I'r gad! 1925 - 1999
29 Awst 2008
Ers sefydlu Plaid Cymru yn 1925 mae grwpiau wedi defnyddio anufudd-dod sifil i ymgyrchu dros yr iaith.
Ar 么l yr Ail Ryfel Byd dirywio wnaeth yr iaith Gymraeg wrth i'r wlad deimlo effaith dirwasgiad economaidd. Dechreuodd y Blaid Lafur ddisodli'r Rhyddfrydwyr, a chan nad oedd y Gymraeg yn uchel iawn ar restr blaenoriaethau'r sosialwyr roedd dyfodol yr iaith yn dywyll. Yr amgylchiadau hyn arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru, plaid wleidyddol oedd yn ceisio hunan lywodraeth a pharhad yr iaith a diwylliant Cymru.
Ar y dechrau chafodd y Blaid fawr o sylw. Yna aeth tri aelod blaenllaw, Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine, ati i losgi ysgol fomio y Llu Awyr ym Mhenyberth yng ngogledd orllewin Cymru. Roedd y weithred yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymraeg a'r tro cyntaf ers gwrthryfel Glynd诺r i drais gael ei defnyddio yn enw Cymru.
Cyfiawnhawyd yr ymosodiad drwy dynnu sylw at effaith andwyol yr ysgol fomio ar ardal lle'r oedd y mwyafrif yn siarad Cymraeg. Fe aeth y tri at yr heddlu lleol a chynhaliwyd yr achos llys yn eu herbyn yng Nghaernarfon, lle gwrthodwyd eu cais am gael rhoi tystiolaeth yn Gymraeg gan y barnwr. Methodd y rheithgor a chytuno ar ddyfarniad, ac mewn ail achos yn yr Old Bailey y tro hyn, fe'u cafwyd yn euog a'u carcharu am naw mis.
Collodd Saunders Lewis ei swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Ymddiswyddodd o lywyddiaeth Plaid Cymru a chefnodd ar fywyd cyhoeddus a throi at ysgrifennu'n amser llawn. Ond hawliodd y penawdau eto yn 1962 pan draddododd ddarlith ar radio 成人快手, Tynged yr Iaith.
Ynddi dywedodd y byddai'r Gymraeg farw oni byddai dulliau chwyldroadol yn cael eu defnyddio i'w hamddiffyn. Ei obaith oedd y byddai Plaid Cymru'n mabwysiadu dulliau o'r math, ond fe'u gwrthwynebwyd yn chwyrn gan arweinydd y blaid, Gwynfor Evans.
Yn hytrach sbardunwyd nifer o bobl ifainc i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechrau ymgyrchu am bethau fel arwyddion ffyrdd dwyieithog a thai rhatach i bobl leol. Yn ystod y 1960au, y 70au a'r 80au carcharwyd cannoedd o gefnogwyr y Gymdeithas am dorri'r gyfraith gyda'u gweithredoedd uniongyrchol di-drais.
Cafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1967, ond consesiwn mwy na hynny hyd oed gan lywodraeth Prydain oedd sianel deledu Cymraeg. Cyrhaeddodd ymgyrch hir gan y Gymdeithas benllanw yn 1980 pan gyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth oni byddai'r llywodraeth Geidwadol newydd yn cadw at yr addewid oedd yn ei maniffesto i sefydlu sianel Gymraeg annibynnol. Yn 1982 lansiwyd S4C.
Wedi sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, canolbwyntiodd ymgyrchwyr dros yr iaith ar lob茂o gwleidyddol yn hytrach nag anufudd-dod sifil. Ond daeth grwpiau iaith newydd, megis Cymuned, i fygwth anufudd-dod sifil eto os oedd y Cynulliad yn mabwysiadu polis茂au oedd yn andwyol i les yr iaith.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.