成人快手

Colli un o'r ymgyrchwyr iaith cyntaf, Eileen Beasley

  • Cyhoeddwyd
Eileen Beasley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Mrs Beasley ei disgrifio fel "mam gweithredu uniongyrchol"

Bu farw Eileen Beasley un o'r ymgyrchwyr cyntaf i fynd i'r llysoedd er mwyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg.

Roedd Mrs Beasley yn 91 oed ac yn byw yn Henllan Amgoed ger Hendy-gwyn ar Daf.

Yn 1952 gwrthododd hi a'i g诺r Trefor dalu treth cyngor am fod cais Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg.

Ar y pryd roedd Llangennech yn un o ardaloedd mwya Cymraeg y wlad.

Bu'n rhaid iddyn nhw fynd o flaen llys ynadon ddwsin o weithiau a theirgwaith daeth bwmbeiliaid i'w cartre a mynd 芒 pheth o'u heiddo i glirio'r ddyled.

Disgrifiad,

Garry Owen yn holi Cynog Dafis.

Parodd yr achos am wyth mlynedd ond yn 1960 cafodd y ddau bapur treth dwyieithog.

Ysbydoliaeth

Roedd eu hymgyrch yn ysbrydoliaeth i lawer ac yn fuan wedyn cafodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei sefydlu.

Dywedodd Angharad Tomos, cyn-Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae ein dyled yn ddwfn iddi fel mam gweithredu uniongyrchol.

" Pan nad oedd cynsail i weithredu o'r fath yng Nghymru, dangosodd Eileen Beasley y ffordd, a dyfalbarhau yn unigrwydd ei gobaith."

Rhoddodd y Gymdeithas dernged i Mrs Beasley mewn cyfarfod ac uned arbennig ar faes yr Eisteddfod yn Llandw.

Dywedodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi fod ei cyfraniad tuag at yr iaith wedi cael ei gydnabod ar Faes yr Eisteddfod.

Yn 2008 fe agorwyd canolfan gymunedol yn Llangennech ger Llanelli, wedi ei enwi ar 么l y Beasleys.