Llofruddio mewn tafarn: Carchar am oes i Prevete

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r gogledd

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn y llys fel un "cynddeiriog".

Mae Francesco John Prevete wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio bocsiwr amatur mewn tafarn yn Wrecsam.

Bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 23 mlynedd yn y carchar.

Cafodd Craig Harold Maddocks, 34 o Llai ger Wrecsam, ei drywanu dros 50 o weithiau ym mis Mehefin 2013, a bu farw o'i anafiadau.

Roedd Prevete, 46 o Wrecsam, wedi gwadu trywanu Mr Maddocks yn nhoiledau tafarn y Cambrian Vaults.

Cafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi tair awr a hanner o drafod.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Craig Maddocks ei ladd yn y Cambrian Vaults yn 2013

Mewn datganiad, dywedodd teulu Craig Maddocks: "Mae ein bywydau wedi bod yn gwbl annioddefol y 12 mis diwethaf o ganlyniad i lofruddiaeth ein mab.

"Roedd Craig yn caru bywyd ac wrth ei fodd yn gwneud i bobl wenu.

"Roedd ei holl deulu a'i ffrindiau yn ei garu.

"Ni fydd ein bywydau'r un fath eto."

Roedd Mr Maddocks wedi bod mewn perthynas gyda nith Prevete yn y gorffennol, ac roedd ganddo blentyn gyda hi.

Clywodd y llys bod Mr Maddocks a Prevete wedi mynd i'r toiledau i gymryd coc锚n pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn y llys fel un "cynddeiriog".