成人快手

Capeli, tai te a gauchos

Capel Seion, Esquel yn yr Andes

13 Tachwedd 2008

Rhan 4: Grahame Davies yn ysgrifennu am y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn 1865.

Patagonia: Cymru Fach 8,000 o filltiroedd i ffwrdd

Erbyn troad yr 20fed ganrif, wedi i'r Cymry sefydlu presenoldeb Ewropeaidd ym Mhatagonia, daeth llywodraeth yr Ariannin i mewn, dweud muchos gracias, cymryd rheolaeth uniongyrchol a diffodd ymreolaeth lywodraethol ac addysgol y Wladfa. Yn eironig, digwyddodd hyn wrth i'r iaith Gymraeg gael ei chaniat谩u, yn amharod iawn, yn y system addysg yn 么l yng Nghymru lle mae chwarter o'r holl blant bellach yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn y Wladfa, golygodd rheolaeth uniongyrchol ddiwedd ar y Gymraeg mewn llywodraeth leol ac yn yr ysgolion, a dechrau llif o ymfudo Sbaenaidd a Ewropeaidd eraill a arweiniodd at y Cymry'n bod yn lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi'i sefydlu.

Dylai'r freuddwyd wedi dod i ben ar y pwynt yna, gyda'r Cymry'n cael eu cymhathu ymhen cenhedlaeth. Er gwaethaf pob disgwyl, parhaodd. Sawl cenhedlaeth ar 么l yr ymfudwyr cyntaf, gellir clywed yr iaith Gymraeg o hyd ym Mhatagonia.

Arwydd Sbaeneg a Chymraeg ar d欧 te yn Nhrefelin

Er gwaethaf peidio 芒 derbyn unrhyw ymfudwyr pellach o Gymru ar 么l 1914, ac er gwaethaf y system addysg uniaith Sbaeneg, daliodd y Gymraeg i fod yn iaith y cartrefi, y capeli a'r eisteddfodau.

A phan ddechreuodd ddangos arwyddion o ddirywiad difrifol, yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif, yn annisgwyl iawn cafodd ei adfywio. Oherwydd teithiau awyrennau rhatach aeth cysylltu 芒 Chymru'n haws. Dechreuodd llawer mwy o bobl o Gymru ymweld 芒'r lle. Cymerwyd camau i gefnogi'r iaith yn yr hunig gadarnle tu allan i Gymru.

Ym 1996 dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen, sy'n parhau o dan y Cynulliad Cenedlaethol, lle mae grwpiau o athrawon yn treulio blwyddyn yn y Wladfa'n dysgu'r iaith i'r bobl. Mae rhyw 700 o bobl wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn dosbarthiadau. Mae nifer syfrdanol yn mynd yn rhugl. Mae prosiect rhyngrwyd y Cyngor Prydeinig yn cadw'r grwpiau o ddysgwyr mewn cysylltiad 芒 Chymry Cymraeg yn 么l yn yr henwlad. Mae technoleg yr 21ain ganrif yn cynnal delfryd y 19eg ganrif.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.