhroffesiynol 'ta be!!

Mi 'nath y person ofyn (efo chwerthiniad yn ei llais) os oedd y sgwrs yn un ddiflas (yn fyw ar y teledu) ac mai dyna pan o'n i'n dylyfu gên?! 'Naci', medda fi. 'Mi nes i weld rywun arall yn gneud wrth basio a do'n i methu helpu fy hun, sori'.

Dwi'n lwcus mod i wedi cael mynd nôl i gyflwyno'r flwyddyn ganlynol, erioed wedi teimlo'r fath gywilydd!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trystan yn lwcus fod Mistar Urdd wedi maddau iddo fo am ddylyfu gên!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n berson eitha' emosiynol os dwi'n bod yn onest. Mi 'na i grio ar ddim. Dim o hyd yn ddagrau o dristwch a blinder, ond o falchder ac ymdrech eraill i lwyddo, mae hynny yn creu argraff ac yn gadael ei hoel arna i yn aml. Yng ngeiriau y diweddar Ray Gravell 'does dim cywilydd mewn llefen'.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pan o'n i'n cyflwyno 'Cyw' a hithau'n nesu at ddiwedd yr wythnos yn y swyddfa a phawb yn eu hwyliau yn edrych 'mlaen at y penwythnos, mi o'n i'n cael fy hudo i ffonio ambell un yn y swyddfa efo acen 'sawth wêls' a chwarae pranc arnynt. Mi drodd hyn yn arferiad nes i rywun chwarae'r pranc arna i... nes i'm codi'r ffôn wedyn!

Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio nad ydi Trystan yn chwarae triciau ar ei chwaer, Jeni!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Gan bo gen i deulu agos iawn yn byw yn nhalaith Alberta, Canada dwi wedi treulio lot fawr o amser yn ninas Edmonton yn ddiweddar ac wedi dod i hoffi'r lle yn fawr iawn.

Cyfeillgarwch a glanweithdra ar ei orau! Mi nes i deithio i Washington DC cyn Dolig hefyd sydd wedi aros yn y cof am ei hanes a'i chryfder fel dinas o fewn America. Mae Llundain ymysg y gorau hefyd!!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Haha...wel y ddwy awr gynta' o fy mharti troi'n 30 yn ddiweddar, 'swn i'n hoffi deud noson i'w chofio...ond cofio dim llawar!

Oes genddot ti datŵ?

Oes, ma gen i datŵ o fap Cymru sydd maint fy llaw ar fy nghefn. Y tatŵ cynta' o nifer i mi gael gan mod i yng nghanol trafod a chynllunio y nesa', wedi dal y byg yn anffodus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru, yn llythrennol, yng ngwaed Trystan!

Beth yw eich hoff lyfr?

Dwi yng nghanol darllen 'Llanw' gan Manon Steffan Ross sydd yn anhygoel. Clyfrwch geiriau, plethu storïau a lliwio cymeriadau fel nad ydw i erioed wedi'i ddarllen o'r blaen. Dwi'n ffan mawr o waith Manon.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Siwmper! Ma gen i ddegau ar ddegau o siwmperi sydd yn debyg iawn i'w gilydd felly mae'n siŵr bod lot o bobl yn meddwl mod i'n gwisgo'r un dillad o hyd, sydd yn ddigon teg, ond ma gen i lwyth o rai tebyg. Yn aml iawn dwi'n cwyno mod i'n oer felly ma' siwmper dda yn hanfodol.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welsast di?

Mi nes i wylio 'Taken 1' a 'Taken 2' 'chydig wythnosa nôl er mwyn atgoffa fy hun o'r cymeriadau a'r storïau gan bod 'Taken 3' wedi dod allan. Wedi methu ei weld yn y sinema ond yn aros yn eiddgar iawn i'w brynu ar DVD. Liam Neeson (isod) ydi un o fy hoff actorion.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi 'di d'eud wrtha ti o'r blaen Trystan. Dwi wedi cael llond bol ar y pranciau ffôn ma!!"

Dy hoff albwm?

'Into Colour' gan Rumer. Mi nes i ddod yn gyfarwydd â hi nôl yn 2010 pan 'naeth hi gyhoeddi ei halbwm gynta' 'Seasons of my soul' ac yna 'Boys don't cry' yn 2012, y ddwy albwm yma hefyd yn anhygoel.

Cerddoriaeth sydd yn hawdd iawn i wrando arno ond sydd yn llawn ystyr, emosiwn a gonestrwydd ar yr un pryd. Llais sydd wedi bod yn gwmni i mi sawl gwaith ar fy nhaith nôl a mlaen o Gaerdydd i Ddeiniolen. Diolch Rumer.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Does dim cwestiwn, pwdin!! Ma' pawb sy'n fy 'nabod i'n dda yn gwybod nad ydw i'n foodie ac yn un sy'n dyheu am blatiad mawr o fwyd, ond dwi wrth fy modd efo pethau melys fel pwdin siocled, teisen sbwnj a chwstard a phwdin reis nain, sydd os cai ddeud, yn ddi-guro!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio i mi bob tro. Mae clywed llais yn well cwmni o lawar na darllen txt.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dyma gwestiwn anodd! Dwi o hyd wedi dweud y byswn i'n hoffi cael tro ar ddarllen y newyddion felly mi fysa camu mewn i esgidiau rhywun tebyg i Huw Edwards neu Dewi Llwyd am ddiwrnod yn brofiad a hanner.

"A dyna fi Trystan Ellis-Morris yn Ateb y Galw wythnos yma, diolch am ddarllen a hwyl fawr iawn i chi gyd" ...fysa fo ddim yn siwtio fi na?!

Disgrifiad o’r llun,

"Be di hyn? Trystan Ellis-Morris i gyflwyno Newyddion nos fory?!!"

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mari Grug