Cartrefi'r Celtiaid
top
Darganfuwch hanes y Celtiaid a'u cartrefi yn ystod yr Oes Haearn yng Nghymru. Yma gallwch ddysgu mwy am olion Celtaidd Dinas Emrys a Llyn Cerrig Bach.
Dinas Emrys

Bryn creigiog, serth wedi ei orchuddio'n rhannol gan goed ydy Dinas Emrys.
Mae'n codi dros 76 o fetrau ar ochr ddeheuol Cwm Nantgwynant, yn teyrnasu dros Lyn Dinas islaw ac yn ganolbwynt pwysig a hanesyddol i'r ardal.
Mae olion fod pobl wedi byw yn Ninas Emrys yn 么l yn rhan olaf yr Oes Haearn. O edrych yn fanwl, gellir gweld tair rhagfur garreg yma hyd heddiw, gyda mynedfa yn torri ar draws pob un.
Ar 么l i archaeolegwyr gloddio o amgylch y mynedfeydd yma yn 1954-56, credir bod y rhagfuriau mewnol, sydd mwy neu lai'n ffurfio caer arall ar wah芒n ar y copa, yn dyddio'n 么l i'r cyfnod ar 么l Y Rhufeiniaid.
Ceir tystiolaeth o'r enw Dinas Emrys yn 么l yn y 12fed ganrif ac mae'r safle ei hun wedi chwarae rhan allweddol yn nhraddodiad Canoloesol Cymru.
Cr锚d rhai bod gan yr enw gysylltiad ag Emrys Wledig, (Ambrosius), a heriodd Gwrtheyrn, (Vortigern), arweinydd y Y Brythoniaid yn y bumed ganrif.

Mae'r hanesydd Nennius, yn ei Historia Brittonum o'r 9fed ganrif, yn disgrifio pwll sydd yn guddfan i'r ddraig wen a'r ddraig goch - symbol o'r frwydr rhwng y pwerau Celtaidd-Rufeinig a'r pwerau'r Sacsoniaid. Mae rhai yn credu mai hwn yw'r pwll sydd y tu mewn i Ddinas Emrys.
Mae'r dreigiau yn ailymddangos yn stori Lludd a Llefelys yn Y Mabinogi ac mewn fersiynau canoloesol eraill a adroddir gan Gerallt Gymro a Sieffre o Fynwy, mae'r enw Emrys yn gyfystyr 芒'r enw Myrddin.
Mae nifer wedi chwilio am drysor ar y safle, ond yn 1910 mae'r cofnod cyntaf o archwiliad o'r safle pan ddarganfyddodd Major CE Breeze 12 o stydiau efydd eurblat a bar o efydd eurblat wrth f么n y t诺r sgw芒r. Hefyd, yn ardal y pwll darganfyddodd ddolen cyfrwy efydd (math o fwcwl) a oedd yn dyddio'n 么l i'r ganrif gyntaf Oed Crist.
Mae olion rhagfuriau hir i'w gweld ar y safle yn ogystal 芒 sylfaen t诺r sgwar, sy'n dyddio'n 么l i'r 12fed ganrif mae'n debyg.
Hefyd mae olion llwyfan crwn o'r 9fed ganrif neu'n gynharach, sydd wedi ei gysylltu gyda'r pwll.
Llyn Cerrig Bach

Mae Llyn Cerrig Bach yn Ynys M么n yn safle pwysig o Oes yr Haearn lle cafwyd hyd i'r casgliad mwyaf o greiriau o'r cyfnod i gael eu darganfod yng Nghymru erioed.
Cafodd y casgliad hynod ac unigryw ei ddarganfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan adeiladwyd maes awyr Llu Awyr y Fali. Darganfyddodd y gweithwyr dros 150 o nwyddau efydd a haearn yn y mawn lle roedd llyn wedi bod ers talwm.
Mae'r casgliad yn cynnwys cleddyfau haearn, darnau o darian, gwaywffyn, tresi ceffylau, plac efydd, olwynion haearn o gerbydau rhyfel, darnau o grochan a dwy gadwyn o haearn ar gyfer carcharorion (mae modd gweld nifer o'r eitemau yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw a rhai hefyd yn Oriel M么n.)
Y gred yw bod yr eitemau amhrisiadwy yma wedi eu taflu i'r llyn fel offrwm i dduwies y llwyth.
Mae'r nifer fechan o esgyrn anifeiliaid a gasglwyd gan y gweithwyr yn dystiolaeth o offrymau eraill posib. Roedd elfen gref o ddefod ynghlwm wrth yr arferiad o aberthu eitemau drudfawr, yn ogystal ag anifeiliaid a phobl, yn Oes yr Haearn.
Roedd rhai o'r nwyddau metel wedi eu difrodi yn fwriadol. Roedd y cleddyfau haearn wedi eu plygu, gan ei gwneud yn amhosib iddynt gael eu defnyddio eto.
Mae'r darganfyddiadau wedi eu dyddio rhwng yr 2il ganrif Cyn Crist a 60 Oed Crist sydd yn awgrymu bod y llyn wedi datblygu yn fan pwysig i gynnig offrymau i'r duwiau yn ail hanner Oes yr Haearn.
Nid ydym yn gwybod pam fod y llyn yma wedi ei ddewis, ond mae archaeolegwyr wedi dyfalu efallai fod rhywbeth pwysig wedi digwydd yma a bod hynny wedi rhoi arwyddoc芒d i'r safle. Efallai mai ar drothwy ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys M么n y digwyddodd hyn?
Cred llawer bod Llyn Cerrig Bach yn ganolfan bwysig ar gyfer gweithgarwch defodol.
Disgrifiodd yr hanesydd Rhufeinig, Tacitus, Ynys M么n - neu Mona - fel canolfan i b诺er y derwyddon gan ddisgrifio coedlannau derw cysegredig yr ynys. Mae darganfyddiadau tebyg i Lyn Cerrig Bach wedi eu gwneud ar draws y cyfandir ac yn dystiolaeth o'r patrwm o weithgareddau defodol oedd yn gyffredin yn Oes yr Haearn. Wrth ymweld 芒'r safle heddiw yr unig beth sy'n weddill o'r llyn yw ardal fechan o dd诺r. Mae plac ar y safle i ddynodi darganfyddiadau'r Ail Ryfel Byd.