Protest ynghylch ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrchwyr lleol yn picedu'r tu allan i swyddfeydd Cyngor Caerdydd yn ddiweddarach, gan ddadlau bod y cyngor wedi torri addewid i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Grangetown.
Mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod yr addewid wedi ei wneud yn dilyn ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn.
Bwriad y cyngor yw sefydlu trydedd ffrwd barhaol yn ysgol Gymraeg Pwll Coch.
Ond dywed rhai mae trefniant dros dro oedd hwn i fod.
Yn 么l y mudiad Rheini dros Addysg Gymraeg, roedd yna safle wedi ei glustnodi ar gyfer ysgol Gymraeg newydd ond mae'r lleoliad hwnnw yn cael ei ystyried nawr ar gyfer ysgol Saesneg.
Llythyr
Bydd y cabinet yn cwrdd i drafod ysgolion y sir ddydd Llun.
Mae RhAG wedi anfon llythyr at gynghorwyr y brifddinas yn lleisio'u gwrthwynebiad i'r cynlluniau arfaethedig.
Mae'r mudiad yn ofni bod y cyngor yn bwriadu cynnig gwneud y drydedd ffrwd yn Ysgol Pwll Coch yn un barhaol.
Meddai'r llythyr: "Rydym o'r farn nad yw'r cynnig i helaethu Ysgol Pwll Coch a sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno yn ddatrysiad derbyniol i'r galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae gwrthwynebiad y rhieni i'r cynnig hwnnw'n glir.
"Amlygwyd hyn yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill, lle bu'r ymateb yn ffyrnig ar lafar ac mewn 179 o lythyron gwrthwynebus gyda 17 yn unig o blaid y cynllun.
"Byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal.
'Llawn ers blynyddoedd'
Yn 么l Euros ap Hywel, Swyddog Maes y De gyda Chymdeithas yr Iaith, mae Cyngor Caerdydd wedi "esgeuluso" addysg Gymraeg:
"Mae'r Gymraeg yn rhywbeth a ddylai berthyn i bawb a byddai'r Cyngor, drwy dorri ei addewid, yn rhwystro cenedlaethau o blant rhag cael y gallu i fyw yn Gymraeg. "
Wythnos diwethaf cynhaliwyd cyfarfod gan rai sydd yn byw yn Grangetown i drafod y mater.
Ychwanegodd Euros ap Hywel: "Pryder mawr ymysg rhieni a gofalwyr yr ardal yw bod Ysgol Gynradd Pwll Coch wedi bod yn llawn ers blynyddoedd a'r Cyngor yn gwneud dim - mae'n ymddangos fod y sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth wrth i'r Cyngor fygwth torri ar yr addewid yma.
"Dylai fod ysgol Gymraeg leol i bob cymuned yn y ddinas."
'Ymateb i'r galw'
Ond mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg a bod ymgynghoriad ar ymestyn Ysgol Pwll Coch yn dangos hynny:
"Mae angen i ni ymateb i'r galw cynyddol am leoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon."
"Nid yw trefn dros dro yn briodol erbyn hyn, ac mae angen i ni ddechrau ymgynghoriad ym mis Medi ar gynnig i ymestyn Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn barhaol gyda rhaglen fuddsoddi lawn, i'w chwblhau erbyn Medi 2015," meddai'r Cynghorydd Julia Magill sydd yn gyfrifol am addysg yn y sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013