成人快手

Capel ac Eglwys

Rheiliau capel

23 Mawrth 2009

Cryfder Anghydffurfiaeth

Sicrhaodd adfywiad yr Anglicaniaid bod yr Eglwys Wladol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif mewn safle cryfach mewn perthynas ag Anghydffurfiaeth nag y buasai yn 1851. Serch hynny, roedd oruchafiaeth yr Anghydffurfwyr yn amlwg. Er nad oeddent yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth Cymru, roedd eu gwerthoedd o'r pwys mwyaf, a datblygodd y diwylliant Anghydffurfiol i fod yn gyfystyr 芒'r diwylliant Cymreig. Yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, agorwyd capel newydd yng Nghymru bob wyth niwrnod, a hynny cyn cyfnod codi'r capeli mawrion yn yr ardaloedd diwydiannol.

Roedd y rhan fwyaf o bapurau a chyfnodolion Cymreig yn gysylltiedig 芒 rhyw enwad neu'i gilydd, ac roedd gweinidogion amlwg yn arwyr ymhlith y werin. Cododd mudiad dirwest dylanwadol o wrthwynebiad yr Anghydffurfwyr i'r ddiod gadarn; arweiniodd yn 1881 at y Ddeddf Cau'r Tafarndai ar y Sul yng Nghymru. Nodwedd o Anghydffurfiaeth y cyfnod oedd diwygiadau. Bu diwygiad grymus yn 1859 ac un mwy rhyfeddol fyth yn 1904-05.

Arwyddoc芒d gwleidyddol Anghydffurfiaeth

Gan fod llawer mwy o gapelwyr nag ydoedd o eglwyswyr, daeth yr holl syniad o'r Sefydliad dan y llach. Digwyddodd hyn yn Lloegr hefyd, ond gan fod Anghydffurfiaeth gymaint yn gryfach yng Nghymru datblygodd datgysylltu i fod yn achos cenedlaethol Cymreig.

Gwrthododd y Ceidwadwyr, amddiffynwyr traddodiadol Eglwys Loegr, 芒 derbyn y gallai Cymru lwyddo ar ei phen ei hun ar fater mor sensitif, a daethpwyd i'w gweld fel plaid wrth-Gymreig - datblygiad a fyddai'n eu rhoi dan anfantais yng Nghymru am ganrif a rhagor. Daeth y Blaid Ryddfrydol, a oedd wedi etifeddu amheuon y Chwigiaid yngl欧n 芒'r berthynas rhwng yr orsedd a'r allor, yn ddewis naturiol i etholwr Anghydffurfiol Cymreig.

O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, collodd yr Anglicaniaid ddylanwad. Daeth diwedd ar y Dreth Eglwysig yn 1870 ac ad-drefnwyd y degwm yn y 1880au. Yn raddol, collodd y Sefydliad ei safle dylanwadol ym myd addysg a daeth rheolaeth y sgweieriaid Anglicanaidd dros lywodraeth leol i ben gyda sefydlu cynghorau sir etholedig yn 1889.

Yn 1920, ar 么l llawer i helynt, datgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Cr毛wyd talaith Gymreig o fewn y cymundeb Anglicanaidd, gyda'i archesgob ei hun, a chafodd yr hen waddolion eu secwlareiddio. Er bod yr Eglwys yng Nghymru wedi cadw'r eglwysi cadeiriol a'r eglwysi plwyf, roedd ei safle o fewn y gyfraith o hyn ymlaen yr un fath 芒 safle'r enwadau eraill.

Y lleihad yn ap锚l crefydd

O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen heriwyd daliadau traddodiadol Cristnogion gan ysgolheictod newydd. Tueddai dadansoddiadau o'r Beibl wanhau'r gred fod y Beibl yn llythrennol wir. Roedd darganfyddiadau ym maes daeareg a'r syniadau am esblygiad yn tanseilio'r gwirioneddau traddodiadol. Gan fod y capeli'n ganolbwynt y bywyd cymunedol, gallai capeli fod 芒 mwy o ran yn adloniant y bobl nag yn eu bywyd ysbrydol. Gwnaeth yr ymgyrch dros ddatgysylltu pwysleisio pwysigrwydd maint aelodaeth yr enwadau, ac aeth nifer yr aelodau i ymddangos yn bwysicach na gwir deyrngarwch. Roedd nifer aelodau'r capeli ar ei uchaf yn 1907 pan roedd yng Nghymru 750,000 o gymunwyr a llu o 'wrandawyr' achlysurol.

Wedi hynny, gostwng yn gyson a wnaeth y rhif. Cyfrannodd nifer o ffactorau at y gostyngiad - sinigiaeth wrth weld clerigwyr yn recriwtio adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, y chwalfa yn y cymunedau traddodiadol, y cynnydd mewn diddordebau hamdden newydd, a'r cynnydd mewn ymbleseru a threulyddiaeth. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain dim ond un o bob deg o drigolion Cymru oedd yn mynychu lle o addoliad yn gyson, sefyllfa wahanol iawn i'r un ganrif ynghynt pan oedd pobl Cymru yn cael eu clodfori am eu duwioldeb.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.