成人快手

'Rhwystrau dysgu' i ddisgyblion byddar

  • Cyhoeddwyd
Deaf pupils
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae disgyblion byddar 41% yn llai tebygol o gael graddau uchel yn y pynciau craidd

Mae elusen yn honni fod disgyblion byddar yn wynebu rhwystrau mewn ysgolion a cholegau syn eu hatal rhag cyrraedd eu potensial.

Dywed Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru fod bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion byddar a'u cyfoedion ar bob cyfnod addysgol allweddol.

Maen nhw wedi cyflwyno deiseb fideo i weinidogion yn galw am weithredu i gau'r bwlch yna.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "adolygu'r modd yr ydym yn cefnogi disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol".

Yn 么l yr elusen, mae ffigyrau'r llywodraeth yn dangos fod disgyblion byddar 41% yn llai tebygol o gyrraedd graddau uchel yn y pynciau craidd Saesneg, Cymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth yn ystod 2012.

'Annerbyniol'

Bu disgyblion byddar yn cymryd rhan yn y ddeiseb fideo, 'Caewch y Bwlch', a gafodd ei gyhoeddi yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Bobl Fyddar.

Mae'n galw am:

  • Gefnogaeth briodol gan bobl broffesiynol arbenigol;

  • Acwsteg dda mewn ystafelloedd dosbarth;

  • Athrawon a phlant sy'n clywed i ddysgu iaith arwyddo;

  • Athrawon a phlant sy'n clywed i fod yn fwy ymwybodol o fyddardod.

Dywedodd Jayne Dulson, cyfarwyddwr yr elusen: "Mae'n annerbyniol bod cymaint o ddisgyblion byddar ar draws Cymru yn methu 芒 chyrraedd eu potensial gan eu bod yn wynebu rhwystrau mewn addysg.

"Rydym yn ddiolchgar dros ben i'r bobl ifanc wnaeth ein cynorthwyo i greu'r ddeiseb fideo.

"Fel pobl ifanc byddar eu hunain, nhw yw'r arbenigwyr sydd yn y lle gorau i ddweud wrth wleidyddion am y pethau y mae'n rhaid i ysgolion wneud yn iawn i ddisgyblion byddar ledled Cymru."

'Ymrwymo'

Bydd y fideo yn cael ei gyflwyno i bwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd eu llawn botensial yn y byd addysg, a dyna pam yr ydym ar hyn o bryd yn adolygu'r modd yr ydym yn cefnogi disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol.

"Yn ystod y broses yma, byddwn yn gweithio'n agos gyda nifer o grwpiau cefnogol, gan gynnwys Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru."