Castell Nedd a Chwm Dulas -Parhad
topParhad i hanes Castell Nedd a Chwm Dulais gan fwrw golwg ar natur a diwydiant ac enwogion yr ardal.
Gwlad y Rhaeadrau
Mae Cymoedd Nedd a Dulais yn cael eu hadnabod fel gwlad y rhaeadrau. Mae harddwch naturiol yr ardal wedi ysbrydoli nifer o arlunwyr fel Richard Wilson, Thomas Hornor a Turner a ddaeth yma i dynnu lluniau o'r rhaeadrau trawiadol.
Gwnaeth Turner lun o raeadr Aberdulais. Mae hanes y rhaeadr hon yn ymestyn dros 400 o flynyddoedd. Ym 1584 dechreuwyd cynhyrchu copr yma ac yn ddiweddarach yn 1830 sefydlwyd gwaith smeltio haearn, malu yd a gwaith tunplat ar y safle. Mae olion y cyfnod diwydiannol hwn i'w weld yma heddiw.
Yn 1991 adeiladwyd cynllun p诺er trydan d诺r yn Aberdulais. Mae'r trydan yn cael ei gynhyrchu gan olwyn dd诺r fawr, y mwyaf yn Ewrop.
Rhaeadr drawiadol arall yw Rhaeadr Melincwrt ger Resolfen. Mae'r rhaeadr yn disgyn 80 o droedfeddi ar un o is afonydd Afon Nedd. Mae Gwarchodfa Rhaeadr Melincwrt yn cynnwys 12 erw o ucheldir coediog.
Bro y ffwrnais
Ar y ffin ogleddol mae gweddillion ffwrnais chwythu a gwaith haearn. Adeiladwyd y gwaith yn y 16eg ganrif a bu haearn yn cael ei gynhyrchu yma am gan mlynedd. Roedd olwyn dd诺r fawr yn cael ei defnyddio i greu ynni a hwn yn defnyddio d诺r oedd yn cael ei gludo uwchben y rhaeadr.
Mae mwy o raeadrau yng ngheunentydd dwfn yr afonydd Mellte, Hepste a Nedd Fechan, rhwng pentrefi Pontneddfechan ac Ystradfellte.
Roedd tipyn o weithgarwch diwydiannol ym Mhontneddfechan ers talwm. Bryd hynny roedd calchfaen yn cael ei dynnu o chwarel Craig Dinas ac yn cael ei gludo gyda chert a cheffyl i Waith Bric Pont Walby. Yno byddai'n cael ei falu er mwyn cynhyrchu calch ar gyfer amaethyddiaeth ac adeiladu.
Un o'r gweithfeydd enwocaf yn yr ardal oedd y gwaith powdr gwn oedd ar lan Afon Mellte. Roedd y powdr yn cael ei ddefnyddio'n bennaf mewn pyllau glo a chwareli, gan gynnwys chwareli Gogledd Cymru. Dewiswyd y safle hwn am ei fod mewn lle anial, roedd hyn yn bwysig oherwydd y posibilrwydd o ffrwydriadau. Hefyd roedd yma ddigon o dd诺r i yrru'r peiriannau a choed i greu golosg.
Caewyd y gwaith ym 1931 wedi i'r Swyddfa Gartref benderfynu gwahardd defnyddio powdr du. Yn 1932 llosgwyd yr adeiladau prosesu a cawsant eu chwalu er mwyn diogelwch. Heddiw dim ond adfeilion sydd ar 么l ond mae modd gweld gweddillion rhai o'r adeiladau a thipyn o'r gwaith carreg enfawr.
Olion Hanesyddol
Diwydiant arall yn ardal Pontneddfechan oedd mwyngloddio. O ddiwedd y 18fed ganrif hyd at 1964 roedd craig silica'n cael ei mwyngloddio. Datblygodd William Weston Young ddull o gynhyrchu briciau t芒n o graig silica Dinas. Roedd gan y g诺r hwn gysylltiadau agos 芒 Chwm Nedd. Roedd y briciau'n cael eu gwneud yng ngwaith bric Pont Walby ac yn cael eu hallforio ledled y byd. Hyd heddiw 'Dinas' yw'r gair Rwsieg am 'fric t芒n'. Mae nifer o drigolion lleol yn credu mai yng Nghraig Dinas mae ogof y Brenin Arthur.
Yn ardal Pontneddfechan mae rhai creiriau o'r cyfnod cyn hanes wedi eu darganfod yn ddiweddar. Efallai mai'r casgliad enwocaf a'r mwyaf trawiadol yw hwnnw a gafodd ei ddarganfod yn Llyn Fawr ar Graig-y-llyn, tua 1,200 o droedfeddi uwchben lefel y m么r.
Mae'n debyg bod hwn wedi ei daflu i'r dwr fel offrwm i dduw'r llyn a'i fod yn rhan o eiddo pennaeth Celtaidd oedd yn byw yma yn nechrau'r Oes Haearn, tua 600 O.C. Dros y ffin ym Mhowys mae pentref Ystradfellte. Dyma lle y daeth gwrthryfel Llywelyn Bren i ben yn y 14eg ganrif. Ildiodd Llywelyn ei hun i'w elynion er mwyn osgoi mwy o niwed i'w ddilynwyr.
Ar y ffordd o Ystradfellte i Defynnog mae carreg Maen Llia sy'n sefyll ar y rhostir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Credir ei fod yn dyddio o'r Oes Efydd. Mae'n debyg bod tua chwarter y garreg wedi ei gwreiddio o dan y ddaear ac felly mae wedi llwyddo i sefyll yn gadarn ymhob tywydd am filoedd o flynyddoedd.
Darganfyddiad Pwysig
Mae'r garreg yn sefyll rhwng dau ddyffryn ac mae modd ei weld o gryn bellter ac o sawl cyfeiriad. Mae hyn yn awgrymu ei fod wedi ei godi er mwyn rhoi arwydd i deithwyr. Yn 么l un chwedl bob tro y bydd bran yn crawcian fe fydd y garreg yn symud ac yn mynd i yfed dwr o Afon Nedd. Mae chwedl arall yn honni bod y garreg yn ymweld ag Afon Mellte ar foreau braf o haf.
Safle arall o bwysigrwydd archeolegol yw'r llecyn ger ochr ddwyreiniol y bont sy'n arwain o Abertawe i Lansawel. Cafodd darganfyddiad archeolegol pwysig ei wneud yma yn ddiweddar pan, darganfyddwyd olion hen gastell Morgan ap Caradog ap Iestyn sy'n dyddio o tua 1208.
Y dyn hwnnw oedd arglwydd Nedd-Afan ac roedd yn gefnder i'r Arglwydd Rhys ac yn fab-yng-nghyfraith i Ifor Bach. Ym 1188 fe dywysodd ef yr Archesgob Baldwin a Gerallt Gymro ar hyd tiroedd Neddac ym 1183 arweiniodd wrthryfel yn erbyn arglwyddi Normanaidd Morgannwg.
Mae nifer o erddi a pharciau gwledig yng nghymoedd Nedd a Dulais. Ger Aberdulais mae gerddi adar enwog Penscynor. Yno yng nghanol y coed mae nifer o anifeiliaid amrywiol fel mwnc茂od, epaod ac adar lliwgar.
Ger Castell Nedd wedyn mae Parc Gwledig y Gnoll. Mae'r parc hwn wedi ei seilio ar ardd dirlun o'r 18fed ganrif ac mae yma amryw o lynnoedd a rhaeadrau. Bu datblygiad uchelgeisiol yma ym 1994 pan adferwyd nifer o'r rhaeadrau a fodolai yma yn y 1720au.
Bonedd y Gnoll
Mae Yst芒d y Gnoll ar ochr orllewinol bryn Cefn Morfydd. Erbyn y 17eg ganrif roedd castell a phlasty wedi eu hadeiladu ar ochr y bryn. Yn 1710 daeth teulu'r Mackworth i fyw yma. Roedd y rhain yn ddiwydianwyr cyfoethog a nhw oedd yn berchen ar y gweithfeydd copr yng Nghastell Nedd. Yn wir gweithgareddau'r teulu hwn oedd yn rhannol gyfrifol am lwyddiant economaidd cynnar Castell Nedd.
Yn 1811 prynodd Henry Grant y stad. Fe werthodd ef ychydig o'r tir ar gyfer adeiladu a chaniataodd i gemau gael eu chwarae ar rai o'r caeau. Ar gaeau y Gnoll mae cartref Clwb Rygbi a Chriced Castell-nedd heddiw.
