Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Newidiadau ysgol am niweidio'r iaith?
Mae undeb athrawon UCAC yn rhybuddio y gallai cynlluniau i godi'r oedran pan mae plant yn dechrau'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf niweidio addysg Gymraeg.
Mae'r Cyngor angen torri dros 拢56 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd ac un o'i gynlluniau ydy codi'r oedran pryd y mae plant yn derbyn addysg llawn amser o dair i bedair oed.
O dan y drefn newydd mi fyddai'r plant tair oed yn mynd i'r ysgol yn y bora yn unig. Fyddai'r cyngor chwaith ddim yn rhoi cinio i'r disgyblion na thrafnidiaeth iddyn nhw gyrraedd yr ysgol.
Yn yr ardal mae plant yn aml yn gorfod teithio i ysgol Gymraeg am fod yna lai o ysgolion Cymraeg na rhai Saesneg.
Mi fyddai'r cynllun yn arbed 拢4.5 miliwn y flwyddyn i'r cyngor.
Trochi yn gynnar
Ond mae UCAC yn dweud y gallai hyn gael effaith tymor hir ar y niferoedd sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda.
Mae Jayne Rees yn athrawes yn Rhondda Cynon Taf ac yn aelod o UCAC. Mi ddywedodd hi wrth y Post Cyntaf fod y plant ieuengaf yn cael budd o fod yn yr ysgol yn dair oed:
"Mae plant wedi elwa yn y gorffennol o fod yn yr ysgol am ddiwrnod cyfan. Ac mae'r plant sydd gyda ni sydd yn dod o gartrefi Di-Gymraeg, mae'r ffaith eu bod nhw'n cael eu llwyr trochi gyda'r iaith yn elwa wrth iddyn nhw ddechrau eu haddysg nhw mewn ysgol Gymraeg."
Cytuno wnaeth Debra Davies sydd yn byw yn ardal Aberd芒r. Mae ei merch hi yn mynd i'r dosbarth meithrin yn yr ysgol Gymraeg yno.
Mae'n dweud bod 'na wrthwynebiad cryf i'r newid yn yr ysgol ac y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar addysg ei phlentyn:
"Erbyn mis Ebrill os ma'r newidiadau yn digwydd bydd hi yn mynd yn rhan amser. Bydd hyn yn cael effaith mawr arnon ni fel teulu, yn enwedig ar fy merch fy hun, oherwydd y cynnydd mae hi yn mynd i wneud dros y tymor olaf, y tymor mwyaf pwysig yn y dosbarth meithrin."
Mae'r cyngor wedi dweud yn y gorffennol bod yn rhaid iddyn nhw edrych ar bob ardal er mwyn gwneud arbedion ac mai un opsiwn ydy addysg feithrin.