成人快手

Yr Eglwys Gynnar yng Nghymru

Baner Dewi Sant

23 Mawrth 2009

Traddodiad Dewi Sant

Yn y ganrif ddilynol, 500-600, asgetigiaeth yn hytrach na dysg a bwysleisir. Yr amlycaf a berthyn i'r cyfnod hwnnw oedd Dewi. Roedd yn llwyrymwrthodwr, yn llysieuwr, ac yn gredwr cryf mewn gwaith corfforol. Sefydlodd ei fynachlog ar benrhyn yn ymestyn allan i lwybrau m么r y gorllewin, lleoliad delfrydol i un o brif ganolfannau Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd eu hiaith. Yn wir, y mae'n bosib y siaradwyd yn y Tyddewi cynnar fwy o Wyddeleg nag o Gymraeg. Bu farw Dewi ar Fawrth 1 tua'r flwyddyn 590. Erbyn 1200, roedd o leiaf 60 o eglwysi plwyf wedi'u cysegru iddo, y rheini'n ymestyn o Dyddewi i Swydd Henffordd, o Gw欧r i ben uchaf Dyffryn Gwy. Erbyn hynny, y fro honno oedd esgobaeth Tyddewi, bro a gynhwysai hanner arwynebedd Cymru. Gan fod dydd g诺yl Dewi yn cael ei ddathlu mewn mwy o blwyfi na'r un sant arall, y mae'n naturiol iddo gael ei fabwysiadu'n Nawdd Sant Cymru.

Abad oedd Dewi'n bennaf. Dichon ei fod hefyd yn esgob, ond o'r braidd bod unrhyw sail i'r honiad a wnaed yn ddiweddarach ei fod yn archesgob gydag awdurdod dros esgobion eraill Cymru.

'Oes y Saint'

Roedd nifer o arweinwyr eglwysig eraill yn gyfoedion i Ddewi: Teilo, Cadog, Padarn, Beuno a Tysilio yn eu plith. Cysegrwyd eglwysi iddynt hwythau'r ogystal. Er enghraifft, erbyn 1200 roedd 25 o eglwysi wedi'u cysegru i Sant Teilo. Felly, at Landdewi gellir ychwanegu Llandeilo, Llangadog, Llanbadarn, Llanfeuno a Llandysilio. Y mae tua mil o blwyfi yng Nghymru, ac y mae hyd at hanner eu henwau yn dechrau gyda Llan. Ystyr wreiddiol y gair oedd tir wedi'i amg谩u, ac yn y cyd-destun hwn cyfeirio yr ydoedd at gladdle i Gristnogion yn hytrach nag at adeilad. Yn ogystal 芒'r eglwysi a gysegrwyd i Ddewi a'i gymrodyr, ceir eraill a gysegrwyd i seintiau canolog Cristnogaeth megis Mair, Pedr a Mihangel (Llanfair, Llanbedr, Llanfihangel.) Ond ceir hefyd enwau mwy distadl, y rheini efallai yn eiddo i bobl nad oeddynt wedi gwneud mwy na rhoi tir i'w ddefnyddio fel mynwent.

Cymru a Christnogaeth Lloegr

Roedd Cymry 'Oes y Saint' mewn cysylltiad agos 芒'u cyd-Geltiaid. Ond yn wahanol i'r Gwyddelod, ni wnaethant fawr i ennill y Saeson paganaidd at Grist. Daeth y Saeson i gyffyrddiad 芒 Christnogaeth Rufeinig yn 597 pan ymsefydlodd Awstin Sant yng Nghaer-gaint. Ac yntau wedi'i benodi'n archesgob gan y Pab, disgwyliai ufudd-dod esgobion Cymru. Gwrthodasant dderbyn ei awdurdod, ac amharod oeddynt hefyd i gydymffurfio ag arferion Rhufeinig, megis y drefn o bennu dyddiad y Pasg. Yn ystod y ganrif ddilynol, derbyniodd mwyafrif eglwysi'r gwledydd Celtaidd eu hiaith y Pasg Rhufeinig. Yn 731, pan roedd yr hanesydd Seisnig Beda yn ysgrifennu hanes Eglwysig y Saeson, roedd y Cymry o hyd yn gwrthod cydymffurfio - y rheswm, mae'n debyg, dros ei elyniaeth tuag atynt.

Yr Eglwys yng Nghymru yn y cyfnod wedi 'Oes y Saint'

Derbyniodd y Cymry'r Pasg Rhufeinig yn 768. Bu'r Eglwys yn gyfrifol am greu celfyddyd gain, megis Llyfr Teilo a'r croesau ym Margam a mannau eraill. Tua 880, pan roedd y Brenin Alfred am ddenu ysgolhaig o safon i'w lys, Asser o Dyddewi a wysiwyd i Wessex. Serch hynny, bron ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, pan gipiodd Gwilym Goncwerwr goron Lloegr, roedd Eglwys y Cymry o hyd yn dra ynysig, gyda'i harferion arbennig ei hun.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.