成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mim Twm Llai Eira Mawr Mim Twm Llai
"Rhagfyr 3ydd. Daeth y 'Dolig yn gynnar i Galeri, Caernarfon, gyda pharti lawnsio albwm newydd Mim Twm Llai, Yr Eira Mawr", meddai Megan Jones o Dregarth.
"Dim ond un broblem, dim albwm newydd i'w lawnsio. Roedd y CDs wedi llwyddo i fynd ar gyfeiliorn ar eu ffordd i Gaernarfon, ond cafwyd noson ardderchog er yr anffawd hon.

Dechreuodd y noson gyda pherfformiad gan yr hogia' trwsiadus o ardal Blaenau, Gwibdaith Hen Fr芒n. Band gwerin, ifanc gyda phob un fel pin mewn papur mewn crys a thei, yn llawn hwyl oedd yn byrlymu oddi ar y llwyfan, gan ei gwneud hi'n amhosibl i'r gynulleidfa beidio 芒 gwenu.

Roedd y caneuon yn ysgafn gan ddangos synnwyr digrifwch amlwg y band gyda chaneuon megis Coffi Du a Twmpath Twrch Daear. Caneuon achosodd chwerthin di-ri.

Cafwyd perfformiad disglair gan chwaraewr y bas dwbl. Roedd yn amlwg yn mwynhau perfformio a'r gynulleidfa wedi'i swyno gan ei 'stumiau. Roedd perfformiad y band yn dangos mai criw o ffrindiau oeddent yn mwynhau cwmni ei gilydd a pherfformio gyda'i gilydd, bron cymaint ag oedd y gynulleidfa'n mwynhau'r perfformiad.

Ond ymysg y bwrlwm a'r bywyd, cafwyd caneuon llawn cariad a cholli gan ddangos nad oedd y band ofn dangos ei ochr sensitif ac agor eu calonnau. Roeddwn yn hoff iawn o'r g芒n am Wlad y Basg oedd yn dangos hiraeth yr hogia' am eu ffrindiau yno, gan gyfleu'r hwyl a gafwyd, bwrlwm y canu, dawnsio a'r yfed.

Cafwyd set o awr gan y band, y caneuon yn llifo, y gynulleidfa wrth ei bodd a'r amser yn hedfan fel Gwibdaith Hen Fr芒n.

Cafodd y gynulleidfa gyfle i gael ei gwynt ati yn ystod yr egwyl, cyn daeth seren y noson Mim Twm Llai i'r llwyfan. Safai Gai Toms ar ben ei hun ynghanol y llwyfan wedi'i wisgo mewn du o'i goryn i'w sawdl, gan agor y perfformiad gyda'r g芒n dyner 'Penblwydd'.

Nid canu'n unig yw talent Mim Twm Llai , a dangoswyd eu dawn actio gan ddod 芒 bywyd i nifer o'u caneuon. Daeth gweddill y band i'r llwyfan a Phil Jones gyda ffon gerdded gan 'Wisgo'i Hen Het Drilbi', a chafwyd perfformiad arbennig o'r g芒n honno.

Cafwyd gwledd o ganu gan gynnwys caneuon oddi ar y dair albwm, 'O'r Sbensh', 'Straeon y Cymdogion' ac 'Yr Eira Mawr'. Roedd y perfformiad o 'Rhosyn Rhwng Fy Nannedd', un o fy hoff ganeuon, yn gwbl anhygoel gan achosi i mi wenu fel gi芒t a rhamant y geiriau'n toddi'r galon oeraf.

Mwynheais 'Clwb y Tylluanod', un o ganeuon mwyaf roc a r么l Mim Twm Llai, yn enwedig felly wedi i aelodau'r band wisgo mygydau pluog, lliwgar! Yn ogystal, cafwyd perfformiad o 'Tafarn yn N么l Rhedyn', c芒n werinol, wych, gan ddangos dylanwad bro eu magwraeth ar eu caneuon. Cawn ddelwedd o fwynhau, chwerthin, yfed a merched cefn gwlad, a'r hwyl sydd i'w gael ym mhleserau syml bywyd.

Bu Mim Twm Llai yn ddigon cl锚n i berfformio rhai o'u caneuon newydd sbon megis Yr Eira Mawr, c芒n berthnasol iawn i dymor y 'Dolig, sy'n ymdrin 芒 phroblem tlodi a byw ar y strydoedd dros yr 诺yl. Roedd y g芒n hon yn ddigon i dorri eich calon gan ddisgrifio dyn yn gorfod ymbil am sbarion i'w gadw'n fyw 芒'r Eira Mawr yn dyfod.

C芒n sy'n dangos datblygiad yn agwedd Mim Twm Llai gan ddangos eu cydwybod gymdeithasol. Yn ogystal, cafwyd perfformiad o Ellis Humphrey Evans, c芒n ddirdynnol am dristwch, diffyg pwrpas a ffolineb ei farwolaeth, ac am yrru bechgyn ifanc Cymru i farw fel 诺yn i'r lladd-dy.

Perfformiwyd cerdd gan Gai Toms o'r enw 'Dan Ni'n Gwrando Eto?', gan gwestiynu gweithredoedd ein hoes a'n parodrwydd i gau ein llygaid a diystyru problemau enbyd y byd, os nad ydynt yn effeithio ar ein bywydau gorgyfoethog a gorgyfforddus.

Cafwyd caneuon oedd yn dod 芒'r gynulleidfa'n fyw megis 'Chwil Sobor' a 'O Ble Gai Eda?', hanesion am fywyd mewn band; y teithio di-ben-draw gan ymweld 芒 phob tafarn ar hyd y ffordd, a chanlyniad hynny: bod yn 'chwil sobor' drwy gydol yr amser!

Yn ogystal cafwyd caneuon oedd yn myfyrio ar gariad gan gynnwys 'Llenwi Gofod fy Mreichiau' a 'Mor Dda i Mi', dwy g芒n dyner, deimladwy ddaeth 芒 thawelwch llethol i'r theatr. Agorodd Mim Twm Llai eu calonnau, gan ddangos pa mor unig yw bywyd wedi i fflam cariad ddiffodd, ac ar y llaw arall y llawenydd diamod, di-ben-draw a di-gwestiwn a geir wedi i chi syrthio mewn cariad.

I orffen y noson perfformiwyd 'Pam Bod Eira'n Wyn?', gan ddod 芒 gogwydd newydd i'r clasur gan Dafydd Iwan. Er bod y perfformwyr yn wahanol, roedd yr angerdd a'r p诺er yn parhau. Yn olaf, perfformiad ddaeth 芒 gw锚n i'r gynulleidfa, Sunshine Dan - c芒n wych, llawn egni, bwrlwm a bywyd.

Diwedd perffaith i noson ardderchog."

Megan Jones, Tregarth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy