成人快手

Castell Penfro 漏 Bwrdd Croeso Cymru

Ymsefydliad y Fflandrysiaid yng Nghymru

Little England Beyond Wales.

Mae'r stori y tu 么l i'r enw rhyfedd hwn am dde Sir Benfro yn ymwneud 芒 thiroedd a gipiwyd, mewnfudwyr economaidd a hurfilwyr.

Mae'r rhan hon o Dde Cymru wedi gweld nifer o oresgynwyr yn mynd a dod, Rhufeiniaid, Llychlynwyr a Normaniaid, i enwi dim ond rhai. Gwnaeth y bobl Fflandrysaidd a gyrhaeddodd yn y 12ed Ganrif ar 么l y Goresgyniad Normanaidd, argraff unigryw a pharhaol, sy'n dal i fodoli heddiw yn y rhaniad daearyddol ar draws y wlad rhwng yr iaith Saesneg a'r Gymraeg.

Milwyr

Cyrhaeddodd un o'r tonnau cyntaf o bobl Fflandrysaidd i gyrraedd Ynysoedd Prydain adeg y Goresgyniad Normanaidd yn 1066. Yn ystod y 11eg Ganrif, roedd Fflandrys yn cael ei gorboblogi'n ddifrifol a gorfodwyd y bobl Fflandrysaidd, yn yr ardal a gaiff ei hadnabod nawr fel Gwlad Belg, i symud. Symudodd nifer i'r Almaen, tra ymunodd eraill 芒'r fyddin Normanaidd, gan ddatblygu'n elfen bwysig yn eu lluoedd. Gwobrwyodd y brenhinoedd Normanaidd y rhai fu'n ymladd 芒 thir yn y gwledydd a goncrwyd, gan roi tir iddyn nhw fyw arno, ar yr amod eu bod yn ei amddiffyn ar ran y goresgynwyr Normanaidd.

Roedd trigolion y rhanbarth hon 芒'u gwreiddiau yn Fflandrys, ac fe'u hanfonwyd gan y Brenin Harri'r I i fyw yn yr ardaloedd hyn; yn bobl ddewr a chadarn, yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y Cymry; pobl, ddywedwn i, oedd yn gyfarwydd 芒 masnach a diwydiannau gwl芒n; pobl a oedd yn awyddus i ennill tir trwy f么r neu dros dir, er gwaethaf blinder a pherygl; yn hil eofn, yn gyfarwydd 芒 defnyddio aradr neu gleddyf fel ei gilydd; pobl ddewr a hapus.

Gerallt Gymro, Itinerarium Kambriae, 1188

Cyn y Goresgyniad Normanaidd, roedd llawer o ymladd mewnol yng Nghymru, ac nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i amddiffyn ei hun gyda rheng unedig. Sefydlodd William I ei ieirll ar hyd ffin Cymru yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd, ac yn fuan iawn fe symudon nhw i mewn i Gymru. Aeth Iarll Amwythig 芒'i luoedd i'r de orllewin, trwy Bowys a Cheredigion i Ddyfed, lle y sefydlon nhw gastell ym Mhenfro.

Ceiswyr Lloches

Dioddefodd Fflandrys yn enbyd ar 么l nifer o stormydd ym 1106. Ysgrifennodd Samuel Lewis: "Yn ystod storm erchyll ar arfordir Fflandrys, fe gariwyd nifer o'r twyni tywod a'r argloddiau i ffwrdd, a fe foddodd y m么r ddarn anferth o'r wlad."

Achosodd hyn i nifer fawr o Fflandrysiaid geisio lloches yn Lloegr, lle croesawyd hwy gan Harri I. Fe ymgartrefon nhw mewn nifer o drefedigaethau ar draws Lloegr, ond cyn hir ysgrifennodd Samuel Lewis " fe ddaethon nhw'n atgas i'r boblogaeth frodorol" ac fe symudodd Harri I y Fflandrysiaid i'r anheddau ffermio anghysbell yn y 'cantref', ardal o Rh么s, yn ne Sir Benfro.

Achosodd y sefydlu systemig hwn o ymsefydlwyr Fflandrysaidd gan Harri I, ac, yn fwy diweddar, Harri II, ganlyniadau sylweddol i bobl de Sir Benfro. Mae'r Athro Hanes, Harold Carter, yn edrych ar yr effeithiau: "Os edrychwch chi ar Brut y Tywysogion - Cronicl y Tywysogion Cymreig - mae'n cofnodi 'Pobl arbennig o darddiad ac arferion rhyfedd yn byw yn y cantref cyfan yn Rh么s ger aber afon Cleddau, gan yrru holl drigolion yr ardal i ffwrdd'. Mewn ffordd gallech bron iawn 芒'i alw'n broses o lanhau ethnig."

Adeiladwyd llinell o dros 50 o gestyll a chadarnleoedd gan y Normaniaid a'r Fflandrysiaid i amddiffyn de Sir Benfro oddi wrth y Cymry brodorol, a oedd wedi eu gorfodi i symud i'r wlad fynyddig i ogledd y sir. Roedd y ffin o gestyll, a adwaenid fel y llinell Landsger - o'r gair Llychlynnaidd am raniad - yn ymestyn o Niwgwl ar yr arfordir gorllewinol i Amroth ar yr arfordir de ddwyreiniol.

Tref Dinbych-y-pysgod
Dinbych-y-pysgod

Roedd dwy ran o dair o'r cadarnleoedd wedi eu hadeiladu o bridd, gyda chestyll cerrig ar, neu yn agos i, ddyfroedd mordwyol. Cafodd y castell yn Hwlffordd ei adeiladu gan yr arweinydd Fflandrysaidd, Tancred, yn fuan ar 么l i'r Fflandrysiaid gyrraedd yn 1108. O dan ei amddiffyniad datblygodd treflan, a gosodwyd y sylfeini ar gyfer tref farchnad fodern a chanolfan fasnachol. Cafodd y pentref Cas-wis, bum milltir i'r gogledd-ddwyrain o Hwlffordd, ei enwi ar 么l Fflandryswr arall, Yr Arglwydd Wizo, a sefydlodd gastell yno, tra roedd Treletert yn gartref i'r g诺r 芒'r ffugenw addas Letard Litelking ('y Brenin Bach').

Tyfodd Dinbych-y-pysgod, ar arfordir de ddwyrain Sir Benfro, yn ystod y 12ed Ganrif, pan godwyd waliau o gwmpas y dref, castell ac eglwys er hwylustod i'r trefedigion Fflandrysaidd. Roedd y Fflandrysiaid yn arbenigwyr yn y fasnach wl芒n, ac yn fuan iawn fe ffynnon nhw yn yr ardal.

Ymsefydlodd y Fflandrysiaid ar y tir ffermio mwyaf cynhyrchiol yn Sir Benfro, i'r de o'r llinell Lansger, ar y gwastadeddau isaf. Yma roedd y tir yn ffrwythlon, yn cael ei gynhesu gan Lif y Gwlff, yn mwynhau hafau bach Mihangel, gaeafau claear a gwanwynau cynnar. Roedd cnydau'n barod bythefnos cyn y rhai yng Ngogledd y sir, lle'r oedd y tirwedd yn fwy mynyddig.

Y llinell Landsger

Cyn y Goresgyniad Normanaidd, fe fyddai'r rhan fwyaf o'r hyn sydd nawr yn Sir Benfro yn Gymraeg ei iaith. Daeth y llinell Landsger yn ffin gelfyddydol a ieithyddol a rannodd Sir Benfro'n ddwy.

Baner Fflandrys
Baner Fflandrys

Roedd y mewnlifiad Fflandrysiaid i dde Sir Benfro mor anferth nes i'r iaith Gymraeg gael ei disodli ac ymhen amser gwnaeth Fflemineg le i'r Saesneg fel y brif iaith. Er hynny, roedd yn dafodiaith a siaradwyd gydag acen gref a neilltuol gyda geirfa helaeth o eiriau nas cafwyd yn gyffredin yn unlle arall.

Ym 1930, ysgrifennodd P.V.Harris: "mewn sawl ffordd tafodiaith De Sir Benfro yw'r hynotaf ym Mhrydain, ac, oherwydd pellter y wlad o bobman arall, efallai hon gafodd ei llygru leiaf yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae nifer o'r geiriau yn dyddio o'r adeg cyn Chaucer ac maen nhw wedi peidio 芒 chael eu defnyddio ymhobman arall ac mae nifer o'r geiriau mwyaf cyffredin yn cael eu hynganu yn y dull cynnar." Rhai enghreifftiau o'r geiriau tafodieithol a gofnodwyd gan Harris ym 1930 yw: 'Budger' - cigydd, 'Catamouse' - ystlum , 'Catchypawl' - penbwl, 'Frost Candles' - clychau rhew, 'Sea-parrot' - p芒l.

P'run ai George Owen a fathodd y term neu ei fod yn ailadrodd term cyffredin, daeth Little England beyond Wales" i gael ei ddefnyddio i nodi'r tir i'r de o'r Llinell Landsger.

Mae'r rhaniad mewn iaith ac arferion yn Sir Benfro a ddynodwyd gan y Linell Landsger yn parhau hyd heddiw. Yn flaenorol, ni ch芒i priodasau rhwng y ddau ddiwylliant eu cefnogi, gan mai nid yr iaith oedd yr unig wahaniaeth. Nododd Roy Lewis, awdur o'r ardal, y gwahaniaethau crefyddol: "Yn gynnar iawn yn fy mywyd doedd dim cymysgu rhwng pobl y gogledd a'r de. Roedd hyn yn bennaf oherwydd crefydd, gan fod y rhai o'r gogledd yn anghydffurfwyr a'r rhai o'r de yn bennaf Gatholig ac Anglicanaidd. Doeddech chi ddim yn ymwneud 芒'r 'down below'."

Mae De Sir Benfro wedi dod yn lle poblogaidd i adleoli iddo, o rannau eraill o'r DU. Mae'r don newydd hon o bobl wedi meddalu'r gwahaniaeth diwylliannol. "Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o'r carfanau", dywed Roy, ac felly does ganddyn nhw ddim teyrngarwch i'r naill ochr i'r llinell na'r llall, sy'n parhau'n ffin na ellir ei ddiffinio rhwng y ddau ddiwylliant sydd mor wahanol ond eto'n gyflenwol.


Mudo

Renato Carpanini  - llun o Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Oriel yr Eidalwyr

Lluniau o arddangosfa Atgofion Eidalwyr yng Nghymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.