成人快手

Meilyr - Brenin y jyngl

  • Cyhoeddwyd
Meilyr mewn golygfa o'r gyfres Teulu ar S4CFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meilyr mewn golygfa o'r gyfres Teulu ar S4C

Mae llais Meilyr Si么n i'w glywed yn rhuo o un o brif lwyfannau Caerdydd rhwng nawr a'r flwyddyn newydd.

Mae'r actor sy'n adnabyddus fel Rhydian Lloyd, y cyfreithiwr di-egwyddor yn y gyfres Teulu ar S4C yn aelod o gast sioe gerdd The Lion King sydd yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm rhwng 6 Tachwedd a 11 Ionawr 2015.

Cafodd Cymru Fyw y cyfle i siarad gyda Meilyr am berfformio yn un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd.

Pa ran wyt ti'n ei chwarae yn y sioe?

Dwi'n chwarae rhan Zazu, sef prif weithredwr y brenin. Rowan Atkinson oedd yn chwarae'r rhan yn y ffilm Disney.

Pa fath o wisg wyt ti'n gorfod ei gwisgo?

Mae'r wisg yn las gyda smotiau gwyn. Dwi'n gwisgo het bowler, siaced, gwasgod, trowsus hir, menyg, tails, ryff a sgidiau pigog coch ac oren. Mae'r siwt wedi ei wneud o wl芒n sy'n golygu ei fod e'n drwm ac mae'n trymh脿u ar 么l pob sioe gyda'r chwys sy'n diferu ohonaf. Dwi ddim yn argymell i unrhywun sefyll ar fy mhwys i chwaith yn enwedig pan mae'n dwym!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meilyr (ar y dde) gydag aelod o'r staff gefn llwyfan

Ti'n adnabyddus fel actor mewn cyfresi fel Teulu, ond Meilyr...dawnsio? Canu?

Dwi ddim wedi dawnsio o'r blaen ar gyfer unrhyw gynhyrchiad felly mae'n weddol newydd ac estron i mi. Mae angen o leia' hanner dwsin o 'sieris' arnaf i fel arfer cyn i mi fentro dawnsio yn gyhoeddus. Dwi wedi 'neud tipyn o ganu dros y blynyddoedd fodd bynnag, ar raglenni plant ac mewn eisteddfodau pan oeddwn i'n iau.

Beth oedd y broses wnaeth arwain atat ti'n cael y rhan?

Bu bron i mi beidio 芒 pharhau gyda'r clyweliadau o gwbl. Wedi i mi wneud y clyweliad cyntaf cafodd Daisy, fy merch ei geni, felly methais i'r ail glyweliad. Diolch i'r drefn cefais fy ngwahodd yn 么l am gyfarfod arall.

Roedd y clyweliadau'n anodd. Bu'n rhaid i mi ddawnsio/symud a chanu ynghyd 芒 dysgu golygfeydd ar gyfer pob un rownd. Tua'r diwedd roedd angen i mi fynd i weithdai trin pypedau. Fues i n么l ac ymlaen rhyw chwech o weithiau i gyd.

Ydy'r rhan hon yn wahanol i unrhywbeth wyt ti wedi ei wneud o'r blaen?

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meilyr ar glawr y cylchgrawn Sbec yn 1988...ond pa un yw e?

Ydi yn sicr. O ran maint ac o ran y disgwyliadau. Mae dros 50 aelod yn y cast a thros 50 aelod o'r criw sy'n gweithio'n ddiwyd tu 么l i'r llen. Mae angen dros ugain lori fawr i gludo'r sioe o un lleoliad i'r llall.

Dwi'n ymwybodol o'r cyfrifoldeb sydd arna i i berfformio'r rhan ac mae angen rhoi 100% i bob perfformiad oherwydd fod y gynulleidfa'n adnabod y sioe mor dda, boed hynny oherwydd y ffilm neu oherwydd eu bod nhw wedi gweld y sioe eisioes.

Mae hefyd yn brofiad braf i berfformio o flaen miloedd o bobl bob tro dwi'n camu ymlaen ar y llwyfan oherwydd mae'r sioeau fel arfer yn llawn.

Dwi wedi gwneud gwaith pyped a lleisio'r un pryd yn y gorffennol ar raglenni Cyw ar S4C. Fe wnes i ddefnyddio pyped wrth chwarae rhannau Jac Do ar Pentre Bach, Jac a Wil ar Rhacsyn a'r Goeden Hud a Fflach y wenynen ar Yn Yr Ardd.

Mae'r profiad wnes i ennill ar y rhaglenni yna wedi bod o fudd enfawr i mi ar gyfer chwarae rhan Zazu oherwydd dwi'n trin pyped a siarad ar yr un pryd.

Sawl sioe ydych chi'n eu perfformio mewn wythnos鈥c am sawl wythnos?

Ry'n ni fel arfer yn perfformio wyth sioe yr wythnos o ddydd Mawrth tan dydd Sul, ond weithiau mi fyddwn ni'n perfformio naw sioe. Mae hyd ein arhosiad yn amrywio o un lle i'r llall. Mi fyddwn ni'n treulio 10 wythnos yng Nghaerdydd sydd yn nefoedd i mi oherwydd dwi adre am gyfnod hir!!

Ai dim ond cymryd rhan yn y sioe yng Nghaerdydd wyt ti, neu fyddi di'n cario ymlaen wedi'r run presennol?

Dwi wedi bod yn teithio gyda'r sioe ers Awst 2012. Hyd yn hyn dwi wedi bod ym Mryste, Manceinion, Dulyn, Birmingham, Caeredin, Plymouth, Bradford, Lerpwl, Southampton, Sunderland a nawr Caerdydd.

Dwi am barhau gyda'r daith ar 么l Caerdydd pan fyddwn ni'n mynd yn 么l i Fanceinion ac yna Basel yn y Swistir.

Pa ran arall fyddet ti wedi hoffi ei gael yn y sioe, petai ti heb gael dy ran bresennol?

Timon heb amheuaeth!

Pwy sy'n gweithio galetaf yn y sioe?

Fi!!! Mewn gwirionedd mae gofynion pawb yn wahanol o ran pwysau gwaith. Dwi'n siwr na fyddai'r dawnswyr eisiau pypedau mwy na fydden i eisiau dawnsio!

Beth oedd y sialens fwyaf oedd yn rhaid i ti ei oroesi yn y sioe?

Y sialens fwya' dwi wedi gorfod ei goroesi yn y sioe yw ceisio symud yn osgeiddig ar draws y llwyfan tra'n dweud fy ngeiriau a thrin y pyped ar yr un pryd. Dwi'n fab ffarm o Orllewin Cymru'n wreiddiol, felly dyw symud yn osgeiddig ddim yn rhywbeth sydd yn dod yn naturiol i mi!!

Ond y peth mwyaf yw bod fi'n chwarae Zazu gydag acen Albanaidd! Doedd dim problem o gwbl tan i mi ffeindio mas bod y sioe'n mynd i Gaeredin.

Diolch i'r drefn wnaeth yr Albanwyr ddim sylwi mod i ddim yn Albanwr, felly des i off 'da hi! Ond mi wnes i golli cwsg a phownd neu ddou cyn i ni agor lan yna!