成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Maffia Mr Huws yn Pesda Roc 2006 Pesda Roc 2006
Roedd hi'n benwythnos o roc a rol o'r 80au a'r 00au yn Pesda Roc yn 么l Megan Jones o Dregarth.
Dydd Sadwrn
"Mehefin 17eg, prynhawn braf o haf a'r haul yn gwenu ar gaeau D么l Dafydd, Bethesda. Llond cae o bobl yn gorwedd yn yr haul yn disgwyl yn eiddgar i wledd Pesda Roc gychwyn.

Daeth Red Nature i'r llwyfan gyda phwysau'r enwau mawrion oedd i ddilyn ar eu hysgwyddau, ond nid oedd unrhyw arwydd o hyn ar berfformiad llawn hyder y band ifanc hwn. Nesaf ar y llwyfan roedd Rickoshay band sydd eisoes wedi blasu llwyddiant drwy gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2, a chafwyd perfformiad llawn egni oedd yn ail-fyw y cyffro, gan ennill mwy o ddilynwyr i'r band addawol hwn. Band ifanc mewn blynyddoedd, ond eang mewn profiad yw Wyrligigs, gyda pherfformiad ar Bandit a'u caneuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru a Radio 1 eisoes. Cafwyd perfformiad egn茂ol a ddaeth a'r dorf ar ei thraed i gydganu a chyd-ddawnsio 芒'r band llawn bwrlwm.

Genod Droog Y band NAR oedd yn cael cyfle i ddisgleirio nesaf, a roedd prif leisydd y band yn amlwg yn mwynhau'n arw, gan ddawnsio o amgylch y llwyfan fel dyn gwyllt. Band lleol, Winabego, oedd nesaf ar y llwyfan. Cafwyd perfformiad proffesiynol disglair gyda chaneuon delfrydol ar gyfer diwrnod diog yn yr haul ganddyn nhw.

Roedd y maes yn llenwi, y dorf yn y blaen yn twchu ac ymlaen ddaeth Genod Droog. Roedd y dorf yn amlwg wedi bod yn edrych ymlaen i'r perfformiad hwn, gyda'r lle yn dod yn fyw unwaith y daeth y band i'r llwyfan. Roedd y dorf i'w chlywed yn bloeddio gyda'r band a daeth aelodau o'r band i ganol y maes i ddawnsio gyda'r dorf gan ychwanegu at yr ymdeimlad o barti llawn hwyl oedd eisoes yn bodoli, yn enwedig wedi i brif leisydd Genod Droog daflu bal诺n anferth i ganol y dorf.

Sibrydion oedd ar y llwyfan nesaf, a'r cynnwrf wedi bod yn cynyddu yn ystod y dydd, a phawb methu 芒 disgwyl i'w gweld yn perfformio. Cafwyd hwyl wrth i'r band daflu cas诺s a chrysau T i'r dorf, a phawb yn ymladd am y gorau am yr anrhegion annisgwyl. Roedd y dorf yn cydganu a dawnsio i nifer o ganeuon y band gan gynnwys V.V.V. a Dafad Ddu, a chafwyd perfformiad anhygoel o'r g芒n dawelach a mwy rhamantus na'r arfer, Disgyn Amdanat Ti. Yn ogystal, cafodd y dorf berfformiad gwefreiddiol o g芒n newydd y band Madame Guillotine, a phwnc y g芒n, y fflagiau Seisnig di-ri ar geir yng Nghymru, yn amlwg wedi taro'r hoelen ar ei phen, yn 么l yr ymateb a gafwyd gan y dorf.

Sibrydion Cafwyd perfformiad gogoneddus gan Mim Twm Llai nesaf oedd yn arddangos ei ddawn ddi-gwestiwn i ddweud stori a'i grefft pan yn ymdrin 芒 geiriau. Roedd ei ganeuon melodig yn cyd-fynd yn berffaith 芒'r tywydd braf a'r ymdeimlad o brynhawn diog yn yr haul. Roedd y disgwyl yn frwd i'r perfformiwr nesaf, neb llai na Geraint Jarman. Daeth Geraint Jarman i'r llwyfan, dechreuodd y dawnsio, a phawb yn codi i'w traed fel ton anferth yn llyncu'r cae. Cafwyd perfformiadau gwefreiddiol o'r clasuron: Gwesty Cymru, Sgip ar D芒n a Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb, gyda'r cae yn ysgwyd a chrynu i rythm y reggae. Roedd y dorf wrth ei bodd, a'r band i'w weld yn mwynhau bron cyn gymaint 芒'r dorf. Roedd y dorf wedi ei swyno, gan fethu tynnu ei llygaid o'r llwyfan ac oddi ar y dewin disglair yn dawnsio a chanu.

Hogiau lleol, Maffia Mr Huws. Pesda'n ffrwydro'n un cawl o ganu a neidio gwyllt. Dechrau'r set gyda ch芒n leol, i bobl leol 'L么n Osgoi Drwy'r Coed', a'r dorf yn bloeddio'r geiriau, hyd yn oed y rhai hynny a gafodd eu geni ymhell ar 么l i'r g芒n gael ei rhyddhau. Roedd rhieni a phlant yn cydganu a chyd-ddawnsio, ac oed ac awdurdod wedi eu hanghofio ynghanol bwrlwm y mwynhau. Roedd y dorf yn wyllt, a'r band yn mwynhau bod yn 么l adref a chael yr ymateb syfrdanol sydd ddim ond yn bosibl ei gael gan eich pobl eich hun, yn eich milltir sgw芒r. Daeth y noson i derfyn gyda phawb yn bloeddio Hen Wlad Fy Nhadau nerth esgyrn eu pennau.

