Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor am herio polisi llywodraeth?
Mae'r cyngor sy'n cynnwys etholaeth Prif Weinidog Cymru'n ystyried herio polisi Llywodraeth Cymru drwy dynnu arian allan o'r gyllideb ysgolion.
Bwriad Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr - sy'n cael ei arwain gan Lafur - yw parhau i wario ar feithrinfeydd er mwyn eu galluogi i barhau i gynnig lleoedd llawn amser i blant.
Ond byddai'n rhaid rhoi llai o arian i ysgolion er mwyn gwneud hynny, yr hyn fyddai'n groes i addewid Llywodraeth Cymru i warchod gwariant ar ysgolion.
Mae'r 成人快手 wedi gofyn i'r cyngor am ymateb.
Dewis anodd
Mae Cyngor Pen-y-bont yn darparu mwy na'r 10 awr o addysg feithrin sy'n orfodol.
Ar hyn o bryd gall plant ddechrau mynychu meithrinfeydd yn rhan amser yn dair oed ac mae'n bosib iddyn nhw fynd yno yn llawn amser yn y mis Medi cyn eu pen-blwydd yn bedair.
Mae'r cyngor yn ymgynghori ar wahanol ffyrdd i arbed 拢1.5 miliwn y flwyddyn ac un opsiwn sydd dan ystyriaeth yw lleihau'r ddarpariaeth o addysg feithrin.
Ond byddai'n well gan y cyngor barhau gyda'r system bresennol ac arbed yr arian drwy ostwng cyllideb ysgolion - er y byddai hynny'n groes i bolisi'r llywodraeth.
'Newidiadau yn anochel'
Mewn adroddiad mae swyddogion y cyngor yn cydnabod bod "risg o beidio 芒 chydymffurfio 芒 pholisi Llywodraeth Cymru o ran diogelu cyllidebau ysgolion" os caiff yr opsiwn hwnnw ei ddewis.
Dywedodd yr aelod o gabinet y cyngor sy'n gyfrifol am blant a phobl ifanc, Huw David: "Rydym yn wynebu sefyllfa anodd iawn ac, yn naturiol, bydd nifer o safbwyntiau gwahanol am y ffordd fwyaf addas i ddelio gyda'r sefyllfa.
"Felly rydym yn mynd ati i ymgynghori yn ystod yr hydref er mwyn ceisio dod o hyd i ateb.
"Ond mae'n glir bod rhai newidiadau i'r gwasanaethau hyn yn anochel yn y tymor hir."
Mae rhieni yn y Rhondda eisoes wedi mynegi eu hanfodlonrwydd oherwydd cynlluniau eu cyngor nhw i arbed 拢4.5 miliwn drwy dynnu'n 么l leoedd llawn amser mewn meithrinfeydd o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Anodd
Mae arbed ysgolion rhag toriadau yn un o bolis茂au craidd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn cydnabod bod addysg yn y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i fywydau plant a'u cyfleoedd bywyd yn ddiweddarach.
"Rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i'r Cyfnod Sylfaen a'u penderfyniad i ymgynghori ar y mater yma i sicrhau eu bod yn clywed bob ochr i'r ddadl.
"Rydym yn deall yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol a bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn trafod y mater gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros yr wythnos nesaf.
"Ond mae ein cyllideb ddrafft yn cynnwys gwarchod cyllidebau ysgolion o 1% uwchben y raddfa o newid yng nghyllideb Cymru ac rydym am weld awdurdodau lleol Cymru yn cwrdd 芒'u targedau graddfeydd dirprwyo."