| ![C2 ar Radio Cymru](/staticarchive/ba62c3f3ffdb3e4a660028457f8caeb93612672c.jpg) |
![C2 ar Radio Cymru](/staticarchive/38a24e79fef8e8df5f083bfd0329d52ef22a4bd8.gif) |
![C2 ar Radio Cymru](/staticarchive/b492d9406b26d729b2cf9174e613f46dace8bb21.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Brwydr y Bandiau '06
Mentrau Iaith Cymru a C2, Radio Cymru 2006 Gang Guevara
Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru
Y Rowndiau Rhanbarthol
Pwy a phryd?
Pwy fydd y Super Furry Animals, Frizbee, Mim Twm Llai neu'r Cofi Bach nesa'? Os wyt ti'n aelod o fand hoffet ti -
Recordio sesiwn i raglen C2 ar Radio Cymru?
Chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru?
Rhyddhau CD?
Ymddangos ar raglen deledu Bandit ar S4C?
Perfformio yn Maes B, Eisteddfod Abertawe 2006?
Perfformio mewn un o ddigwyddiadau mawr Radio Cymru?
Os felly, Brwydr Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 yw'r gystadleuaeth i chi - dyma un o'r cystadlaethau mwyaf i ddod o hyd i'r band mawr nesaf.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn gynharach eleni - bydd y rowndiau lleol yn digwydd yn ystod mis Ionawr 2006
gyda'r rownd derfynol yn digwydd ar C2 ar Radio Cymru ar Ebrill 5ed.
Mae croeso i fandiau ac artistiaid o unrhyw fath gystadlu - roc, hip-hop, jazz, blues, pop, gwerin, dawns, ayyb. Does dim ots faint o aelodau sydd yn y band ac mae croeso i artistiaid unigol a deuawdau drio.
Dim ond bod rhan fwyaf o'r aelodau yn 21 mlwydd oed neu iau, bod y band neu artist heb ryddhau CD sydd ar werth mewn siopau (heblaw am ymddangos ar CD amlgyfrannog), a'u bod yn gallu perfformio tair c芒n Gymraeg. Mae mor syml 芒 hynny!
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cysylltwch 芒'ch Menter Iaith leol - mae manylion cyswllt ar wefan . Peidiwch ag oedi cyn bwcio'ch lle!
am fwy o fanylion
|
|
|