成人快手

Arallfydol: Cyflwyniad

Llong ofod

Gan Richard Foxhall

Yr 20fed ganrif

Gwelwyd nifer fawr o wrthrychau anesboniadwy yn ystod yr Ail Rhyfel Byd gan beilotiaid o bob ochr, ond dechreuodd yr oes fodern ar Fehefin 24ain 1947 pan welodd peilot masnachol, Kenneth Arnold, mewn tywydd heulog, braf a chlir, ar uchder o 3,000 metr, fflach disglair.

Wrth edrych am darddiad y fflach, gwelodd naw gwrthrych disglair yn gwibio i gyfeiriad y de. Disgrifiwyd nhw i gyd yn si芒p hanner cylch gyda'r darn 么l mewn si芒p 'V' amgrwm heblaw am y gwrthrych ar flaen y ffurfiad a oedd wedi ei strwythuro fel dwy arc yn cyfarfod mewn cusb.

Amcangyfrifodd eu bod tua 160km oddi wrtho ac yn teithio ar gyflymdra anghredadwy o 2,700km.y.a.

Adroddwyd hyn i'r maes awyr yr oedd yn teithio iddo, a synnodd wrth lanio i weld llu o newyddiadurwyr yn disgwyl amdano er mwyn ei holi'n bellach.

Mewn cynhadledd frysiog a drefnwyd i'r wasg, disgrifiodd Arnold symudiad y gwrthrychoedd:
"They skipped along like a saucer would if you skipped it across water."

Er nad oedd beth a welodd yn debyg i soser, y disgrifiad yma rhoddodd y penawd 'flying saucer' i'r byd.

Digwyddiad Roswell

Yn fuan wedi hyn ar Orffennaf 8fed 1947, cyhoeddodd Llu Awyr Byddin America eu bod wedi dod o hyd i un o'r 'flying disks' enwog a oedd wedi crasio ar dir fferm yn ardal Roswell, New Mexico.

Mae yna ddigonedd o wybodaeth i gael ar y w锚, ond i grynhoi'r stori, honnwyd bod Washington wedi cau'r stori i lawr, ac wedi mynd 芒'r crafft a chyrff bodau arallfydol er mwyn ymchwilio sut oedd y crafft yn gweithio, a beth oedd cyfansoddiad y cyrff. Er i sawl person gwadu'r stori, mae yna nifer a oedd yn uchel iawn yn y fyddin a'r gwasanaethau cudd sydd wedi tystio ei fod yn stori wir.

Yr Archifau Cenedlaethol

Mae yna nifer o 'X-Files' Cymreig yn yr Archifau Cenedlaethol, Kew gydag adroddiadau o'r degawdau ers yr 1950au, ac maent werth eu darllen, gan gynnwys yr awyren Gnat o'r Fali a'i welwyd gan bysgotwyr ar lyn Celyn, ger y Bala. Bu i'r awyren gwrthdaro yn erbyn 'golau' a oedd yn hedfan o gwmpas y llyn. Bu'n rhaid i'r peilot 'ejectio' o'r awyren, ac yn ffodus iawn nid oedd wedi ei anafu.

A beth am 'Roswell Cymru'?

Gwelwyd 'gwibfaen' yn disgyn i fynyddoedd y Berwyn, Meirionnydd ym mis Ionawr 1974. Bu ffrwydriad a daeargryn ond dim oedd esboniad. Gwelwyd goleuadau anarferol ar lethrau'r mynyddoedd, a blynyddoedd yn ddiweddarach adroddiadau am grafft a oedd wedi crasio, gyda chyrff bach anaearol yn cael eu symud i labordai dirgel Porton Down yn swydd Wiltshire.

Yn Chwefror 1977 gwelodd plant ysgol gynradd Broadhaven, Sir Benfro 'flying saucer' ar lawr gyferbyn 芒'r ysgol, fel wnaeth plant ysgol gynradd Rhosybol, Ynys M么n. Yn y ddwy achos, trefnodd athrawon i'r plant sgetsio'r hyn a welsant, ac mae'n reit amlwg eu bod i gyd wedi gweld yr un peth, a hwnnw'n debyg iawn i'r 'flying saucer' clasurol.

21ain ganrif

Bu tipyn o helynt gan Heddlu De Cymru ar ddechrau 2009 wrth i adroddiadau ddod i'r golwg bod un o'i hofrennyddion bron 芒 gwrthdaro gyda 'ufo' wrth ddod i lanio yn Sain Tathan. Llwyddwyd i droi'r stori i feio 'Chinese lanterns' o barti priodas, ond ffilmiwyd gwrthrych anesboniadwy gan hofrennydd yr Heddlu yn Brighton, ac mae hwn ar gael i bawb i wylio.

Mae'r tystiolaeth am eu bodolaeth yna, yr elfen colledig yw deall beth yw natur y ffenomenon. Efallai bod rhai yn gwybod, ond os yr ydynt, paham nad ydynt yn rhannu'r gwir?

Fel y dywedodd Fox Mulder o'r X-Files, 'The Truth Is Out There...'


Hanes

Croes Geltaidd

Hanes

Dilynwch hanes Cymru o'r Celtiaid, i'r Canol Oesoedd, hyd y cyfnod modern.

成人快手 Lleol

Cymru o'r Gofod

成人快手 Lleol

Oes ysbryd neu fwgan yn eich ardal chi, neu ydi pobl y gofod wedi ymweld a'r dref?

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.