Mwy o luniau T芒n y Ddraig"Noson oer a gwlyb ar ddiwedd mis Awst, ond un o nosweithiau mwyaf gwefreiddiol y dyddiadur byd cerddoriaeth Gymraeg.
"Codais i, a miloedd eraill, fy mhac ac anelu am T芒n y Ddraig yn y Faenol. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi bod yn yr 诺yl o'r blaen, er mai hon yw'r seithfed i gael ei chynnal bellach.
"Ar 么l torri calon am hyd y ciw, synnais mor gyflym yr es i i mewn i'r prif gae. Roedd cryn dipyn o bobol yn eistedd y tu allan yn yfed o ganlyniad i'r gwaharddiad ar ganiau a gwydr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn peri problem i mi oherwydd mae hi'n rheol yr ydyn ni wedi hen arfer 芒 hi yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau bellach.
"Ond darganfyddais drannoeth mai hon oedd yr unig noson lle gorfodwyd y gwaharddiad yma. Dwi yn cytuno gyda'r reol ond dylai gael ei gweithredu drwy gydol yr 诺yl yn y dyfodol.
"Gelwir y noson hon yn noson y werin, ac roedd y werin allan yn un llu. Roedd pobol o bob cenhedlaeth yno'n mwynhau cantorion fel Elin Fflur, The Proclaimers ac Anweledig. Roedd yr hen blant yn rhedeg o gwmpas wedi cynhyrfu'n l芒n am iddynt gael bod yno.
"Profiad gwych oedd gweld Huw Jones yn fyw gyda band ysblennydd a Heather Jones yn ymuno ag o ar y llwyfan. Digrif oedd y merched canol oed yn rhuthro i gael gweld yn well ac yn sgrechian wrth i'w ffefryn ddod ymlaen. Uchafbwyntiau ei berfformiad oedd D诺r a Dwisio Bod Yn Sais - ymgasglodd y dorf yn y blaen i wneud dawns anhysbys, ond ymunodd pawb yn yr hwyl.
"Rhwng pob un o'r bandiau mawr trydanol roedd sets acwstig gwych gan amryw o fandiau fel Brigyn a Dan Amor a gwnaeth hyn i'r amser rhwng pob band fynd heibio'n bleserus ac roedd yn atal diflastod.
"Ond The Proclaimers oedd y band a gynhyrfodd y dorf a heidiodd pawb i'r llwyfan. Roedd pawb wedi cyffroi ar y dechrau, ond ciliodd hyn wrth iddynt ganu rhai o'u caneuon arafach. Mewn gwirionedd, dim ond un neu ddwy o ganeuon roedd y rhan fwyaf o bobol yn eu hadnabod, er hynny, pan ddaeth hi'n dro'r '500 miles' adnabyddus, gwallgofodd pawb unwaith eto.
"Daeth Anweledig a'r glaw efo nhw o Flaenau Ffestiniog i'r Faenol ac roedd hi'n amhosib i unrhyw un aros yn sych. Ond roedd digon o bobol yn barod i ddawnsio fel mwnc茂od gwyllt i ganeuon fel Cae yn Nefyn a Dawns Y Glaw, er gwaetha'r drochfa.
Manteisiodd Anweledig ar y cyfle i arddangos rhai o'u caneuon newydd, er i'r prif leisydd, Ceri, gael trafferth cofio ei eiriau. Golygodd broblemau technegol hefyd bod rhaid disgwyl sbelan cyn i'r gerddoriaeth ddechrau ac roedd y band ar goll am beth i'w wneud a'i ddweud yn y cyfamser. Serch hynny roedd eu perfformiad yn llawn hwyl a gw锚n ac erbyn y diwedd roedd y dorf yn gweiddi am fwy.
"Daeth Bryn Terfel allan i gloi'r noson gyda pherfformiad anhygoel o Hen Wlad Fy Nhadau dan y t芒n gwyllt a oedd yn ddiwedd perffaith i benwythnos llwyddiannus arall yn hanes G诺yl y Faenol."
Angharad Dubheasa
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.