成人快手

Stondin wag yn dweud cyfrolau am frwydr iaith

  • Cyhoeddwyd
Dim ond potiau jam ar ol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stondin y Beasleys ar Faes yr Eisteddfod

Mae stondin foel a bron yn wag ar Faes yr Eisteddfod yn gofnod huawdl o un o benodau pwysicaf y ganrif ddiwethaf yn hanes yr iaith Gymraeg.

Atgynhyrchiad yw'r stondin o aelwyd Trefor ac Eileen Beasley yn y 1950au wedi i'w heiddo i gyd gael ei feddiannu gan feiliaid oherwydd i'r ddau wrthod talu eu treth cyngor oherwydd bod bil "The Rural District Council of Llanelly" yn uniaith Saesneg.

Mae brwydr a dioddefaint y Beasleys o Langennech yn cael ei hystyried yn un o gerrig milltir bwysicaf brwydr yr iaith ac fe gyfeiriodd Saunders Lewis at eu safiad yn ei ddarlith Tynged yr Iaith.

Yn gymaint 芒 dim yr oedd hwn yn safiad cwbl unigol ond yn un a fu'n ysbrydoliaeth wedyn i fudiadau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd flynyddoedd wedyn.

Gwrandawiad Cymraeg

Trefnwyd yr arddangosfa seml ond trawiadol hon gan Angharad Tomos a bu ap锚l am arian i logi'r uned.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pabell teyrnged y Beasleys

Bu'r Beasleys gerbron llys 16 o weithiau i gyd gan fynnu gwrandawiad Cymraeg bob tro.

Y canlyniad fu i feil茂aid fynd a dodrefn o'u cartref bedair gwaith nes bod yr ystafell fyw fel ag a welir ar y Maes gyda dim ond chwech o botiau jam ar 么l gyda hyd yn oed anrhegion priodas wedi eu meddiannu.

Bu'n rhaid disgwyl wyth mlynedd cyn i'r cyngor gytuno yn y diwedd i anfon bil Cymraeg.

Am 5pm ddydd Iau ym Mhabell y Cymdeithasau 2 mae merch ac 诺yr Trefor ac Eileen Beasley yn rhoi'r hanes yn llawn.