Enw:
T. Robin Chapman
Beth yw eich gwaith?
Darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro ysgol, geiriadurwr
Dywedwch ychydig am eich llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn - beth wnaeth ichi ei sgrifennu?
Un Bywyd o Blith Nifer: y cofiant cyflawn cyntaf i Saunders Lewis (ond nid y gwaith terfynol arno, o bell ffordd)
Beth, hyd yn hyn, fu uchafbwynt cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn i chi?
Cael gwybod bod pobl wedi darllen y llyfr
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Ambell gofiant arall - ac ychydig o feirniadaeth lenyddol
A oes gennych lyfr/au eraill ar y gweill?
Oes, rhywbeth uchelgeisiol iawn: hanes llenyddiaeth Gymraeg yn Saesneg - y tro cyntaf imi roi cynnig ar sgrifennu hanes.
O ble'r ydych chi'n dod?
颁补别谤濒欧谤
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Aberystwyth
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Rwy'n cofio darllen llyfrau William Richmal Compton yn awchus
A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Ni fyddaf - ond bydd yn rhaid gwneud eto rywbryd
Pwy yw eich hoff awdur?
Am ei feistrolaeth ar iaith: T. Gwynn Jones; am ei gallu i ddweud stori: Margaret Atwood.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Ateb confensiynol iawn, mae arna i ofn - Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis: y llyfr Cymraeg cyntaf imi ei ddarllen heb ddibynnu'n slafaidd ar eiriadur.
Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo, mae'n si诺r. Mae ei gerddi fel petaent yn datgelu rhywbeth newydd bob tro y daw rhywun atynt.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Ar hyn o bryd, 'Onnen Drannoeth Storom' Dafydd Rowlands. Fe'i darllenais ar ddamwain, ac mae hi wedi cydio.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Cyfod, cerdd, dawnsia, wele'r bydysawd' Waldo. Cyngor da i fyfyrwyr gorbryderus.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
El Laberinto del Fauno (Pan's Labyrinth). Fe'm lloriwyd ganddi.
Ychydig iawn o deledu, ond ni chollais yr un darllediad o Life on Mars.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Geiriau digalon braidd Kate Roberts: 'Rydan ni'n mynd trwy fywyd heb i fyw o am yn bod ni'n disgwyl rhwbath gwell o hyd.'
Pa un yw eich hoff air?
Digamsyniol
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu'r piano - neu unrhyw offeryn.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Bl锚r, oriog, anghofus
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Byddai trwyn hanner y maint yn fendith.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Islwyn Ffowc Elis. Wedi colli cyfrif faint o weithiau fy mod wedi dod i gasgliad ar 么l hir feddwl a chael bod IFfE wedi dweud yr un peth - ond ganwaith yn fwy celfydd - o'm blaen.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y ddau achos llys yn sgil llosgi'r Ysgol Fomio. Mae gen i ddarlun byw yn fy meddwl, a da fyddai cael gweld pa mor gywir ydyw.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adref
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri yn y Kashmir, Bradford, ar noson o haf.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Ambell gynnig (aflwyddiannus) ar arlunio a chwarae bowls.
Pa un yw eich hoff liw?
Y lliw anniffiniol porffor/ambr yn y machlud dros Fae Ceredigion ambell noson o haf.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rwy'n fodlon gadael i eraill doethach na mi wneud hynny.
Os daw gwobr Llyfr y Flwyddyn i chi - sut byddwch chi'n gwario'r arian?
Temtio ffawd fyddai dweud.