"Ymunodd fy nhaid 芒'r fyddin yn 1929, a gadawodd yn 1933 ond roedd yn dal yn reservist. Felly, yn 1939 fo oedd un o'r rhai cyntaf i gael ei alw i ymladd yn yr ail ryfel byd.  Roedd allan yng ngwlad Belg yn paffio cyn iddynt gael ordors i fynd yn 么l i Dunkirk yn 1940. Pan ymddangosodd ar raglen deledu efo Gwyn Erfyl, mi ddywedodd mai nhw gafodd flaenoriaeth i ddod n么l i Brydain. Fell aeth yn syth i Dunkirk, syth i'r cei ac o' na. Ond cafodd ei shipio allan wedyn i ogledd Affrica a phaffiodd yn Tubruk. Cafodd ei ddal yna yn 1942 a chafodd ei drosglwyddo i'r Eidal, yna i fyny i Awstria a'r Almaen i weithio mewn gwersylloedd llafur. Tua diwedd y rhyfel, ddaru nhw gael eu martsio ar y long march o'r gwersylloedd llafur nes iddyn nhw gyfarfod 芒'r Prydeinwyr a'r Americanwyr.  Doedd o ddim eisiau siarad am ei brofiadau yn y gwersylloedd llafur. Ar 么l y rhyfel, roedd yn gweithio fel peiriannydd sifil yn y Gold Coast, Dwyrain Affrica a Nigeria. Fo helpodd i adeiladu'r peipiau olew yn y Irac - a dyma fy mrawd yn helpu i'w chwythu nhw i fyny fel milwr yn rhyfel y Gwlff yn 1991."
 |