|
|
成人快手 成人快手page Cymru'r Byd | |||||||||||
禄 | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonTua'r dyfodolMwy ar y maes? Cyfarwyddwr newydd yn agor cil y drws
Gallwn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd gyda mwy o weithgareddau ar y maes y flwyddyn nesaf.
Dyna'r awgrym o'r hyn a ddywedwyd gan Aled Sion, y g诺r a fydd yn cyfarwyddo yr eisteddfod honno. I Aled Sion, darpar gyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd, yr oedd yr wythnos yng Nghaerfyrddin yn un o osgoi dweud gormod am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol - wedi iddo dderbyn yr awenau oddi wrth y cyfarwyddwr presennol, Sian Eirian, ar Orffennaf 2, 2007. Bydd hi yn symud i'w swydd newydd gydag S4C wedi chwe blynedd llewyrchus yn llywio'r Eisteddfod. Wrth gael ei holi ddiwedd yr wythnos am ei weledigaeth ef ar gyfer dyfodol yr Eisteddfod a pha stamp fydd e'n ei roi arni yr oedd Aled Sion yn hynod o swil i ymateb: "Rwy'n dechrau ar yr ail o Orffennaf ac fe gewch ofyn y cwestiwn ar 么l hynny. Tan hynny fe fydd yn rhaid ichi ddyfalu," meddai wrth gael ei holi gyfer 成人快手 Radio Cymru. Ond wrth gael ei holi yn Saesneg ar gyfer Radio Wales agorodd ychydig bach mwy ar gil y drws trwy ymateb i gwestiwn gan Sian Parri Huws; a fydd e'n dod a'i weledigaeth ei hun i'r Eisteddfod fel cyfarwyddwr newydd? "Yn amlwg mae gan bawb ei weledigaeth ei hun pa gyfeiriad ydym am fynd. Yn sicr rhaid inni ddatblygu rhai eitemau ond yn amlwg mae'r eisteddfod wedi datblygu yn arw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac fe fyddwn yn dilyn drwodd gyda'r datblygiadau hynny," meddai. Mwy ar y maes Un peth y gwnaeth o gyfeirio ato yn benodol oedd yr angen am ddigon o adloniant i ymwelwyr ar y maes yn ogystal ag ar lwyfan y pafiliwn ei hun: "Mae'n rhaid inni wneud yn si诺r fod adloniant ar faes yr Eisteddfod - ar y safle ei hun. Mae pobl yn dod yma i fwynhau eu hunain a rhaid inni wneud yn si诺r fod mwynhad iddyn nhw ac mae honno yn duedd sydd wedi dechrau flynyddoedd yn 么l ac mae'n rhaid inni ehangu ar hynny," meddai. "Yn amlwg y cystadlu yw sylfaen yr Eisteddfod ac mae'n hymchwil yn dangos fod y rhan fwyaf o bobl yn dod i'r Eisteddfod i gystadlu neu i gefnogi cystadleuwyr. Felly, unwaith mae'r cystadlu drosodd - ac fe all hynny fod cyn gynhared 芒 naw o'r gloch y bore - rhaid inni sicrhau fod digon o bethau iddyn nhw'i wneud," meddai. "Gyda'r gwahanol elfennau yn yr Eisteddfod yr ydym fel pe byddem yn ail-ddyfeisio'r olwyn bob blwyddyn ar safle gwahanol - yr ydym yn gwybod beth sy'n gweithio ond rhaid inni wneud yn si诺r eu bod yn gweithio ar wahanol safleoedd o flwyddyn i flwyddyn," meddai. Angen datblygu Cafodd ei sylwadau ynglyn ag ehangu gweithgareddau'r maes gefnogaeth lwyr g诺r y bydd Aled Sion yn cydweithio'n agos gydag ef dros y flwyddyn nesaf - Dilwyn Price, cadeirydd pwyllgor gwaith yr eisteddfod yng Nghonwy, 2008. Dywedodd ef fod yna yn barod amrediad da o weithgareddau maes gan gynnwys chwaraeon a ffair ond bod angen datblygu. "Fel y dywedodd Aled, efallai bod 22 o gorau yn cyrraedd ond dim ond tri yn cyrraedd y llwyfan ac yr ydym ni eisiau i'r 19 arall o 'gwsmeriaid' fod eisiau dod eto," meddai. "Mae teuluoedd yn cyrraedd a rhaid inni edrych ar 么l y teuluoedd hynny a gwneud yn si诺r fod tocynnau teulu ar eu cyfer, fod mwy o gyfleusterau newid clytiau ar y safle. "Yr ydym yn darparu ar gyfer poblogaeth newydd a rhaid inni wneud yn si诺r eu bod yn dod eto y flwyddyn nesaf - yn enwedig y flwyddyn nesaf i Gonwy!" Yr oedd o'n hyderus fod y niferoedd sy'n dod i'r Eisteddfod yn arwydd o'i phoblogrwydd hyd yn oed cyn unrhyw ddatblygiadau newydd. "Mae'n binacl i lawer o ysgolion ac maen nhw'n dod i fwynhau eu hunain ac yn dod flwyddyn ar 么l blwyddyn felly mae'n rhaid ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn gan fod y niferoedd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn," meddai. Wnaeth Aled Sion ei hun ddim enwi unrhyw welliannau penodol ond dywedodd: "Dim byd yn benodol, dim ond gwneud yn si诺r fod pawb sydd yn dod i'r Eisteddfod yn mwynhau eu hunain - mae hynny'n fater o ofal am y cwsmer sef yr holl broses o'r parcio, cyrraedd maes yr Eisteddfod, cael mynediad mwynhau eu hunain a gallu crwydro'r maes yn hawdd a mwynhau eu hunain fel eu bod yn dod yn 么l eto," meddai." Gwrando ar y bobl Ac wrth ymateb i gwestiwn yngl欧n 芒 dysgu o gamgymeriadau Caerfyrddin dywedodd: "Does yna ddim byd wedi mynd o'i le yma - ond ys dywed yr hen ddywediad Cymraeg, Nid da lle gellir gwell," meddai gan ddweud bod yr Eisteddfod yn cynnal ymchwil blynyddol ac yn gwrando ar gwynion am bethau fel prisiau bwyd ar y maes. "Yn amlwg yr ydym yn eistedd i lawr a gwrando ac ystyried beth sydd gan bobl i'w ddweud. Mae rhai pethau sy'n hawdd eu cywiro ond mae rhai pethau eraill nad ydynt mor hawdd ac mae bwyd yn un o'r pethau hynny. "Mae'r pris yn bwnc ond o fy mhrofiad i dydych chi byth bythoedd yn mynd i blesio pob copa walltog gyda bwyd a dydych chi ddim yn mynd i blesio pawb gyda phob pryd yr ydych yn ei roi o'u blaenau - mae hynny'n anodd ond yr hyn i'w wneud yw sicrhau digon o ddewis a sicrhau ei fod ar gael yn sydyn," meddai. "Mae'n rhaid inni wrando ar y cwsmer ac mae'n rhaid inni ddatblygu a chario mlaen i ddatblygu. "Does yna ddim un sefydliad neu ddigwyddiad yn aros yn ei unfan yr ydych chi naill ai'n mynd ymlaen neu fynd yn 么l felly mae materion fel amseroedd rhagbrofion, bwydydd iach, yn bethau y mae'n rhaid inni eu hystyried. Mae'n rhaid inni wrando ar bobl. Allwn ni ddim plesio pawb drwy'r amser ond os gallwn ni blesio 99 y cant fe fyddwn ni'n iawn," meddai. Cysylltiadau
Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |