Disgyblion y dyffryn ar daith i Batagonia
"Bydd criw ohonom ni, fyfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn mynd ar daith i Batagonia am fis gan adael ar Orffennaf 16eg. Byddwn yn cyrraedd Buenos Aires gan aros yno am ychydig ddiwrnodau er mwyn cael blas ar ddiwylliant yr Ariannin, gan gynnwys dysgu dawnsio'r Tango ac ymweld 芒 chofeb i'r gwrthryfelwr Ernesto 'Che' Guevara.
Wedi i ni adael y brifddinas byddwn yn ymweld 芒 Phorth Madryn gan gymryd rhan mewn gweithgareddau ecolegol megis mynd ar daith ar gwch i wylio morfilod. Yn ogystal, cawn gyfle i weld bywyd gwyllt sy'n hollol estron i ni yma yng Nghymru, gan gynnwys morfilod a sawl math gwahanol o bengwin.
Yna byddwn yn aros yn y pentref Cymreig, y Gaiman: yno rydym yn gobeithio ymweld 芒'r ysgol uwchradd leol gan weld y gwahaniaethau rhwng gogledd Cymru a'r Wladfa ym myd addysg a diwylliant. Yn ogystal, cawn gyfle i ymweld 芒 chalon y gymdeithas gan gynnwys y capeli, tai te a'r siopau lleol.
Yna, o'r Gaiman byddwn yn teithio i ardal El Bolson, ardal fynyddig, oer gydag eira'n flanced dros y mynyddoedd drwy gydol y flwyddyn. Yma, byddwn yn cael cyfle i gerdded drwy'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio gyda gwyrddni hyd yn oed yng nghanol oerni'r Gaeaf a heibio llynnoedd glas a chlir fel gwydr. Gyda'r nos byddwn yn dychwelyd i gytiau pren clud o'r enw 'Refugios' er mwyn cael cynhesu o flaen fflamau'r t芒n a chael noson dda o gwsg.
Yna byddwn yn teithio i ardal Esquel, ardal ble mae cymuned gl貌s o frodorion yr Ariannin o'r llwyth Mapuche yn byw. Cawn y cyfle i ddysgu rhai o'r plant yn yr ysgol leol, rhoi cymorth i adnewyddu'r ysgol neu weithio ar y fferm sy'n cynhyrchu bwyd ar gyfer yr ysgol. Bydd hyn yn gadael i ni gyfarfod plant sydd wedi cael eu dwyn i fyny mewn cymdeithas, diwylliant ac ardal hollol wahanol i ni ein hunain gan ddysgu amdanyn nhw a'u bywydau.
Ar 么l yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau di-stop cawn gyfle i ymlacio drwy deithio i fyny i ogledd yr Ariannin neu efallai Brasil hyd yn oed a chael gweld rhaeadrau Iguaza a chael cyfle i fynd ar daith gwch ar hyd yr afon. Bydd bywyd gwyllt yn yr ardal yn unigryw gan gynnwys mwnc茂od ac adar gwyllt o bob math.
Yna, cyn dychwelyd adref byddwn yn teithio'n 么l i Buenos Aires a mwynhau pryd o fwyd er mwyn dathlu'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gwblhau y daith fythgofiadwy; yn ogystal cawn y cyfle i brynu anrhegion i'n teulu neu f芒n bethau i'n hatgoffa o'n hamser yn yr Ariannin.
Dyma fy mhrofiad o ambell i ddigwyddiad a gafodd ei drefnu er mwyn casglu arian ar gyfer y daith:
Gig codi arian
Nos Wener Mawrth 24ain bu gig yn Neuadd Ogwen, Bethesda er mwyn casglu arian ar gyfer ein taith i Batagonia. Y band cyntaf i berfformio oedd 'Y Rocars Cymraeg' - Wyrligigs, tri bachgen lleol, y ddau frawd Tom a Sion Williams a'u cyfaill Ben Tunicliff; sy'n cael ei henwi fel y band i gadw llygad barcud arno gan bawb o Radio 1 i Bandit.
Cafwyd perfformiad gwefreiddiol gan y band ifanc disglair, gan gynnwys deunydd eu hunain megis Dave y Jynci, Gwrth-gymdeithasol ac Y Rocars Cymraeg, sef y g芒n sydd wedi cael ei rhyddhau fel eu sengl cyntaf. Yn ogystal cafwyd perfformiadau cyffrous o ganeuon The Ramones, The Undertones a Green Day. Roedd y dorf yn mynd yn wyllt gan floeddio pob gair a neidio i rythm Blitzkreig Bop gan The Ramones. Roedd y band yn hoelio sylw'r dorf yn syth, gan edrych cystal, os na gwell nag unrhyw fand ar glawr y NME, yn ogystal 芒 neidio o amgylch y llwyfan gan ddangos eu bod wedi ymgolli'n llwyr yn y gerddoriaeth. Gorfodwyd y band i berfformio encore gan weiddi taer y dorf, cyn gadael y llwyfan i wneud lle i Frizbee.
Daeth Frizbee ar y llwyfan gyda'r dorf yn disgwyl yn eiddgar am berfformiad cyffrous arall. Cafodd y dorf ei difetha gan Frizbee gyda set yn cynnwys llond llaw o ganeuon newydd oddi ar yr albwm Pendraw'r Byd a ryddheir cyn bo hir, yn ogystal 芒 chaneuon adnabyddus. Roedd y caneuon newydd yn wych, fel rydym wedi dod i'w ddisgwyl gan y band poblogaidd, prysur hwn. Gweidda'r dorf y frwd am y ffefrynnau, ac ar 么l ei cadw'n aros, daeth bloedd o lawenydd pan berfformiwyd Da Ni N么l a Heyla. Roedd y band yn diddanu'r dorf rhwng caneuon gyda j么cs a hanesion difyr, gan ychwanegu at yr hwyl a gafwyd ar y noson.
Roedd y noson yn llwyddiant, ac ni fyddai wedi bod felly heb ymdrechion Wyrligigs, Frizbee, Rhys Mwyn, John (Siop John), Keilly Tugwell a Guto Wyn, felly diolch yn fawr iawn i chi oll.
Darllenwch adolygiad o CD y noson.
Abseil noddedig
Dyma fy mhrofiad ysgytwol i o gymryd rhan mewn abseil noddedig oddi ar y T诺r I芒 yng Nghastell Penrhyn ar gyfer casglu arian i dalu am ein taith i Batagonia. Bu i'r abseil ddigwydd (llun uchod) ar Ebrill 2il, diwrnod gwlyb a gwyntog, a'r peth olaf oeddwn i eisiau ei wneud oedd mynd allan, heb s么n am abseilio.
Cyraeddasom Castell Penrhyn 芒'r gwynt a'r glaw wedi dod allan yn arbennig ar gyfer yr abseilio. Y peth cyntaf i'm croesawu ar 么l gadael y bws mini oedd golygfa oedd yn ddigon brawychus i wneud i'm gwaed oeri: bachgen yn hongian ar ben i lawr oddi ar y T诺r I芒. Roeddwn i bron iawn 芒 throi'n 么l a'i heglu hi am adref, ond roedd rhaid cadw wyneb o flaen gweddill y criw a meddwl am y pryfocio di-ben-draw a gawn gan fy nhad petawn i'n gwrthod y sialens yn ddigon i roi ychydig o nerth i mi.
Cerddasom i fyny grisiau'r T诺r I芒 fel 诺yn i'r lladd-dy. Stryffaglio i roi'r harnes ymlaen. Clic y bwcl, a chefais fy ngharcharu yn yr harnes. Cawsom oll helmed, gan wneud i mi edrych yr un mor wirion ag yr oeddwn i'n teimlo.
Yna, i fyny i'r lefel nesaf lle bu rhaid i ni aros am sbelan oherwydd y tywydd difrifol oedd yn golygu bod popeth ar ei h么l hi. Am dros awr b没m yno'n hel meddyliau gan sgyrnygu ar bawb.
Yna daeth yr awr fawr, a bu raid i mi stompian i fyny'r ystol gyda phosteri nawddoglyd yn cyhoeddi You Can Do It gan dynnu blewyn arall o nhrwyn. Cyrhaeddais y lefel nesaf gan weld bod un ystol arall i fynd; roedd mynediad i'r uchelfannau trwy hatch ar ben yr ystol a'r llwybr yno'n f'atgoffa o'r llwybr i'r crocbren.
Daeth Guto Wyn, arbenigwr mynydda Ysgol Dyffryn Ogwen gyda darn o siocled er mwyn gwneud i bopeth edrych yn well. Aeth Gwydion, arweinydd ein taith i Batagonia i fyny gyntaf er mwyn ceisio tawelu ein meddyliau a rhoi hwb i'r rhai ohonom oedd yn poeni am y profiad oedd yn ein hwynebu. Yna fyny 芒 mi, ac allan i'r glaw a'r gwynt oedd yn chwipio'n ddidrugaredd. Cefais fy nghlymu i ddwy raff oedd yn ymddangos yn ddigon tila, ond roedd hi'n rhy hwyr: roedd fy mywyd yn dibynnu'n gyfan gwbl ar y ddwy raff a'r dyn oedd yn gyfrifol amdanynt.
Y sialens fwyaf oedd rhoi ffydd yn y rhaffau a chamu'n 么l dros ochr y t诺r. Yna cerdded i lawr y wal fel Spiderman, ond yn anffodus cefais fy nhraed yn sownd yn y rhaffau gan beri i mi hongian nes i'm cymhorthydd lwyddo i'm rhyddhau gan roi ystyr cwbl newydd, yn fy meddwl i, i'r term 'laid back'.
Yna heibio'r bargod ac i lawr y t诺r; roedd hyn yn rhwydd o'i gymharu 芒'r antur cynharach. Yr unig beth gallwn i glywed oedd fy nhad yn gweiddi mai i lawr oedd y ffordd i ddod, fel petawn i ddim yn gwybod hynny a minnau'n hongian ar y rhaff fel pry genwair ar lein bysgota, a chyn wlyped hefyd.
Terra firma o'r diwedd!"
Megan Jones, Tregarth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.