Dydd Sul
Mehefin 18fed. Y tywydd wedi troi, a glaw yn disgyn ym Methesda (dyna i ni syndod!). Ond nid oedd y glaw yn ddigon i ddifetha Pesda Roc, wedi'r cwbl mae gwisgo cot law yng nghanol yr haf yn ailnatur i bobl y pentref glawog hwn. Yn ystod y prynhawn cafwyd perfformiadau gan nifer o gorau'r ardal gan gynnwys perfformiad gwefreiddiol a llawer mwy disgybledig na ddisgwyliwyd gan berfformwyr mor ifanc gan ddisgyblion ysgolion cynradd y fro. Yn ogystal, cafwyd perfformiadau proffesiynol disglair gan G么r Meibion y Penrhyn, Hogia'r Bonc, Cororion a'r Boncathod. Roedd y cymylau'n gwgu dros y cae pan ddaeth Nathan Williams i'r llwyfan, gan godi gw锚n ar wyneb y dorf er y tywydd bondigrybwyll. Cafwyd perfformiad gwych gan yr artist ifanc, gan ganu caneuon am gariad a gollwyd a dyddiau melys yn yr haf, roedd hyn yn ddigon i gael pawb yn dawnsio fraich ym mraich, gan weld haul yr haf yn hytrach na'r glaw di-stop. Bu'n rhaid i Galasia, band diweddaraf Martin Beattie (gynt o Celt) dynnu allan oherwydd anaf. Felly daeth hogyn lleol arall, Iwcs, i berfformio gan achub y dydd. Roedd Iwcs yn amlwg yn mwynhau perfformio o flaen torf leol, a chafodd y dorf ei gwobrwyo gyda llond llaw o ganeuon newydd. Ond er ei fod wedi tyfu i fyny, nid yw Iwcs wedi colli ei allu i ddiddanu a chael hwyl, a chafodd y dorf y fraint o glywed rhai o glasuron Iwcs a Doyle yn fyw.

Frizbee Frizbee, band ifanc, bywiog a llwyddiannus oedd nesaf i gymryd yr awenau. Maent eisoes wedi blasu ffrwyth eu llafur, wedi iddynt deithio i bob cwr o Gymru a chael trafferth cael amser i gael eu gwynt atynt. Cafodd y dorf wledd o g芒n gan gynnwys danteithion oddi ar dair CD: Hirnos, Lennonogiaeth a'r albwm ddiweddaraf, Pendraw'r Byd sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dechreuodd Frizbee y set gyda Pendraw'r Byd ac Adenydd Chwim, caneuon perffaith ar gyfer cael y dorf yn dawnsio. Roedd y dorf yn g么r gan ganu pob gair o bob c芒n gyda'r prif leisydd carismatig a'r merched i gyd yn heidio tuag at y llwyfan i gael golwg ar y triawd golygus, gan sgrechian yn ddi-baid rhwng y caneuon. Roedd prif leisydd y band yn neidio a sgipio o amgylch y llwyfan gan ddefnyddio ei git芒r fel arf i swyno'r dorf, a'i fwng o wallt cyrls yn wyllt.

Daeth rhamant i Pesda Roc pan berfformiwyd 'Dan Ni'n N么l', ffefryn perfformiadau byw Frizbee, ac roedd hynny'n amlwg o'r angerdd yng nghanu'r prif leisydd a chanu'r dorf. Daeth y set i ben yn llawer rhy gynnar gyda Dora Gusan. O'r diwedd daeth seren y noson, Bryn F么n, i'r llwyfan, a'r dorf yn bloeddio a sgrechian, cyn iddo agor ei geg hyd yn oed. Cafwyd perfformiad gwefreiddiol a llawn bywyd, fel rydym wedi dod i ddisgwyl gan Bryn F么n, a phawb, pob un person yn y cae, yn cydganu geiriau pob c芒n. Cafodd y dorf ei sbwylio gydag un perfformiad cofiadwy ar 么l y llall; Abacus, Yn yr Ardd ac Yn y Dechreuad. Uchafbwynt y noson oedd Ceidwad y Goleudy, gan ddod a thawelwch syfrdanol i Pesda Roc am y tro cyntaf trwy gydol y penwythnos. Cafwyd hwyl mawr yn ystod Rebal Weekend, gyda'r dorf yn morio canu. Mynnodd y dorf yn daer am 'encore', ac roedd Bryn F么n yn fwy na hapus i gael teimlo gwefr perfformio unwaith yn rhagor. Cafwyd perfformiadau ardderchog o Un Funud Fach a Chelsea Hotel i gloi'r noson, cyn i bawb, Bryn F么n, y band a'r dorf uno i ganu'r anthem, nes ysgwyd pentref Pesda i'w sylfaeni.

Penwythnos gwerth chweil, a Pesda wedi profi ei bod dal yn gallu rocio."

Megan Jones, Tregarth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy