"Rydyn ni, Rhian, Ceris, Carys a Sioned, yn bedair o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn. "Rydan ni yn mynd i siarad am bobl rydan ni'n meddwl sydd am fod yn enwog yn y dyfodol; felly rydych chi'n gallu gweld y s锚r pan oedden nhw'n iau. Ceri - cantores "'Fy hoff ganwr i ydy Joss Stone oherwydd mae hi'n fy ysbrydoli i ganu. Dim ond 17 oed ydy hi ac mae hi wedi ennill llawer o wobrau yn barod yn y Brits.'  Alex a Tom - p锚l-droedwyr "Hoff chwaraewr: Wayne Rooney, Man U (Alex), Ronaldo, Brazil (Tom). "Hoff d卯m (pwy fydden nhw'n hoffi chwarae iddyn nhw): Man U (Alex a Tom). "Chwaraewr gwaethaf: Crespo (Alex), Zidane (Tom)  Rhodri a Barry - chwaraewyr rygbi "Mae Rhodri a Barry yn hoff iawn o rygbi. Maen nhw yn ardderchog am chwarae i d卯m yr ysgol. "Mi fyddech chi'n gallu adnabod Barry yn unrhyw le oherwydd mae o o hyd yn gwenu ac yn chwerthin. Mae Rhodri dipyn bach fel ei arwr, Shane Williams, oherwydd mae o'n rhoi 100% i bob g锚m!" A beth am y merched eu hunain? Beth yw eu gobeithion nhw i'r dyfodol? Sioned: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn actores oherwydd rwy'n mwynhau actio o flaen cynulleidfa fawr. Fy hoff actorion i yw Orlando Bloom a Brad Pitt oherwydd maen nhw'n actorion ardderchog. A buaswn yn hoff iawn o allu action fel Catherine Zeta Jones."
Carys: "Pan rydw i'n tyfu i fyny, rydw i eisiau bod yn rhywun sy'n dysgu pobl i ddawnsio. Ffilm sydd wedi rhoi'r syniad i fi - Honey - a dwi'n hoffi iawn o wneud dawns i fyny. Buaswn i yn hoffi dawnsio fel J-Lo. Ond, os nad oes gobaith gyda dawnsio, rhywbeth fel beauty therapist i fi!" Rhian: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn ddawnsiwr i rhywun enwog. Rydw i'n meddwl fod Britney Spears a Jennifer Lopez yn dda am ddawnsio." Ceris: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn receptionist mewn gwesty, athrawes neu hairdresser."'
 |