Parc arall yw Parc Gwledig Afan Argoed. Yma mae Amgueddfa Glowyr De Cymru sy'n adrodd hanes y gl枚wr a'i deulu yng Nghymoedd De Cymru. Mae'r amgueddfa'n cynnwys un o fythynnod traddodiadol y glowyr, lluniau hanesyddol ac offer glofaol.
I'r de o Bort Talbot mae Parc Gwledig Margam sy'n cynnwys nifer o atyniadau diddorol. Mae yma Orendy mawr a adeiladwyd ym 1789, gerddi o'r 19fed ganrif a gardd Siapaneaidd. Yma hefyd mae Abaty Margam. Sefydlwyd yr abaty ym 1147.
Ar un adeg roedd 18,000 acer o dir yn perthyn i'r abaty. Mae rhai o adeiladau'r abaty gan gynnwys yr eglwys wedi eu hymgorffori ym Mharc Gwledig Margam. Yn y parc hefyd mae castell Margam. Adfeilion sydd yma o blasty gothig a adeiladwyd ar ffurf castell. Fe'i adeiladwyd ym 1835 ac mae tyrrau yn rhan o'r adeilad yn union fel castell go-iawn.
Plasty hardd arall yn y fro yw Plasty Aberpergwm sydd yng Nglyn-nedd. Gallai'r teulu a fu'n byw yno am ganrifoedd olrhain eu tras yn 么l hyd at dywysogion cyn-Normanaidd Sir Forgannwg. Bu'r teulu yn enwog am eu parodrwydd i warchod y diwylliant Cymraeg ac i roi nawdd i feirdd o'r 15fed ganrif hyd y 18fed.
Enwogion y Fro
Mae nifer o enwogion wedi eu geni a'u magu yn yr ardal. Yng Nghastell-nedd mae'r arlunydd Will Roberts yn byw. Mae wedi llunio llawer o'i waith creadigol mewn ardaloedd fel Cimla ar gyrion y dref.
I'r dwyrain ym Mhontrhydyfen y magwyd y gantores enwog Rebecca Evans. Astudiodd Rebecca Evans yng Ngholeg Cerdd a Drama'r Guildhall ac wedi hyn dechreuodd ei gyrfa fel soprano gan berfformio mewn oper芒u enwog a chyngherddau mawreddog ar hyd a lled y byd.
Yn yr un pentref y magwyd yr actor Richard Burton (Richard Jenkins). Cafodd ef ei eni yn y pentref hwn ym 1925. Derbyniodd ei addysg yn yr Ysgol Sir ym Mhortalbot. Cafodd ei athro Saesneg yno, Philip Burton, dipyn o ddylanwad arno a chyflwyno byd y ddrama iddo. Aeth Richard Burton wedyn ymlaen i Brifysgol Rhydychen. Yn ystod ei yrfa fel actor fe gymrodd ran mewn amryw o ffilmiau llwyddiannus. Enillodd Wobr yr Academi Ffilm Brydeinig am yr Actor Prydeinig Gorau ddwy waith a nomineiddiwyd ef am yr Oscar 7 gwaith! Bu farw yn y Swistir yn 1984.
Actor arall o'r ardal yw Anthony Hopkins. Cafodd ei eni ym Margam ar gyrion Cwm Nedd ym 1937. Mae'r actor enwog hwn wedi ymddangos yn rhai o ffilmiau mwyaf Hollywood. Enillodd Oscar ym 1992 am ei ran yn 'The Silence of the Lambs'. Ymysg y ffilmiau eraill y mae wedi ymddangos ynddyn nhw mae 'Shadowlands', 'August' a 'Hannibal'.
Dau fab arall o'r ardal sy'n llwyddiannus iawn yn y byd ffilm a theledu yw Michael Sheen a Rob Brydon. Mae Michael Sheen yn actor hynod amryddawn ac wedi ennill cryn glod am ei bortreadau celfydd o Tony Blair, David Frost a Kenneth Williams. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau mawr fel cyfres 'Twilight' a 'Midnight in Paris.' Dychwelodd i Bort Talbot ar ddiwedd 2010 i gymryd rhan yn y 'Passion', cynhyrchiad National Theatre Wales, oedd yn hynod lwydiannus.
Actor comig yw Rob Brydon a gafodd ei fagu yn ardal Baglan, Port Talbot. Mae wedi gwneud ei enw mewn nifer o gyfresi comedi fel 'Marion a Geoff' a 'Gavin a Stacey.'