Teyrngedau i Alun 'Sbardun' Huws

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Aled Huw

Mae llu o deyrngedau wedi eu rhoi i'r cerddor a'r cyfansoddwr adnabyddus Alun 'Sbardun' Huws, a fu farw ddydd Llun.

Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y band o'r 1970au Tebot Piws, ac wedi chwarae gyda nifer o grwpiau'r cyfnod fel Ac Eraill a Mynediad am Ddim.

Fe weithiodd gyda nifer o artistiaid amlycaf Cymru, fel Bryn F么n a Tecwyn Ifan.

Roedd hefyd yn un o'r rhai oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad gwreiddiol o'r opera roc Nia Ben Aur.

Yn hannu o Benrhyndeudraeth, fe symudodd i Gaerdydd er mwyn bod yn gyfarwyddwr teledu gydag adran newyddion y 成人快手, yn ogystal 芒 nifer o swyddi eraill cyn ymddeol.

Siaradodd yn aml am ei frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn 2011 fe gyfansoddodd g芒n yn arbennig ar gyfer elusen Y Stafell Fyw, sef canolfan Gymraeg ar gyfer adfer o alcohol a chyffuriau yng Nghaerdydd.

Mae'n gadael ei weddw, Gwenno.

Disgrifiad o'r llun, Fe gydweithiodd gyda nifer o artistiaid amlycaf Cymru

Teyrngedau

Ar Raglen Dylan Jones ar 成人快手 Radio Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Dewi 'Pws' Morris, cyn cyd aelod o'r Tebot Piws, fod Cymru wedi colli talent unigyrw iawn.

"Nes i gwrdd 芒 fe am y tro cynta' yn y coleg. Roedd o'n foi unigryw iawn - roedd ganddo hiwmor gwahanol iawn, a llygaid direidus ganddo.

"Roedd o'n 'sgwennu am yr hen amser, fel caneuon gwerin bron. Roedd ganddo steil arbennig iawn.

"Roedd e'n gallu sgwennu am y gorffennol mewn modd unigryw iawn.

"Nid yn unig roedd e'n sgwennu fel bardd, sgwennu'r geiriau, roedd e'n gallu sgwenu'r caneuon i fynd gyda nhw."

"Roedd e wedi gwneud tamed o bopeth - roedd pawb yn ei 'nabod o. Roedd o'n ffotograffydd hefyd - a lluniau ffantastig ganddo."

"Bydd Sbardun yn fyw i ni drwy ei ganeuon a dwi'n gobeitho y bydd yr Eisteddfod neu rywun yn cynnal nos o waith ei ganeuon."

Dywedodd Iestyn Garlick, cyn aelod o'r gr诺p Ac Eraill fod 'Sbardun' yn ddyn annwyl a dyn diymhongar.

"Doedd o ddim yn hoff iawn o ganu, fe fydda' fo yn canu ond chwerthin oedd ei gryfder o.

Ychwanegodd ei fod yn "rhyfeddol" sut wnaeth Sbardun, gyda chefnogaeth ei wraig, Gwenno, ailgydio yn ei yrfa ar 么l brwydro yn erbyn alcoholiaeth.

"Bois bach, mae'n mynd i fod yn chwith ar ei 么l o."

Athrylith

Yn gynharach, ar raglen y Post Cynta, dywedodd y cyflwynydd Richard Rees: "Mae canu cyfoes Cymraeg wedi colli athrylith a nifer ohono ni wedi colli ffrind."

"Doedd o ddim yn geffyl blaen bod tro ond fe roedd o'n asgwrn cefn i nifer o grwpiau.

"Os edrychwch ar nifer o albyms Cymraeg fe welwch ei enw ar sawl un," meddai.

"Roedd ei gyfraniad yn helaeth iawn.

"Fe allwch chi fynd trwy restr o artistiaid sy wedi cael caneuon gan Alun neu wedi eu perfformio nhw.

"Sa'i 'n credu i mi glywed e yn dweud gair drwg an neb, a neb yn dweud gair croes am Alun.

"Oedd 'e'n agored iawn, dyn a'i draed ar y ddaear er ei ddawn anhygoel, roedd e'n ddyn annwyl iawn. Roedd e'n ffrind"

Dywed Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg 成人快手 Cymru:

"Trist iawn oedd clywed neithiwr am farwolaeth Alun 'Sbardun' Huws.

"Bu'n gweithio i 成人快手 Cymru am fwy na degawd a bydd ei gydweithwyr yn ei gofio fel aelod pwysig a chreadigol o'r t卯m a dyn oedd wastad yn gynnes a hynaws ei gymeriad.

"Roedd ei gyfraniad fel cerddor hefyd yn allweddol. Mae nifer o'i ganeuon poblogaidd i'w clywed ar donfeddi Radio Cymru yn gyson ac mae ein diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad cyfoethog i gerddoriaeth Gymraeg.

"Estynnwn ein cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau. "

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun 'Sbardun' Huws yn aelod o'r gr诺p Tebot Piws ynghyd ag Emyr Huws Jones, Dewi 'Pws' Morris a Stanley Morgan-Jones

Mae teyrngedau wedi eu rhoi iddo ar Twitter hefyd:

Dywedodd ei fod yn: "Dal i fethu dygymod a'r newyddion trist am farwolaeth fy ffrind Sbardun. Rhanu joc efo fo neithiwr. Arna i fy mywyd, yn llythrenol, iddo."

Daeth teyrnged hefyd gan y : "Ellan'i ddim coelio y newyddion trist am Sbardun, mae Alun a minna newydd recordio can o'i waith! Colled fawr" a "hen foi iawn, fel san'i yn deud ym Mhen Llyn".

Dywedodd y newyddiadurwraig "Cofio'n dda am Sbardun yn rhan allweddol o d卯m Newyddion ar un o gyfnode mwya cyffrous a chreadigol y rhaglen. Dyn annwyl a da."

Mewn neges arall, : "Trist iawn clywed ein bod wedi colli ffrind annwyl a thrysor cenedlaethol, Sbardun. Wastad yn bleser bod yn dy gwmni a chael canu dy ganeuon".

Roedd ei ddylanwad yn mynd ymhellach na'r byd cerddoriaeth, ac fe ddywedodd y : "Mor mor drist clywed am farwolaeth Sbardun - ffantastic o foi. Talent aruthrol ond neb ffeinach ar wyneb daear".

Disgrifiad o'r llun, Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Tebot Piws