Llai o arian i ganolfannau dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr cwmni sy'n darparu addysg Gymraeg i oedolion wedi rhybuddio y gallai toriadau ariannol i'r sector olygu bod swyddi'n cael eu colli.
Yn siarad ar y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Ioan Talfryn ei fod yn debygol y bydd yna hefyd lai o ddosbarthiadau'n cael eu cynnig yn y dyfodol.
Mae'n ymddangos bod y sector yn wynebu toriadau o hyd at 15% dros y flwyddyn nesa'.
Mae Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i'r Iaith wedi beirniadu'r penderfyniad.
Swyddi yn y fantol
Fis Ionawr cafodd y canolfannau wybod y byddai yna doriad o 8% i'w cyllidebau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15.
Nawr mae Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr yn dweud y bydd 'na doriad pellach o 7%.
Yn 么l y llythyr, roedd y prif weinidog a'r gweinidog addysg "wedi gorfod dod i benderfyniad anodd i dorri'r dyraniadau Cymraeg i Oedolion" ymhellach.
Ioan Talfryn yw prif weithredwr Popeth Cymraeg, sydd 芒 chanolfannau yn Llanrwst a Dinbych.
Meddai: "Roedden ni'n disgwyl toriad eleni a 'da ni wedi clywed rwan bod y toriad yn ddwbl yr hyn oeddan ni'n disgwyl.
"Be' mae'n ei olygu ydy, ers y Gynhadledd Fawr ma' Cymraeg i oedolion wedi gweld gostyngiad o 拢2.3 miliwn yn eu cyllideb yn genedlaethol.
Ychwanegodd y gallai'r sefyllfa olygu bod yn rhaid diswyddo staff: "Dydyn ni ddim yn hollol si诺r eto sut ydan ni fod i ad-drefnu yn unol 芒'r toriadau yma ond mi allai olygu bod staff yn mynd mewn sefydliadau, ac o bosib mae hynny'n anorfod.
"Mae rhai sefydliadau newydd benodi staff newydd ar y dybiaeth fod ganddyn nhw hyn a hyn o arian y flwyddyn nesaf ac yn sydyn iawn maen nhw'n ffeindio'u bod nhw'n colli falle 拢70,000 yn fwy nag oedden nhw'n ei ddisgwyl.
"Felly efallai bydd swyddi'n mynd ond efallai bydd rhaid torri nifer y dosbarthiadau oherwydd maen nhw'n costio arian i'w rhedeg."
'Iaith unigryw'
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r toriadau, gan ddweud eu bod nhw'n codi cwestiynau ynghylch 芒 pha mor ddibynadwy yw gair y prif weinidog.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Pan gyhoeddodd Carwyn Jones ei fuddsoddiad honedig yn y Gymraeg fis diwethaf, mi geisiodd o adael yr argraff y byddai yna arian ychwanegol sylweddol.
"Er gwaetha'r holl sbin, mae'n debyg nad ydy'r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'r toriadau yma'n codi cwestiynau am ddidwylledd y Prif Weinidog.
"Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw."
'Arbedion effeithlonrwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi ei wneud ar 么l ymgynghori helaeth, ac fel rhan o broses o ailflaenoriaethu.
"Rydyn ni'n cydnabod y gwaith pwysig mae'r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn ei wneud, a byddwn ni'n gweithio gyda'r darparwyr dros yr wythnosau nesaf i weld beth fydd effeithiau tebygol y newidiadau yn y cyllid.
"Rydyn ni'n awyddus iawn i leddfu unrhyw anawsterau lle bynnag y bydd hynny'n bosibl.
"Rydyn ni hefyd yn ffyddiog y bydd y newidiadau arfaethedig i'r ffordd o weinyddu Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys creu corff cenedlaethol newydd, yn arwain at arbedion effeithlonrwydd a fydd yn lleihau'r effeithiau yn y tymor hir."
'Angen treblu'r buddsoddiad'
Mae Dyfodol i'r Iaith wedi dweud y dylai'r arian sy'n cael ei wario ar Gymraeg i Oedolion gael ei dreblu.
Dywedodd cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd: "Dyw'r rhan fwyaf o'n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o'r gwaith i ddysgu'r iaith.
"Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy'n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o'r gwaith. Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i'r iaith.
"Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion r么l allweddol wrth ddysgu'r iaith i fewnddyfodiaid.
"Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma'r union adeg i weithredu'n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2014