Neges i Blaid Cymru oedd darlith Tynged yr Iaith

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mewn neges i'r Faner dywedodd Saunders mai neges i aelodau'r blaid oedd ganddo
  • Awdur, Dr John Davies
  • Swydd, Hanesydd

Darlledodd Saunders Lewis ei ddarlith ar Chwefror 13, 1962. Cnewyllyn ei neges oedd ei alwad am fabwysiadu dulliau chwyldro a'i bwyslais mai polisi i fudiad oedd ganddo mewn golwg - mudiad a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn yr ardaloedd lle oedd y Gymraeg yn iaith lafar.

Doedd y ffaith ei fod yn cyfeirio at Blaid Cymru ddim yn amlwg i bawb ond mewn neges i'r Faner yr wythnos ganlynol dywedodd ei fod yn boenus o amlwg mai neges i aelodau'r blaid oedd ganddo.

Roedd y ddarlith yn gyfle iddo daflu sen ar arweinyddiaeth Gwynfor Evans, yn arbennig y flaenoriaeth a roddai Gwynfor i etholiadau seneddol a'i lwfrdra honedig ar fater gwrthsefyll boddi Cwm Celyn.

Yr oedd arweinwyr Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r blwch pleidleisio ac roedd erbyn dechrau'r 1960au gefnogaeth i Blaid Cymru yn tyfu yn y de-ddwyrain ymhlith pobl nad oedd y Gymraeg yn un o hanfodion eu gwleidyddiaeth.

O ganlyniad, gwrthododd arweinyddiaeth Plaid Cymru genadwri Saunders Lewis.

Gwrthod

Ag yntau ddim am weld mudiad ar wah芒n yn cael ei sefydlu, gwrthod ei genadwri a wnaeth sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith hefyd.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth

Eto i gyd, cynhadledd Plaid Cymru ym Mhontarddulais ganol haf 1962 oedd man cychwyn y Gymdeithas.

Yno trafodwyd cynnig yn pwyso ar ganghennau Plaid Cymru i drefnu protestiadau yn benodol ar fater cael gwysion Cymraeg, pwnc oedd eisoes wedi codi yn sgil carchariad Gareth Miles am wrthod gw欧s Saesneg.

Derbyniodd y cynnig gymeradwyaeth unfrydol ond roedden ni'n credu na fyddai dim byd yn deillio o hynny ac felly daeth criw ohonon ni at ein gilydd ym Mhontarddulais i drefnu gweithgarwch pellach.

Does dim modd cael gw欧s heb droseddu. Felly, er i'r Gymdeithas ymwneud 芒 llu o ymgyrchoedd cwbl gyfreithlon, roedd hi'n anochel bod tor-cyfraith yn rhan o'i strwythur o'r dechrau.

Roedd ei phrotest gyntaf yn Aberystwyth ar Chwefror 2, 1963, y gyntaf o lu o brotestiadau.

Efallai mai ei buddugoliaeth fwyaf oedd sicrhau arwyddion Cymraeg.

Iaith weladwy

Anodd cofio pan mor anweledig oedd y Gymraeg yng Nghymru ddechrau'r 1960au.

Roedd yr iaith yn ymddangos ar fwrdd-arwyddion capeli ac ar gerrig beddau ond bron dim yn unrhyw le arall.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Erbyn hyn, mae'r Gymraeg yn fwy amlwg

Bellach mae'r Gymraeg yn weladwy ym mhob rhan o Gymru.

Ond nid oedd buddugoliaeth gyflawn gan nad ydyw'r Gymraeg yn sofran yn unman yng Nghymru.

Fodd bynnag, efallai bod tuedd ormodol i weld yr ochr dywyll wrth drafod ei rhagolygon.

Mae modd datgan 芒 sicrwydd llwyr mai'r Gymraeg fydd iaith gyntaf lliaws o unigolion nad ydyn nhw eto wedi'u geni, honiad nad oes modd ei wneud am o leiaf hanner yr ieithoedd sy'n cael eu siarad ar hyn o bryd.

Yn 么l yr arbenigwr, David Crystal, mae'r Gymraeg ymhlith y 15% mwyaf diogel o ieithoedd y byd.

Mae hynny'n ffaith syfrdanol o gofio mai hi, trwy holl ganrifoedd ei bodolaeth, oedd cymdoges agosaf y Saesneg, iaith sydd wedi ysgubo allan o fodolaeth ieithoedd filoedd o filltiroedd o arfordir Lloegr.

O ystyried twf carlamus y Saesneg ledled y byd, gallwn ddisgwyl i garedigion nifer o ieithoedd ddod i Gymru i astudio parhad y Gymraeg.