Y diweddaraf...
Cyflwyniad
Oes na unrhyw fand arall yng Nghymru wedi mynd 芒'r breuddwyd roc a r么l mor bell 芒 Anweledig? Sbort a sbri'r holl ffordd yw cerddoriaeth a phwrpas y bois hyn o'r Blaenau.
Cynnwys
Yn 1991, uwchben Garej Ol a Wil, clywyd Rhys Roberts, Meic Jones a Gareth Thomas yn jamio'n ddi-glem am y tro cyntaf. Erbyn eu gig gyntaf ar y 7fed o Chwefror 1992 yn cefnogi'r Anhrefn, roedd 4 aelod arall wedi ymuno, Matthew Jones, Oz Jones, Cara Jones ac Alwyn Evans.
Chwalodd y band am ychydig fisoedd ar 么l perfformiad gwael ym Miri Medi yn eu tref eu hunain, ond i ailffurfio gyda delwedd a meddylfryd 'seicadelaidd' yn meithrin mwy a ganeuon a jamio mwy ffrwythlon. Yn fuan yn '93 ymunodd Ceri Cunnington fel prif leisydd, a roedd y band yn ymddangos yn gwbl hapus 芒'r personel o'r diwedd (er bod digon o aelodau i fynd a dod ar 么l hynny hefyd).
Wrth iddynt ddechrau gigio'n rheolaidd a gwneud enw i'w hunain, eu hantics a'u natur direidus yn cael llwyfan i greu reiat, cafwyd y disgrifiad cofiadwy ohonynt gan Rhys Mwyn fel 'lowts o Blaenau Ffestiniog', a hyd heddiw mae'r grwp yn denu delwedd o anarchiaeth a'r elfen cynhyrfus 'rhywbeth yn medru digwydd' yna. Yn 1994 fe enillont gystadleuthau bandiau gorau'r Eisteddfodau Genedlaethol a'r Urdd, ac yn '95 recordiwyd sesiwn ar raglen Ian Gill, a chefnogi'r Gorky's yn Eisteddfod Abergele.
Erbyn 1996, a'u hymddangosiad ar yr albwms amlgyfrannog 'Vino i Gymro' a 'Gog Rock' roeddynt wedi sefydlu eu hunain yn gadarn ar y s卯n, gan gefnogi Catatonia yng Nghaerfyrddin a chwarae dwy gig ym Mhontypridd gyda'r Stereophonics yn un a'r Super Furries yn eu cefnogi yn y llall.
Yn '98 ar nos Sadwrn Eisteddfod Penybont-ar-Ogwr cafwyd gig aruthrol yn cefnogi Geraint Jarman. Gyda'r dorf yr un mor wyllt i'r naill grwp, daeth hi'n amlwg fod Anweledig am fod yn grwp anferth yn y s卯n, a doedd dim syndod pan welwyd gwerthiant ysgubol i'w halbwm gyntaf, 'Sombreros yn y Glaw', a ryddhawyd i ganmoliaeth eang, anthemau bachog fel 'Dawns y Glaw', 'Chwarae dy G锚m', 'Merch Coffi', 'Madarchol' ac 'Eisteddfod' yn barod wedi eu cerfio ym meddyliau'r genedl. Heb os roedd brwdfrydedd y band gyda'u miwsig ffres, newydd, eu hagwedd "ffwrdd 芒 hi" a'u hysbryd cymunedol yn hwb sylweddol i'r s卯n roc yng Nghymru. Fel wrth gwrs, oedd cot oren Ceri.
Amlygwyd egwyddorion y grwp yn drylwyr dros yr amser, fel y gwelwyd yn yr EP lwyddianus 'Cae yn Nefyn', yn cynnwys caneuon megis 'Dwi'n Gwybod sut ti'n Licio dy De', 'Rhechu fel Mul' a'r epig wleidyddol '6.5.99', a doeddent fyth yn swil i godi gwrychyn sefydliadau a'r cyfryngau ar lwyfan ychwaith.
Rhyddhawyd 'Scratchy', EP ddawns, ym mwrlwm Sesiwn Fawr Dolgellau 2000, a rhaid dweud ei fod yn rhyfedd ac yn drist braidd fod grwp mor dalentog sydd 芒 chymaint i'w ddweud wedi dilyn y trywydd amhersonol, di-wyneb yma. Yn fuan yn 2001 rhyddhawyd yr albwm 'Gweld y Llun', oedd fel petai yn gatharsis, yn pwysleisio ethos rhydd y grwp dros y blynyddoedd, ac roedd yn glincar.
Gyda geiriad a neges llawer mwy egwyddorol efallai byddai disgwyl arddull trymach i'r gerddoriaeth, ond mae bywiogrwydd a hwyl y band yn treiddio trwyddo cymaint ag yr oedd ar 'Sombreros yn y Glaw' a 'Cae yn Nefyn'. Medrid honni mai hon yw pinacl eu gwaith, yn gymysgedd aeddfed, unigryw a chyda amrywiaeth helaeth o ddulliau yn hoelio eu neges gwrth-sefydliadol mewn cymysgedd o diwniau bendigedig llon a dwys, megis 'Torri Gwair', 'Llenwi fy Llygid' a 'To Let'.
Ar ddiwedd haf 2001, pan ryddhawyd y sengl 'Low Alpine', cafwyd datganiad gan y grwp eu bod am roi'r gorau iddi, ond fel yr ydym wedi gweld, ymddeoliad rhyfedd iawn oedd hi (yn debyg i un Dafydd Iwan) - oherwydd fe ddaeth y grwp yn 么l yn ddigon buan diolch byth. Yn fwyaf oll rhaid cydnabod fod eu cynnyrch wastad yn hynod wreiddiol a fod eu hawyrgylch o hwyl a sbri yn heintus ar y naw. Heb os mae eu cyfraniad wedi bod yn aruthrol i'r s卯n roc Gymraeg, ac yn sicr yn dal yn un o fandiau mwyaf Cymru.
Genre
Ska, ffync, roc.
Aelodau
Ceri Cunnington - canwr
Gareth Thomos - git芒r a llais
Rhys Roberts - bas
Jo Buckley allweddellau
Alwyn Evans - drymiau
Ozzy Buckingham - gitar rhythm
Cai Tomos - bongos
Dan Cauliflower - bongos
Iwan Jones - gitar
Edwin Humphries - sax
Barri Gwilliam - trwmped
Arwel Davies - trombone
Lincs perthnasol
Sain -