成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

成人快手 成人快手page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Y Panics
Caerfyrddin, Meh 2004
Lowri Johnston


Adolygwr
Lowri Johnston

Lle a phryd
Clwb Rygbi'r Quins, Caerfyrddin 18/6/04

Yr Artistiaid
Y Panics

Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Mae'r Panics wedi bod yn weddol dawel yn ddiweddar, ac felly syndod a siom o'r mwyaf oedd cyn lleied o bobl ddaeth i gig cynta'r band mewn tua 6 mis yn y ardal. Bai'r hysbysebu - neu'r diffyg - o bosib (ie, yr un hen esgus!).

Er bod y lle bron yn wag, mae pawb sydd yno yn ddigon hwylus - a dyw'r gwacter ddim i'w weld yn effeithio'r band heno chwaith. A dweud y gwir, mae'n ymddangos eu bod yn chwarae i ystafell orlawn yn lle y llond dwrn sydd yma.

Ac fel dilynwyr selog y band yma, rhaid dweud mai dyma un o'r perfformiadau gorau dwi wedi gweld gan Y Panics ers sbel. Dyw hyd yn oed absenoldeb Nia Medi (llais) ddim yn effeithio rhyw lawer, gyda Fflur Dafydd yn llawn digon abl i gynnal y sioe.

Set digon chilled yw hi ar y cyfan - ond mae dal yn llawn o'r hen ffefrynnau - Dyn Tywydd, Leicra Lan Lofft, Mr Bean, Ladies. Yng nghanol y set mae Fflur Dafydd yn cyfnewid y git芒r acwstig am yr allweddellau, a dyma yw uchafbwynt y set i mi.

Mae'n chwarae c芒n newydd acwstig - heb deitl - sydd wedi cael ei hysgrifennu ar y cyd gyda ffrind o'r Iwerddon (Gwyddelod yw hanner y gynulleidfa a dweud y gwir - lle mae'r bobl leol?), ac mae'n hollol wych. C芒n yw hi am golli plentyndod, ac mae'n cael sylw y gynulleidfa i gyd yn syth - pawb ar goll yn ei melodi hyfryd, a phawb ar f卯n cwympo i gysgu. Ond, mae'r Panics yn adnabod eu cynulleidfa yn dda, ac yn chwarae Elin Royles i ddilyn - can 芒 fwy o fynd iddi i ddihuno pawb!

Ffefryn arall i bawb o'r Gorllewin yw Pobl Chips - c芒n am ferched siop sglodion Crisp & Fry yng Nghaerfyrddin - lle sy'n bererindod i drigolion y dre ar 么l noson allan! Mae'r g芒n Ladiesi orffen yn ysgogi rhai i ddawnsio (o'r diwedd!) - a'r band i'w gweld yn falch o'r cwmni!

Mae'r band i'w gweld yn datblygu yn dda ac mae'n heb bryd am albwm - dewch 'mlaen bois! Yn anffodus, does dim llawer o ddyddiadau wedi eu trefnu (eto!) ar gyfer gigs dros yr haf (gyda Betsan yn byw yn y Gogledd, mae'r band yn ei ffeindio'n anodd i gynnal ymarferion), felly peidiwch a'u colli nhw ar y nos Wener yn gig Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod.



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy