成人快手

Cymry a'r Gemau Olympaidd: tu hwnt i'r trac athletau

top
Pwll Gemau Llundain 2012 sydd wedi ei gynllunio gan Zaha Hadid

Yn ogystal 芒'n hathletwyr, mae nifer helaeth o Gymry wedi perfformio gydag anrhydedd mewn amryw gampau yn y Gemau Olympaidd.

Nofio, rhwyfo a pholo

Cyn Gemau Olympaidd 2012, mae Cymry wedi ennill hanner cant yn union o fedalau Olympaidd - 20 o fedalau aur, 12 arian ac 18 efydd.

Ar wah芒n i'r stadiwm athletau, ble'r enillwyd y medalau hyn? Wel, enillwyd unarddeg ohonynt mewn cystadlaethau yn y d诺r neu ar y d诺r.

Yn y dyddiau cynnar, Paulo Radmilovic o Gaerdydd oedd y seren. Fe enillodd Paulo fedal aur yng Ng锚mau Llundain, 1908, yn y ras nofio 4x200 metr dull rhydd.

Ond polo d诺r oedd ei arbenigedd, ac enillodd fedalau aur yn y gamp honno yng Ngemau 1908, 1912 a 1920. Enillwyd medalau yn y pwll Olympaidd hefyd gan ddwy ferch o Gaerdydd, sef Irene Steer a enillodd fedal aur yn y ras 4x100 metr dull rhydd yn Stockholm, 1912, a Valerie Davies a enillodd ddwy fedal efydd yng Ngemau Los Angeles, 1932.

Ym 1968, bachgen ysgol o Gaerdydd, Martyn Woodroffe, oedd yr arwr wrth iddo gipio'r fedal arian yn y ras 200 metr dull pilipala ym Mecsico. Bu'n rhaid aros wedyn tan Athen, 2004, cyn cael medal yn y pwll nofio, a'r g诺r a gipiodd y fedal efydd yn y ras 1500 metr dull rhydd oedd David Davies.

Yn Beijing, 2008, roedd David eto ymhlith y medalau wrth iddo gipio'r fedal arian mewn ras galed iawn dros 10 cilomedr mewn d诺r agored. Mae'n gobeithion yn fawr o weld David wrthi eleni eto yng Ngemau Llundain. Enillwyd saith o fedalau hyd yma mewn amrywiol gystadlaethau ar y d诺r, a daeth dwy o'r rheini yn Beijing. Enillodd Tom James aur yn y ras rwyfo i dimau o bedwar, a Tom Lucy arian yn y ras rwyfo i dimau o wyth.

Ar eu ceffyl

Marchogaeth dros y clwydi, Gemau Llundain 1948
Enillwyd y gyntaf o saith medal Cymry'r maes
marchogaeth gan Syr Harry Llewellyn yn 1948

Saith yw cyfanswm medalau gw欧r y ceffylau, gyda Syr Harry Llewellyn yn ennill y gyntaf ohonynt, sef medal efydd, yn Llundain, 1948. Gwnaeth yn well na hynny yn Helsinki bedair blynedd yn ddiweddarach, pan enillodd fedal aur ar gefn ei geffyl enwog Foxhunter, fel rhan o d卯m Prydain.

Ac yna daeth David Broome a Richard Meade i ddisgleirio - Broome yn ennill medalau yn Rhufain, 1960, (efydd) ac efydd eto ym Mecsico , a Meade yn ennill tair medal aur, un ym Mecsico a dwy ym Munich, 1972.

Edrych ymlaen at Gemau Llundain 2012

Dau enw sy'n gyfarwydd iawn i ni ym myd seiclo yw Geraint Thomas a Nicole Cooke. Yn y cystadlaethau sy'n arwain i fyny at Gemau Llundain, mae Geraint wedi profi ei fod yn un o seiclwyr gorau'r byd, ac mae disgwyl iddo wneud yn dda fel aelod o d卯m Prydain. Cafodd hwyl dda arni yn Beijing a daeth oddi yno gyda medal aur t卯m. Daeth Nicole hefyd o Beijing gyda medal aur, a hynny am iddi ennill y ras feicio ar y ffordd. Ychydig a glywson ni am Nicole yn ddiweddar, ond gobeithio y cawn ei gweld yn cystadlu yn Llundain.

T卯m seiclo Prydain yn y felodr么m yn 2012
Mae Geraint Thomas yn allweddol yn y felodr么m i
d卯m seiclo Prydain

Mae ein cystadleuwyr Paralympaidd wedi perfformio'n wych yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yng Ngemau 2004 enillwyd 27 o fedalau (12 aur, 6 arian, 9 efydd), ac yng Ngemau 2008 y cyfanswm oedd 14 medal (10 aur, 3 arian, 1 efydd).

Yn 2008 roedd 16% o d卯m Paralympaidd Prydain yn Gymry, ac roedden nhw'n gyfrifol am ennill 25% o'r medalau aur. Un o'r s锚r yn sicr yw'r nofiwr, David Roberts, sydd eisoes wedi ennill unarddeg o fedalau aur Paralympaidd. Roedd David wedi gobeithio ychwanegu at y cyfanswm hwn yn Llundain, ond oherwydd salwch ac anafiadau, ni fydd yn cystadlu yno.

Paralympiwr arall na fydd yn cystadlu yn Llundain yw'r seiclwr, Simon Richardson, gan iddo gael ei anafu'n ddrwg mewn damwain ffordd pan oedd allan yn ymarfer. Gwnaeth yn wych yn Beijing, gan ddychwelyd gyda dwy fedal aur ac un efydd. Ond un a fydd yn Llundain, ac yn si诺r o ddisgleirio yno, yw Ellie Simmonds, y nofwraig. Aeth i Beijing pan nad oedd ond tair ar ddeg oed, yr aelod ieuengaf o d卯m Prydain, a daeth oddi yno gyda dwy fedal aur. Mae'r paratoi ar gyfer Llundain wedi mynd yn dda hyd yma i Ellie, ac rydym yn edrych ymlaen at wylio'i bwrlwm a'i brwdfrydedd unwaith eto.

Mae nifer o Gymry eisoes wedi ennill eu lle ar gyfer Gemau Llundain a'r Gemau Paralympaidd, ac mae eraill sydd o fewn cyrraedd wrthi'n gweithio'n galed i gyrraedd y safonau angenrheidiol, ac nid tasg hawdd yw honno. Edrychwn ymlaen yn fawr at eu gweld yn perfformio, a dymunwn bob hwyl iddynt.

John Meurig Edwards, 2012


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Cerdded

Beth am daith o gwmpas trefi Conwy neu Fachynlleth, gan ymweld 芒 llefydd hanesyddol?

Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Enwogion Cymru

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Dyma ddiwrnod geni Dylan Thomas - bardd Cymreig enwoca'r byd.

Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.