Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Newid i reolau carchardai agored
Fe fydd rheolau ar garcharorion mewn carchardai agored yn cael eu tynhau wedi i'r heddlu ganfod masnach gyffuriau gwerth 拢1m oedd yn cael ei redeg o'r tu mewn i garchar.
Cafodd saith o ddynion, oedd yn rhan o gynllwyn i werthu mephedrone, eu carcharu am gyfanswm o dros 30 mlynedd yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.
Mae deunydd gafodd ei recordio ar gamera cudd gan yr heddlu wedi ei roi i raglen Week In Week Out, ac yn dangos arweinydd y gang Matthew Roberts, 42 oed, yn derbyn pecyn o gyffuriau tra'n gyrru un o faniau'r carchar.
Dywedodd y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright na ddylid cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd.
'Gwerth degau o filoedd'
Cafodd y fideos cudd eu recordio gan weithlu cyffuriau a throseddau Tarian sy'n gweithio yng nghanolbarth a de Cymru.
Maen un yn dangos Roberts, oedd yng ngharchar agored Prescoed yn Sir Fynwy, yn gyrru'r fan oddi ar y safle gan roi'r cyfle iddo drefnu gweithgareddau'r gang.
Mae un arall yn ei ddangos yn prynu ff么n symudol - sydd yn erbyn rheolau'r carchar - ac yn cwrdd 芒 Colin Beck sy'n cael ei weld yn rhoi pecyn o gyffuriau iddo.
Cafodd Roberts hefyd ei recordio yn siarad gydag aelod arall o'r gang - oedd mewn carchar diogel ond hefyd ar ff么n symudol - am brynu cyffuriau werth degau o filoedd o bunnoedd.
'Rhy hwyr'
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi addo newid rheolau carchardai agored "ar frys" yn sgil yr achos.
Dywedodd Glyn Travis o Gymdeithas y Swyddogion Carchardai: "Mae'r asesiad risg sy'n digwydd pan mae carcharor mewn safle agored yn rhy hwyr, oherwydd mae'r methiannau eisoes yn digwydd."
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright: "Nid wyf yn barod i weld cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd.
"Mae'r system o ganiat谩u carcharorion allan ar drwydded dros dro wedi bod yn rhy llac hyd yma, ac rydym yn gwneud newidiadau mawr i newid hyn."
Bydd 'Week In Week Out: Undercover - The Insider Dealing Gang' yn cael ei darlledu ar 成人快手 One Wales am 22:35 ar nos Fawrth, 20 Mai.