成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
成人快手 Cymru - Llyfr y Flwyddyn成人快手 Cymru - Llyfr y Flwyddyn

成人快手 成人快手page
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Holi Llwyd Owen

Sgwrs gydag awdur Ffydd Gobaith Cariad.

Enw:
Llwyd Owen

Beth yw eich gwaith?
Nofelydd / Cyfieithydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gyrrwr bws, golchwr llestri, ffarmwr organig, extra ar Crimestoppers.

Dywedwch ychydig am eich llyfr sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn - beth wnaeth ichi ei sgrifennu?
Nofel yn dilyn bywyd tawel, dinod a diflas Alun Brady (y prif gymeriad) a sut mae ei fywyd yn newid pan ddaw ei ddad-cu drygionus, Patrick, i fyw ac i farw gyda'i deulu.

Beth, hyd yn hyn, fu uchafbwynt cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn i chi?
Ar wah芒n i gyrraedd y rhestr fer, clywed Catrin Dafydd yn cyfaddef ei bod hi'n 'gwedd茂o wrth yrru' mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Os cewch gynnig lifft erioed ganddi... gwrthodwch!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Hyd yn hyn, dim ond Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, fy nofel gyntaf gafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2006.

A oes gennych lyfr/au eraill ar y gweill?
Bydd fy nhrydedd nofel, Yr Ergyd Olaf, yn y siopau cyn Nadolig 2007.

O ble'r ydych chi'n dod?
Caerdydd.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Anturiaethau Asterix ac Obelix, hanes Odysseus i blant.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Mae gen i gasgliad reit dda o lyfrau Asterix o fy mhlentyndod a dw i'n cyfeirio at yr Odyssey am ysbrydoliaeth yn aml.

Pwy yw eich hoff awdur/on?
Jim Dodge, Iain Banks, Dewi Prysor, Richard Dawkins, Naill Griffiths, John Pilger, Tom Robbins, Michael Marshall Smith, Lloyd Robson, John Williams, Irvine Welsh, Eurig Wyn, Phillip K Dick, Elmore Leonard... a lot lot mwy!

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Nath Filth gan Irvine Welsh ddylanwadu'n fawr ar fy nofel gyntaf.

Pwy yw eich hoff fardd?
Jim Dodge.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Cardiff Cut gan Lloyd Robson.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
It exacts the strictest discipline To truly take it easy.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm - The Big Lebowski.
Teledu - The Simpsons / Alan Partridge.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth - a pham?
Hoff - Bruce Robertson (Filth)
Cas - Frodo Baggins (Lord of the Rings).

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gwyn y gw锚l y fr芒n ei chyw.

Pa un yw eich hoff air?
Iachach.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn cerddorol - y drwms yn benodol.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Penderfynol, diamynedd, ymroddedig.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Diffyg amynedd.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
John Pilger (http://www.johnpilger.com). Newyddiadurwr gorau'r byd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gweld Frank Zappa a Captain Beefheart yn rhannu'r un llwyfan ar daith Bongo Fury 1975.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Bill Hicks. Baswn i ddim yn dweud na gofyn dim wrtho, jyst gwrando.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adref at Lisa ac Elian.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pei neu curry.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, gwrando ar gerddoriaeth, cerdded, ffotograffiaeth, yfed seidr.

Pa un yw eich hoff liw?
Sgarlad.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rhywbeth i wneud gyda'r amgylchedd - rhaid i arweinyddion y byd gymryd bygythiad twymo byd eang o ddifrif... cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

Os daw gwobr Llyfr y Flwyddyn i chi - sut byddwch chi'n gwario'r arian?
Ni fyddaf yn gwario'r arian ar ddim byd penodol ond bydd ennill y wobr yn golygu byddaf yn gallu talu rhan o fy nghyflog a chanolbwyntio ar ysgrifennu ffuglen am fisoedd lawer i ddod.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy