成人快手

Elusen Y Stafell Fyw angen cyllid neu bydd yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Cyffuriau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Y Stafell Fyw yn helpu pobl sydd yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu ddibyniaethau eraill

Mae elusen sydd yn cynnig cymorth i bobl sydd yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu ddibyniaethau eraill wedi dweud bod angen 拢160,000 dros y ddwy flynedd nesaf neu bydd rhaid iddi gau ei drysau.

Fe sefydlwyd Y Stafell Fyw yng Nghaerdydd yn 2011 gyda'r pwyslais ar adfer a chynnig 么l-ofal parhaol.

Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau sydd wedi sefydlu'r elusen.

Roedd gan y mudiad hwnnw arian wrth gefn wedi iddynt werthu neuadd er mwyn medru cefnogi Y Stafell Fyw ond mae'r arian hwnnw yn dod i ben ym mis Tachwedd a'r elusen angen nawdd i fedru parhau.

Enwadau

Dywedodd y prif weithredwr Wynford Ellis Owen fod arian yn dechrau dod i mewn oddi wrth rai o'r enwadau yng Nghymru a'i fod yn hyderus y byddai modd codi'r cyllid angenrheidiol mewn da bryd.

Mae'r Bedyddwyr wedi cytuno i roi benthyciad o 拢20,000 ac wythnos diwethaf fe benderfynodd Undeb yr Annibynwyr yn ei gyfarfod blynyddol roi 拢5,000 fel rhodd.

Mi fydd yr elusen yn gofyn i'r Presbyteriaid hefyd i gyfrannu.

Mae'r Annibynwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid.

Dywedodd Mr Ellis Owen: "Mi fysan ni yn licio cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf. Wedyn mi allwn ni fod yn hunan cynhaliol a chynnal y gwasanaeth."

Dywedodd nad oedd yr elusen eisiau bod yn un fyddai'n gorfod cael cefnogaeth yn yr hir dymor trwy arian cyhoeddus.

Roedd yn ffyddiog, meddai, y bydden nhw'n medru codi arian eu hunain yn y dyfodol.

'300 o bobl'

Pe byddai Y Stafell Fyw yn dod i ben byddai hynny yn drychineb, meddai.

"Mae 300 o bobl ar ein llyfrau ni r诺an. Mi fysa yn greisis iddyn nhw gan eu bod yn dibynnu ar y Stafell Fyw fel rhan o'u hadferiad.

"Mi fyddai Cymru yn colli adnodd gwerthfawr iawn am fod ganddon ni ffordd wahanol o driniaeth.

"Mi ydan ni yn helpu pobl efo pob math o driniaethau- gamblo, bwyd, rhyw, cyffuriau, alcohol, hunan niweidio, salwch meddwl, achos ychydig iawn sydd yn gaeth i un peth."

Dywedodd fod y mudiad yn gweld pump neu chwech o bobl newydd ar gyfartaledd a bod 72.5% o'r rhai oedd yn dod trwy'r drysau yn rheolaidd yn glir o'u dibyniaethau.

'Goroesi'

Yn wahanol i wasanaethau eraill does dim rhaid i unigolion aros yn hir cyn derbyn help sydd yn ei gwneud yn wasanaeth pwysig.

"Rydan ni yn eu gweld nhw yn syth bin. Does 'na ddim rhestr aros. Mi ydan ni yn gweld pob un person o fewn pum niwrnod."

"Dydan ni ddim isio bod yn fwrn ar neb. Os gallwn ni oroesi'r ddwy flynedd nesaf mi allwn ni fod yn hunan cynhaliol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol