Twf y Tsieineaid yng Nghymru
Roedd y Tsieineaid ymysg y cymunedau tramor cyntaf i setlo yng Nghymru yn sg卯l twf porthladdoedd y de. Chloe Phillips sy'n egluro hanes cynnar y gymuned a'r 'ymosodiad gwaethaf yn hanes Prydain' arni ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Daeth y Tsieineaid i Gymru yn yr un modd ag y daethant i weddill Prydain: fe wnaeth morwyr a oedd yn fasnachwyr godi eu pac a sefydlu busnesau, golchdai yn bennaf, yn y trefi yr oeddent newydd symud iddynt. Roedd y Tsieineaid yn gadael eu gwlad i chwilio am arian a bywyd gwell ac roedd cwmn茂au o Brydain yn cyflogi morwyr o Tsieina oherwydd eu bod yn ymddangos yn ddiniwed ac yn weithgar, er eu bod yn cael llai o gyflog.
Daeth yr anheddwyr cyntaf o Tsieina i Gymru drwy Gaerdydd a phorthladdoedd eraill megis Casnewydd a'r Barri, a dyfodd yn sylweddol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Wrth i ddiwydiant dyfu, roedd y gymuned hefyd yn tyfu o ran maint ac amrywiaeth.
Erbyn 1911, cofnodwyd bod tua dau gant o Tsieineaid wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, a bod tua hanner o'r rheini yn forwyr heb gartref parhaol (a oedd yn aros yn y tai preswyl ar wah芒n ar Stryd Bute), tra ymgartrefodd y gweddill yn y gymuned. Daeth y rhan fwyaf o'r Tsieineaid hyn o Siyi ('pedair sir' yn Guangdong sydd 芒 hanes hir o fudo dramor), fel y gwelir ar yr arysgrifau ar feddau Tsieineaid ym mynwent Cathays yng Nghaerdydd.
Sefydlu golchdai
Roedd y Tsieineaid yng Nghaerdydd yn byw naill ai o amgylch Stryd Bute, un o ardaloedd di-raen y ddinas, neu roeddent ar wasgar ledled y ddinas fel golchwyr dillad. Erbyn 1911 roedd 21 o olchdai Tsieineaidd, a saith o fusnesau yn cael eu rhedeg gan Tsieineaid ar Stryd Bute, a oedd yn cynnwys siopau, tai llety a phencadlys cymdeithas gyfrinachol Tsieineaidd. Roedd y tai llety, yr 'ystafelloedd lluniaeth' a'r siopau groser hyn yn ffurfio calon symbolaidd y gymuned Tsieineaidd, ac roedd y Tsieineaid o Gasnewydd a'r Barri yn ymweld 芒 hwy'n aml, yn ogystal 芒'r rheini a oedd wedi ymgartrefu ym Mhontypridd a'r Rhondda.
Roedd y Tsieineaid yn cael cefnogaeth hefyd gan 'Glwb Tsieineaidd', yn ogystal 芒 Chymdeithas Gweriniaeth Tsieina a chymdeithasau bro gynefin; erbyn 1921, roedd cangen o Gymdeithas fyd-eang Sey Yap wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd, a oedd yn dangos cysylltiadau trawswladol trigolion Tsieineaidd Caerdydd.
Er nad oedd pobl Tsieina yn adnabyddus am eu gallu i olchi dillad, roeddent yn dewis y proffesiwn hwn yn aml gan nad oedd angen llawer o arian arnynt i sefydlu golchdai, nid oedd angen llawer o sgiliau arnynt i wneud y gwaith, ac roedd modd camfanteisio ar lafur teulu er mwyn hybu'r busnes. Gan eu bod wedi'u lleoli mewn porthladdoedd, gallai'r Tsieineaid o dramor gadw mewn cysylltiad 芒'u cydwladwyr.
Lee Wing oedd perchennog y golchdy cyntaf a gofnodwyd yng Nghaerdydd yn 1906. Roedd golchdai'n lledaenu drwy deuluoedd a chysylltiadau teuluol ac roedd yr enw Lee yn amlwg iawn yn y masnach golchdai Tsieineaidd ledled Prydain bryd hynny.
Perthynas 芒 menywod lleol
Fel mewn mannau eraill, dynion oedd y rhan fwyaf o'r Tsieineaid a ymgartrefodd yng Nghaerdydd ac ar hyd a lled De Cymru. Yn 1912, dywedodd y Western Mail bod 'menywod Tsieineaidd megis pelican yn y diffeithwch; yn wir, dim ond un sydd yma yng [Nghaerdydd].' Mae'n bosibl bod y morwyr na wnaethant ymsefydlu wedi ffurfio perthnasau ffwrdd-芒-hi gyda merched yn y porthladdoedd, ond roedd angen i'r rheini a oedd mewn swyddi sefydlog, megis golchi dillad, briodi y tu allan i'w gr诺p ethnig os oeddent am briodi o gwbl.
Roedd y perthnasau hyn, yn ogystal 芒 phresenoldeb y Tsieineaid yn gyffredinol (yn enwedig yng Nghaerdydd), yn cael sylw diddiwedd yn y wasg leol. Roedd achosion o arestio'r Tsieineaid am hapchwarae neu ysmygu opiwm yn cael cryn sylw yn y papurau newydd, ond perthnasau gyda menywod brodorol oedd y mater mwyaf dadleuol, yn enwedig yn 1922 pan ddaethpwyd o hyd i Yee Sing, perchennog golchdy, wedi marw ar ei wely gyda thair o ferched lleol mewn coma, bob un ohonynt yn dioddef o sgil effeithiau defnyddio opiwm. Roedd y wasg ar ben eu digon, a neilltuwyd tudalennau i 'Drasiedi Gloddest Opiwm Caerdydd'.
Roedd adroddiadau eraill yn portreadu'r Tsieineaid yn fwy ffafriol, gydag un yn datgan eu bod yn 'ddynion sobr, tawel sy'n gweithio'n galed, ac y gallai gweithiwr Prydeinig ddysgu llawer wrthynt o ran sut mae gweithio'n ddiwyd, yn ddarbodus ac yn sobr'.
Terfysg 1911
Er gwaethaf y gefnogaeth hon ymhlith rhai colofnau, fin nos ar 20 Gorffennaf 1911, ymosodwyd ar y Tsieineaid ledled De Ddwyrain Cymru, yn enwedig yng Nghaerdydd, gan heidiau o bobl o wahanol gefndiroedd. Cafodd ffenestri blaen pob golchdy yng Nghaerdydd eu torri gan y criwiau, a rhoddwyd rhai ohonynt ar d芒n, tra cafodd eraill eu hysbeilio a'u difrodi. Dyma'r ymosodiad gwaethaf yn hanes Prydain ar y Tsieineaid yn uniongyrchol, a chafwyd wythnosau o densiwn a thrais achlysurol rhwng y bobl leol a'r Tsieineaid, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yng Nghasnewydd a'r Barri hefyd. Ar y pryd, roedd y morwyr wedi bod ar streic ers tua mis ac roedd Capten Tupper, arweinydd y streic, wedi bod yn galw ar ei gefnogwyr i uno yn erbyn y Tsieineaid, a oedd wedi'u gwahardd rhag bod yn aelodau o undeb, ac a oedd yn parhau i weithio ac yn cael eu dirmygu am fod yn 'fradwyr'.
Ni lwyddodd yr ymosodiadau i atal twf y golchdai Tsieineaidd (roedd cynifer 芒 29 yng Nghaerdydd erbyn 1918), na nifer y Tsieineaid a fewnfudai i Gymru. Fodd bynnag, pan ddaeth proses mecaneiddio'r diwydiant golchdy yn fwy eang, a gyda dyfodiad peiriannau golchi dillad mewn cartrefi, daeth golchdai Tsieineaidd yn fwy prin, er bod modd dod o hyd i rai o hyd yn ystod y 1960au yng Nghymru. Yna, gwelodd y Tsieineaid farchnad newydd, sef bwytai a phryd-ar-y-stryd Tsieineaidd (Sam On Yen oedd y bwyty cyntaf yng Nghaerdydd, a agorwyd yn ystod y 1940au), sy'n gyffredin iawn ledled Cymru heddiw.
Chloe Phillips
Mwy
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.