成人快手

Twf y Blaid Lafur

Mabon

23 Mawrth 2009

Ffurfio'r Blaid Lafur

O ganlyniad i Ddeddf Diwygio'r Senedd 1884, roedd gan fwyafrif oedolion gwryw Cymru hawl i bleidleisio. Roedd y mwyafrif ohonynt yn hapus i gefnogi'r Blaid Ryddfrydol, rhai oherwydd eu cefndir Anghydffurfiol ac eraill am eu bod yn credu y gallai Rhyddfrydiaeth hybu amryw o achosion radical, gan gynnwys lles y dosbarth gweithiol.

Yn 1885, etholwyd Mabon yn aelod seneddol y Rhondda; fel arweinydd undeb llafur a dderbyniai chwip y Rhyddfrydwyr, roedd yn gynrychiolydd amlwg i'r traddodiad Lib-Lab. Ond roedd rhai yn dadlau mai buddiannau'r dosbarth gweithiol ddylai ddod uwchlaw popeth gan fod mwyafrif y boblogaeth yn perthyn i'r dosbarth hwn.

Yn 1893, ffurfiwyd y Blaid Lafur Annibynnol, mudiad a chanddo ddelfrydau uchel; sefydlwyd ambell i gangen yng Nghymru ond ni lwyddwyd i ennill ap锚l dorfol. Yn 1900 sefydlwyd Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur, menter ar y cyd rhwng undebwyr llafur ac aelodau'r cymdeithasau sosialaidd; y Pwyllgor oedd crud y Blaid Lafur. Cafodd Keir Hardie, ymgeisydd y Pwyllgor yn etholaeth Merthyr Tudful yn 1900, ei ethol fel yr ail aelod yn etholaeth ddwysedd Merthyr ac Aberd芒r. Roedd ei fuddugoliaeth yn drobwynt arwyddocaol. Ond penderfyniad cyfreithiol yn ymwneud 芒 Rheilffordd Cwm Taf yn 1901 - hwnnw'n gwahardd streicio i bob pwrpas - a roddodd derfyn ar y traddodiad Lib-Lab a theimlodd hyd yn oed Mabon bod rheidrwydd i ymuno 芒'r Blaid Lafur. Eto, cyn hwyred 芒 1914, dim ond pump o'r 34 aelod seneddol Cymreig oedd yn aelodau o'r blaid honno.

Anniddigrwydd y gweithwyr

Roedd blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif yn gyfnod o streiciau. Ar ddechrau'r ganrif cafwyd yr anghydfod diwydiannol gyda'r hwyaf yn hanes Prydain - a barodd am dair blynedd. Yn dilyn terfysgoedd Tonypandy yn 1910 roedd y Rhondda i bob pwrpas o dan feddiannaeth filwrol. Cafwyd terfysg yn Llanelli yn 1911 lle lladdwyd chwech o ddynion. Cafwyd cryn gefnogaeth i syndicaliaeth, y gred y gallai gweithredu diwydiannol weddnewid byd y dosbarth gweithiol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ystyriwyd maes glo de Cymru, lle bu streic fawr gan y glowyr yn 1915, yn un o ardaloedd mwyaf milwriaethus Prydain. Ar 么l y rhyfel, credwyd y gwireddid gobeithion y dosbarth gweithiol a bu cryn s么n am chwyldro cymdeithasol ond chwalwyd y breuddwydion gan fethiant Streic Gyffredinol 1926. O hynny ymlaen amddifadwyd aelodau'r dosbarth gweithiol o'u gallu i fargeinio oherwydd lefel uchel ddiweithdra, er i'r glowyr lwyddo yn y 1930au i gael gwared 芒'r undebau oedd yn cael eu rheoli gan y cyflogwyr.

Llwyddiant y Blaid Lafur

Er yn blaid leiafrifol yn 1914, enillodd Llafur hanner etholaethau Cymru yn 1922. Roedd hynny'n rhannol yn ganlyniad diwygiad seneddol 1918, a roddodd mwy o aelodau seneddol i'r ardaloedd diwydiannol a phleidlais i wrywod ifanc nad oeddent yn berchen t欧. Yn fwy arwyddocaol, serch hynny, oedd effaith y rhyfel ar y Blaid Ryddfrydol. Tanseiliwyd hyder pobl mewn plaid oedd yn sefyll dros ryddid yr unigolyn gan ei rhan yn y rhyfel a hefyd gan barodrwydd Lloyd George i dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr yn ei ymgais lwyddiannus i ddod yn brif weinidog yn 1916.

Ond parhaodd y gefnogaeth i'r Rhyddfrydwyr yn gryf yn ardaloedd gwledig Cymru. Yn 1945 roedd saith allan o'r 12 aelod seneddol Rhyddfrydol drwy Brydain yn cynrychioli etholaethau gwledig Cymreig. Ond cefnodd yr ardaloedd diwydiannol ar y blaid. Oddi ar 1922 y Blaid Lafur sydd wedi bod ar y brig yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yn 1931, pan nad oedd gan y Blaid Lafur ond 52 o aelodau seneddol, ei 16 o seddau ym meysydd glo de Cymru oedd ei chadarnle fwyaf. Daeth llwyddiant mwyaf y blaid yn etholiad cyffredinol 1966 pan enillodd 32 allan o 36 o etholaethau Cymru a sicrhau 61% o'r bleidlais.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.